Bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yn cael cynnig prawf hunan-sgrinio am ganser y coluddyn ac yn derbyn pecyn sgrinio drwy’r post o ddydd Mercher (Hydref 9).

Bydd y sgrinio yn helpu i ganfod canser y coluddyn cyn i symptomau ddatblygu.

Mae modd i’r prawf ganfod polypau, sef tyfiannau nad ydyn nhw’n ganser, a bydd modd i’w tynnu er mwyn atal canser rhag datblygu.

Mae’r oedran cymwys ar gyfer profion sgrinio canser y coluddyn wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf, a hynny yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Drwy ostwng oedran y rhai sy’n gymwys, mae mwy o achosion o ganser y coluddyn yn cael eu canfod yn gynharach.

Bydd y broses sgrinio yn cynnwys prawf imiwnocemegol ysgarthol (FIT), sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn cynnwys sensitifrwydd cynyddol.

Y gobaith yw y bydd hyn yn gallu canfod canser y coluddyn yn well, gan gynyddu nifer y bobol sy’n manteisio ar brawf sgrinio yn y garfan bresennol o ddynion a menywod rhwng 51-74 oed.

Prawf all “achub eich bywyd”

Yn ôl Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru.

Dywed mai’r ffordd orau o sicrhau hyn yw ceisio cael diagnosis o ganser “ar gam cynharach”, a bod y sgrinio yn rhywbeth sydd yn helpu i wneud hynny.

“Pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, mae’n fwy tebygol y gellir ei drin,” meddai.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfradd gwella canserau sy’n cael eu canfod trwy brofion sgrinio’r coluddyn yn 90%, ac mae bron i naw o bob deg o bobol yn goroesi canser y coluddyn pan fyddan nhw’n cael diagnosis yn y cam cynharaf.

“Rwy’n falch iawn y bydd miloedd yn rhagor o bobol yng Nghymru yn cael y profion sgrinio’r coluddyn i’w gwneud yn eu cartrefi.”

Mae’n annog unrhyw un sydd yn gymwys i gael y prawf i achub ar y cyfle, gan nodi y “gall achub eich bywyd”.

“Hanfodol” canfod canser yn gynnar

Mae Steve Court, Pennaeth Sgrinio’r Coluddyn Cymru, yn “falch iawn” fod oedran rhaglen Sgrinio’r Coluddyn bellach wedi gostwng.

Dywed fod canfod yn gynnar yn “hanfodol” yn y frwydr yn erbyn canser y coluddyn.

“Rwy’n annog pawb sy’n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen hon, sy’n gallu achub bywydau, pan fyddan nhw’n cael eu cit drwy’r post.

“Gall wella cyfraddau goroesi yn sylweddol trwy ganfod canser yn gynnar, ar gam sy’n ymateb yn well i driniaeth.”

‘Carreg filltir enfawr’

Dywed Gerard McMahon, Pennaeth Polisi a Dylanwadu (Gwledydd Datganoledig) Bowel Cancer UK, ei bod hi’n “garreg filltir enfawr” cael gweld gostyngiad yr oedran sgrinio, rhywbeth maen nhw wedi bod yn ymgyrchu drosto ers tro.

“Mae bron i 2,400 o bobol yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn yng Nghymru,” meddai.

“Gyda rhaglen sgrinio gadarn ar waith, gallwn sicrhau bod mwy o bobol yn cael diagnosis cynnar, pan fydd y clefyd yn haws ei drin.

“Rydym yn gobeithio gweld ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru o ran optimeiddio a sicrhau cyllid priodol ar gyfer sgrinio.

“Gwyddom fod anghydraddoldebau o hyd o ran cymryd rhan mewn sgrinio, a hynny ym mhob rhan o’r wlad.

“Rhaid mynd i’r afael â hyn, a pharhau i wella sensitifrwydd presennol y prawf FIT yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (UKNSC).”

Ychwanega ei fod yn “edrych ymlaen” at gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni “amcanion allweddol”, gan “wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn yn y pen draw.”

Mae disgwyl i’r rhaglen sgrinio ar gyfer pobol 50 oed ddod i rym yn raddol yn ystod y deuddeg mis nesaf.