I ddathlu Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi, sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Hydref, mae golwg360 wedi bod yn holi rhai o wynebau adnabyddus y sîn gerddoriaeth yng Nghymru am eu hoff ganeuon. Y tro yma, y rapiwr a bît-bocsiwr Mr Phormula (Ed Holden) sy’n ateb ein cwestiynau…


Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Hip-hop efo samplau llinynnol hapus, neu Drum’n’Bass efo melodies egnïol. Dw i’n big fan o ganeuon hip-hop gan griwiau fel Gang Starr / Little Brother, neu stwff newydd fel J. Cole, drum ’n ’bass – mae Flava D Human Trumpet yn un wych am feib positif.

Mr Phormula

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Reelin’ In the Years gan Steely Dan, mae’n atgoffa fi o Dad a phlentyndod hapus.

 

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

Caneuon Prodigy fel Firestarter, Chemical Brothers It Doesn’t Matter, a Rage Against the Machine Bulls on Parade.

 

Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi?

Prodigy – Fat of the Land.

 

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?

Diesel Power gan Prodigy – wnaeth y gân yma siapio fi fel artist ac ysbrydoli fi mewn ffordd enfawr!

Gwyl Lleisiau Eraill Aberteifi
Llun: @JennieCaldwell

Bydd pumed ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei chynnal yn y dref dros benwythnos Hydref 31.

Bydd dros 80 o setiau byw mewn lleoliadau ar draws Aberteifi, o hip-hop i werin, roc i R&B, a phopeth yn y canol.

Rhai o’r artistiaid o Gymru fydd yn cymryd rhan yn Y Llwybr Cerdd yw Cynefin, Lleuwen, Melin Melyn, Mr Phormula, Sage Todz, Tara Bandito, a The Gentle Good, ynghyd â llu o artistiaid eraill.

Mae’r sesiynau ‘Clebran’ yn dychwelyd i Theatr Mwldan, lle bydd siaradwyr blaenllaw yn dod ynghyd i rannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau newydd ar rai o faterion mawr y dydd. Yn eu plith mae Carwyn Graves, Carys Eleri, Delyth Jewell, Lowri Cunnington Wynn, yr Athro Laura McAllister, Noel Mooney, a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost.

Elfen newydd i’r ŵyl eleni yw ‘Clebran ar y Llwybr’, sef cyfres o sgyrsiau agos-atoch gyda rhai o artistiaid ‘Y Llwybr Cerdd’, fydd yn digwydd yng Nghapel a Festri Bethania. Bydd y cerddor Lleuwen yn siarad â’r cerddor a chyflwynydd radio Georgia Ruth yn un o’r sgyrsiau hyn ac, wythnos nesaf, Lleuwen fydd yn ateb cwestiynau golwg360 am ei hoff ganeuon.

Am fanylion llawn am yr ŵyl ewch i https://www.othervoices.ie/events/other-voices-cardigan-2024.