Mae’r Blaid Lafur wedi cael eu cyhuddo o roi’r gorau i frwydro ac o wneud addewidion gwag, ar ôl i waith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot ddod i ben ar ôl dros ganrif.
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth dynnu sylw at addewidion cyn yr etholiad gan Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y byddai’n brwydro dros bob un swydd yn Tata Steel a dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru.
“All y Prif Weinidog ddweud wrthym pam fod Llafur wedi rhoi’r gorau i’r frwydr honno?” gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i Eluned Morgan ddydd Mawrth (Hydref 1), ddiwrnod yn unig ar ôl cau ffwrnais chwyth pedwar.
Fe wnaeth Eluned Morgan ddadlau bod Llafur wedi gallu negodi cytundeb gwell na’r Torïaid, gyda phecynnau diswyddo a sgiliau gwell, yn ogystal â chadw ar gyfer hyfforddi.
“Fe fu sicrwydd y bydd y £500m sy’n mynd i gael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei grafu’n ôl pe na bai swyddi’n cael eu cyflwyno,” meddai.
“Doedd dim o hynny yn y cytundeb gafodd ei negodi gan y Ceidwadwyr.”
‘Sicrwydd’
Mae disgwyl colli hyd at 2,800 o swyddi yn rhan o’r trawsnewidiad i ffwrneisi arc trydan mwy glân a rhad yng ngweithfeydd dur mwya’r Deyrnas Unedig.
Mewn datganiad yr un diwrnod, dywedodd Rebecca Evans fod y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata Steel “yn dod â sicrwydd o leiaf i’r dyfodol a’r camau nesaf”.
Dywedodd Ysgrifennydd Economi newydd Cymru, gafodd ei phenodi ym mis Medi, wrth y Senedd fod y cytundeb “pellach” yn cynnwys 100 o swyddi fel rhan o gynllun tebyg i ffyrlo sy’n cael ei ariannu gan Tata.
Nododd fod oddeutu £25m wedi cael ei fuddsoddi mewn rhaglenni cyflogaeth megis ReAct+ a Cymunedau Am Waith+, gyda mwy na 700 o weithwyr yn cael mynediad at raglenni uwchsgilio.
Wrth addo cefnogi busnesau’r gadwyn gyflenwi, eglurodd fod Busnes Cymru wedi lansio cronfa yn rhan o’r £80m gafodd ei ymrwymo i drawsnewidiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae’r cytundeb yn adeiladu pont tuag at ddyfodol cystadleuol a chynaliadwy ar gyfer dur yng Nghymru,” meddai.
‘Addewidion gwag’
Ond dywedodd y Ceidwadwr Tom Giffard y byddai nifer o weithwyr wedi pleidleisio dros Lafur yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf o ganlyniad i’r addewidion gafodd eu gwneud gan y blaid.
Dywedodd fod honiadau bod y cytundeb “yn wahanol iawn” i’r un gynigiodd ei blaid “yn ymestyn tu hwnt i grediniaeth”, gyda BBC Cymru yn disgrifio’r cytundebau fel rhai sydd “bron yn union yr un fath”.
“Fydd gorfoledd y Blaid Lafur am newidiadau bach mewn ysgrifen fach ddim yn cynnig llawer o gysur mewn cartrefi lle mae gweithwyr yn wynebu’r realiti o golli eu swyddi,” meddai wrth y Siambr.
“Nid dyna gafodd ei werthu iddyn nhw chwaith gan Blaid Lafur a phrif weinidog ddywedodd un peth cyn yr etholiad lawer gwaith, a gwneud y gwrthwyneb yn llwyr wedyn.”
Fe wnaeth Tom Giffard, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru, ymbil ar Lafur i ymddiheuro am addewidion gwag.
‘Dim cynllun’
Dywedodd Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, y gallai’r Ceidwadwyr a Llafur fod wedi atal colli’r gwaith craidd o gynhyrchu dur yng Nghymru.
“Dywedodd aelodau ar feinciau Llafur… drosodd a throsodd fod ganddyn nhw gynllun i achub dur Cymreig – ac mai’r cyfan oedd angen i ni ei wneud oedd aros yn eiddgar am Keir Starmer.
“Ac roedd gen i obaith… ond, yn y pen draw, doedd gan Lafur ddim cynllun.”
Fe wnaeth Luke Fletcher gyhuddo gwleidyddion Llafur blaenllaw o ystumio dros y flwyddyn ddiwethaf, gan feirniadu gweinidogion Cymru a’r Deyrnas Unedig am “wrthod” archwilio’r holl opsiynau.
“Yr hyn oedd ei angen oedd ewyllys a dewrder gwleidyddol gan ein harweinwyr, a dyna’n union gawson ni ddim,” meddai wrth y Siambr.
“Dywedwyd wrthym am aros ac aros ac aros – tan ei bod hi’n rhy hwyr.
“Dw i ddim yn siŵr y bydd y gweithwyr ym Mhort Talbot, eu teuluoedd na’r gymuned ehangach yn maddau i ni am yr hyn sy’n digwydd yr wythnos hon – ac alla i ddim gweld bai arnyn nhw.”
‘Sgorio pwyntiau’
Pwysleisiodd David Rees, sy’n cynrychioli Aberafan ac sy’n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar ddur, na fyddai Tata yn ildio o ran cau’r ffwrnais chwyth.
“Rhaid i ni edrych ymlaen nawr,” meddai.
“Dydy pobol Port Talbot ddim eisiau bod pwyntiau gwleidyddol yn cael eu sgorio yn y Siambr hon heddiw.
“Maen nhw eisiau gwybod beth wnawn ni i’w cefnogi nhw.”
Rhybuddiodd yr Aelod Llafur o’r Senedd y bydd symud at ffwrneisi arc trydan yn cymryd pedair neu bum mlynedd, wrth iddo alw am gefnogaeth i sicrhau bod gweithwyr, teuluoedd a chymunedau’n goroesi yn y cyfamser.
Dywedodd Sioned Williams o Blaid Cymru ei bod hi bellach yn teimlo’n sâl wrth edrych ar y gorwel ym Mhort Talbot, gan wybod fod gobeithion miloedd o bobol wedi cael eu diffodd mewn trawsnewidiad “anghyfiawn”.
“Dw i’n ei chael hi’n wythnos drist iawn,” meddai Mike Hedges o’r Blaid Lafur, sy’n gyn-weithiwr dur fu’n gweithio ym Mhort Talbot.
“Rydyn ni wedi gweld diwedd cynhyrchu haearn a dur yng Nghymru.”