Gyda machlud haul y dydd Mercher aeth heibio, dathlwyd Blwyddyn Newydd yr Iddew: Rosh Hashanah (2-4/10). Hanfod yr Ŵyl yw pwyllo – yng nghanol prysurdeb bywyd – pwyllo gan ystyried diben a chyfeiriad ein byw. Cyfrir bendithion, nodir gwendidau, ystyrir y drwg a’r da a wnaethpwyd a nas gwnaethpwyd, gan erfyn, a derbyn maddeuant gan Dduw a chymydog. Fel hyn mae Rabi Jonathan Sacks (1948-2020) yn cyfleu hanfod yr Ŵyl:

It’s a bit like the two files I keep on my desk. One is very large, and marked ‘urgent’. The other is thin and a bit neglected. It’s marked ‘important’. Rosh Hashanah is when we ignore the urgent and concentrate on the important: life as the most precious gift of God.

From Optimism to Hope (Bloomsbury Continuum, 2004)

Prin fod angen ychwanegu dim at y geiriau rheini, ar wahân i nodyn syml i danlinellu eu pwysigrwydd. Mor hawdd y collir bywyd wrth fyw – colli’r darlun wrth geisio diogelu’r ffrâm; colli’r cnewyllyn yn ein gofal am y plisgyn; colli’r hyn ydym yn o iawn yng nghanol yr hyn oll a ddisgwylir i ni fod. Wrth geisio canolbwyntio ar y pethau ‘pwysig’ mawr, anghofir y pethau ‘hanfodol’ sydd mor aml, yng nghudd yn neunydd y beunydd bach.

Iddewon ai peidio, mae neges Rosh Hashanah yn gwbl allweddol i bob perchen ffydd: mae’n rhaid ar adegau ystyried beth sydd yn llywio a lliwio’n bywyd:

“Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon; profa fi, iti ddeall fy meddyliau. Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi, ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.

(Salm 139: 23 a 24)

I orffen, dyma stori fach fawr am y Rabi Meshulam Zusha (1718-1800).

Roedd Zusha’n marw, a meddai, “A minnau wyneb yn wyneb â Duw, pe bai’r Bod Mawr yn gofyn i mi, “Zusha, Zusha, pam na fuost fel Moses?” Byddaf yn medru ateb yn hawdd ddigon: “Nid Moses mohonof, f’Arglwydd Dduw. Ond, pe bai Duw yn gofyn: “Zusha, Zusha, pam na fuost yn Zusha?” Pa ateb bydd gennyf iddo?”

Ambell dro yn unig mewn bywyd y byddwn byw. Byr a brau yw bywyd person ac, o’r herwydd, cwbl allweddol yw oedi ar brydiau – pwyllo a challio – i ystyried hanfod ein byw, gwaelod a gwraidd ein bywyd: pwy ydym, ac os ydym yr hyn y bwriadwyd i ni fod. Fel hyn y dywed yr Arglwydd:

“Ystyriwch eich cyflwr…”

(Haggai 1:5)

 

“Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed” (Marc 4:23), meddai Iesu.