Mae’r Theatr Genedlaethol am gynnal prosiect ar y cyd â theatr ASHTAR ym Mhalesteina eleni, i “dynnu sylw” at y sefyllfa ddyngarol ym Mhalesteina ar hyn o bryd, yn ôl eu Cyfarwyddwr Artistig Steffan Donnelly, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 am y prosiect.
Bydd y prosiect yn dod â beirdd ifainc 16-25 oed o Gymru a Phalesteina at ei gilydd er mwyn meithrin dealltwriaeth rhyngddiwylliannol.
Gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, bydd y ddau gwmni’n cynnal gweithdai wythnosol, fydd yn dechrau ar Hydref 12.
Yn y pen draw, bydd disgwyl i gyfranogwyr gynhyrchu cerdd dairieithog yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg, yn ogystal â ffilm fer yn trafod yr hyn fydd cyfranogwyr wedi’i ddysgu.
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal ar yr un pryd â pherfformiadau’r Theatr Genedlaethol o’r ddrama Fy enw i yw Rachel Corrie, am ymgyrchydd gafodd ei lladd ym Mhalesteina.
‘Gwaith hanfodol’
“Mae’r ffigyrau’n erchyll, o ran nifer y bobol sydd wedi cael eu lladd, a’r holl blant diniwed sydd wedi’u clymu i mewn i’r peth,” meddai Steffan Donnelly wrth golwg360 am y sefyllfa ym Mhalesteina.
O ganlyniad, roedd y Theatr Genedlaethol yn teimlo bod dyletswydd arnyn nhw i godi ymwybyddiaeth, meddai, ac yntau’n ymwybodol o theatr ASHTAR a’u gwaith.
Mae theatr ASHTAR yn deillio o Ramallah, prifddinas y Lan Orllewinol, ac maen nhw’n defnyddio technegau dramatig amrywiol, megis theatr y gorthrymiedig, er mwyn helpu pobol ifanc i amgyffred y trychinebau sy’n digwydd o’u cwmpas.
‘Theatr y gorthrymiedig’ ydy’r enw ar ddull theatrig gafodd ei ddatblygu gan Augusto Baol, y dramodydd o Frasil, yn y 1970au.
Ei nod yw ceisio ysgogi newid gwleidyddol a chymdeithasol drwy orfodi’r gynulleidfa i ryngweithio â’r ddrama, ac felly i ddadansoddi ac i drawsnewid y byd o’u cwmpas.
Yn ôl Steffan Donnelly, mae’r technegau hyn yn “galluogi pobol ifanc i ddod i dermau efo beth sy’n digwydd o’u cwmpas nhw, ac yn creu gofod i allu siarad a mynegi eu hunain ar adeg mor erchyll”.
Ond nid pobol ifanc Palesteina’n unig fydd yn elwa, meddai.
“Mae sgwrs bwysig i’w chael yno hefyd gyda phlant Cymraeg a phobol ifanc Cymru, i rannu diwylliant, i rannu ieithoedd, ac i rannu sefyllfaoedd presennol.
“Un o arfau pwysicaf theatr ydy empathi.
“Mae hyn yn dod i graidd un o ffocysau’r Theatr Genedlaethol, sef creu gwaith sy’n ymateb i’r byd o’n cwmpas ni – bod theatr yn fforwm i gael sgyrsiau heriol am sefyllfa bresennol y byd.”
Gweithdai “gwerthfawr ofnadwy”
Dydy’r trefnwyr yng Nghymru erioed wedi cyfarfod â’u partneriaid ym Mhalesteina, oherwydd yr heriau sydd ganddyn nhw wrth geisio gadael y wlad.
O ganlyniad, mae’r holl brosiect wedi’i drefnu’n ddigidol.
Mewn sgyrsiau dros y we rhwng Sian Elin James, Cydlynydd Cyfranogi’r Theatr Genedlaethol, a Konrad Suder Chatterjee, Swyddog Cyfathrebu a Datblygwr Adnoddau Theatr ASHTAR, y cafodd y syniadau ar gyfer y gweithdai eu dyfeisio.
Eu cynllun ydy gwahodd artistiad o Balesteina a Chymru sydd eisioes wedi sefydlu’u hunain er mwyn cynnal y gweithdai ar ran y cyfranogwyr ifanc. Yn eu plith mae Nia Morais, Bardd Plant Cymru, a bardd o Balesteina, a bydd y ddau’n arwain sesiynau’n ceisio cyfansoddi’r campwaith tairiethog.
Ond nid dim ond y “waddol artistig” fydd canlyniad y prosiect, yn ôl Steffan Donelly.
“Bron yn fwy na beth sy’n dod allan o’r prosiect, y broses sy’n bwysig – hynny yw, gofyn beth fydd y bobol ifanc yn ei ddysgu, yn ei rannu, sut fydd hyn yn effeithio ar y ffordd maen nhw’n edrych ar eu rôl nhw yn y byd.
“A sut ydyn ni, fel Cymry, fel cymdeithas, yn ymateb gyda phobol eraill mewn gwledydd eraill?
“Dw i’n meddwl bod yna rywbeth rili cyffrous ym mhroses y prosiect, a dw i’n credu y bydd hynny’n werthfawr ofnadwy.”
Bydd y gweithdai’n para pedair sesiwn, ac yn cael eu cynnal bob dydd Sadwrn, gan gychwyn ar Hydref 12 – ac eithrio bwlch o wythnos ar gyfer hanner tymor.
‘Fy enw i yw Rachel Corrie’
Mae’r Theatr Genedlaethol ar daith ar hyn o bryd yn perfformio drama sy’n cydfynd â’r prosiect gyda theatr ASHTAR, sef cyfieithiad o’r gwaith Americanaidd Fy enw i yw Rachel Corrie.
Stori am heddychwraig Americanaidd ifanc gafodd ei lladd gan fyddin Israel tra’n ymgyrchu yn Gaza yn 2003 ydy’r ddrama.
Mae Fy enw i yw Rachel Corrie yn gyfieithiad gan Menna Elfyn o waith gafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol gan y newyddiadurwr Katharine Viner a’r actor Alan Rickman.
Bydd y ddrama’n cael ei pherfformio yn Galeri Caernarfon ar Hydref 16, yn Theatr Sherman Caerdydd ar Hydref 18, ac yn yr Egin yng Nghaerfyrddin ar Hydref 19.