Mae Canolfan Genedlaethol y Delyn Deires wedi cael ei hagor mewn hen gapel ger Tywyn.
Rhiain Bebb, y cerddor o Fachynlleth, sydd wedi addasu’r hen gapel, Ystradgwyn, er mwyn cael lle i gynnal sgyrsiau am hanes y delyn deires, i delynorion gael cyd-chwarae a rhoi cynnig ar y delyn deires.
Mae gan yr offeryn, fu unwaith yn boblogaidd iawn ar hyd y wlad, dair rhes o dannau yn hytrach nag un rhes fel sydd ar delyn bedal glasurol.
Mae modd i delynor atseinio’r un alaw ar y naill ochr ar yr un pryd, gan greu sain unigryw.
Bydd cyfle i delynorion gael rhoi tro ar un o delynau teires bychain ‘Nansi’ mae Rhiain Bebb wedi’u comisiynu dros y blynyddoedd gan wneuthurwr yn Plymouth yn Nyfnaint.
Yn anffodus, nid oes gwneuthurwyr telynau teires yng Nghymru mwyach, er eu bod nhw’n niferus yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda nifer fawr ohonyn nhw yn Llanrwst.
Mewn cyfweliad yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Golwg, dywedodd Rhiain Bebb mai pwrpas y Ganolfan “ydi mynd ymlaen efo’r offeryn, a chael mwy o bobol i chwarae’r offeryn”.
“Wrth gwrs, er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid edrych yn ôl i weld beth ydi’r seiliau. Allwch chi fynd ymlaen wedyn i le bynnag rydach chi eisiau.”
Ar y waliau y tu mewn i’r capel mae paneli gwybodaeth yn rhoi hanes y delyn yng Nghymru, ynghyd â hanes y delyn deires yn benodol, y gwneuthurwyr, yr alawon a hanes Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, a Nansi Richards, Telynores Maldwyn – dwy weithiodd yn galed i sicrhau parhad traddodiad y delyn deires.
Dywed nad amgueddfa mohoni, ond “canolfan sy’n adrodd hanes er mwyn dangos pwysigrwydd gwarchod a hybu dysgu’r deires i delynorion y dyfodol”.
Mae Rhiain Bebb yn un o gyd-sylfaenwyr y Gymdeithas Delyn Deires, gafodd ei sefydlu yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019.
Ei chwaer wedi prynu’r capel
Yr unig waith addasu mae Rhiain Bebb wedi’i wneud i’r adeilad yw symud y sedd fawr i wneud lle i delynau a thelynorion o flaen y pulpud.
Ei chwaer, sy’n byw drws nesaf i’r capel, oedd wedi prynu capel Ystradgwyn rai blynyddoedd yn ôl, a hynny er budd y gymuned.
Mae’r capel led cae o gartref y teulu, Llwyn, lle mae eu brawd yn dal i ffermio.
Fe fydd y gymuned leol hefyd yn cael defnyddio’r Ganolfan i gynnal cyfarfodydd dros y gaeaf.
Fe fydd y Ganolfan yn agored i’r cyhoedd drwy apwyntiad yn unig ar hyn o bryd, drwy gysylltu â Rhiain Bebb, a bydd gwefan ar gael yn fuan gyda manylion sesiynau blasu ac ati.
Hanes y delyn deires
O ddegawdau olaf y ddeunawfed ganrif, roedd y delyn deires yn boblogaidd yn niwylliant gwerin Cymru.
Erbyn canol y ganrif wedyn, dyma oedd ein hofferyn cenedlaethol.
Tua diwedd y cyfnod Fictorianaidd, daeth y delyn bedal glasurol i ddisodli’r hen delyn deires fach.
Nid oes gwneuthurwyr telynau teires yng Nghymru bellach.
Mae Rhiain Bebb wedi cyfansoddi darn arbennig i’r delyn deires ar gyfer y Ganolfan, yn dwyn enw’r hen gapel, ‘Ystradgwyn’.