Mae 17 o brosiectau arloesol o bob rhan o Gymru wedi cael hyd at £125,000 yr un trwy’r Gronfa Sgiliau Creadigol.

Cafodd y cyllid ei gyhoeddi gan Jack Sargeant, Gweinidog Diwydiannau Creadigol Cymru, heddiw (dydd Mercher, Hydref 2).

Nod y gronfa, sydd bellach yn ei hail rownd, yw meithrin talentau drwy hyfforddi a meithrin sgiliau unigolion ar draws sawl sector creadigol, gan gynnwys sgrîn, cerddoriaeth, technoleg ymgolli, animeiddio a gemau.

Cafodd y rownd gyntaf ei hagor yn 2022, gyda thros 27,000 o bobol yn elwa arni, a bron i 500 o gyrsiau hyfforddi a 435 o leoliadau gwella sgiliau’n cael eu darparu.

Ymhlith y rhai fydd yn derbyn arian mae:

  • Creative Sparc gan Barc Gwyddoniaeth Menai – prosiect traws-sector sy’n darparu pedwar llinyn gwahanol, gan gynnwys gweithio gyda 250 o blant ysgol gynradd i integreiddio’r diwydiannau creadigol o fewn y cwricwlwm a chyflogi graddedigion diweddar mewn sectorau creadigol allweddol penodol yng ngogledd Cymru.
  • Animeiddio gan Media Academy Cymru – datblygu dau gwrs BTEC newydd sy’n canolbwyntio ar animeiddio 2D, 3D a stop-symudiad.
  • ‘A new game plan for Wales’ gan Esports Wales – Mae Esports Wales yn bwriadu estyn eu rhaglen academi i gwmpasu Cymru gyfan a chynnig sesiynau blasu, rhwydweithio a datblygu gyrfa.
  • Cerrig camu at ôl-gynhyrchu, gan Gorilla Academy – rhaglen i ddarparu cyrsiau ôl-gynhyrchu yn y Gymraeg, gan helpu i fynd i’r afael â’r prinder cydnabyddedig mewn sgiliau golygu Cymraeg.
  • Anthem Gateway, gan Anthem Music Fund Wales – gwefan ar gyfer cerddorion a phobol greadigol ifanc sy’n chwilio am lwybr i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd nawr yn cynyddu ac yn cynhyrchu deunydd rheolaidd deniadol i gyrraedd mwy o bobl ac i estyn ei gynulleidfa.

Hijinx

Derbyniodd Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, gefnogaeth yn rownd flaenorol y gronfa i ddarparu sesiynau ReFocus (hyfforddiant i bobol ag anableddau dysgu i’w cynnwys yn y diwydiant sgrin).

Maen nhw wedi llwyddo i sicrhau nawdd yn y rownd ddiweddaraf hon hefyd.

Fel rhan o’r gwaith, maen nhw wedi sefydlu sesiynau hyfforddi i Alluogwyr Creadigol, sef hyfforddi pobol i helpu a grymuso artistiaid byddar, dall, anabl a/neu niwroamrywiol i fod yn greadigol ar lefel broffesiynol.

“Rwy’n gweithio gyda phobol ifanc sydd ag anableddau amrywiol neu anghenion ychwanegol ac rwy’n gobeithio dysgu mwy trwy’r hyfforddiant hwn ynghylch sut y gallwn eu cefnogi i gynhyrchu eu gwaith gorau,” meddai Mari Luz Cervantes, sy’n actor, ymarferydd theatr gymunedol a hwylusydd.

“Bydd y prosiect yn gwneud gwahaniaeth mawr.

“Bydd pobol na fyddai eu hanghenion efallai wedi cael eu hystyried o’r blaen yn awr yn gallu cael eu gweld ar ffilm ac yn y theatr.”

Dywed Sami Dunn, arweinydd mynediad Hijinx ac arweinydd eu sesiynau Galluogi Creadigol, eu bod nhw “wedi dechrau gweld cynnydd yn y defnydd o dalentau pobol ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn y diwydiannau artistig”.

“Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i feithrin sgiliau a recriwtio galluogwyr creadigol ledled Cymru i ymateb i’r cynnydd hwnnw a chefnogi actorion anabl i ffynnu yn y diwydiant,” meddai.

“Nid yw diwydiant y celfyddydau mor gynhwysol a hygyrch ag y gallai ac y dylai fod, ac mae angen cefnogaeth gan bobl i fod yn rhan o bontio’r bwlch hwnnw.

“Mae cael Galluogwr yn gweithio gydag artist ag anabledd dysgu/awtistiaeth ar gynhyrchiad yn golygu y gall yr artist ganolbwyntio ar actio.

“Os oes unrhyw broblem ynghylch hygyrchedd, gall y Galluogwr gefnogi ac eirioli.”

‘Pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i Gymru yn glir’

Mae Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant, newydd ymweld ag un o sesiynau Hijinx i weld beth maen nhw’n gallu ei wneud, diolch i’r cyllid.

“Mae pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i Gymru yn glir – nid yw’n fater o greu swyddi yn unig,” meddai.

“Mae cysylltiad annatod rhyngddo â’n diwylliant, ein lles a’n hunaniaeth.

“Rydym am gael sector creadigol sy’n adlewyrchu ac yn cynrychioli ei gynulleidfaoedd, yn darparu cyfleoedd gwaith teg a hygyrch, ac yn denu, datblygu ac yn cadw talent o bob cefndir.

“Roedd yn wych ymweld â Hijinx a gweld y gwaith gwych a’r bobol maen nhw’n gallu eu cynnal a’u helpu, diolch i’n Cronfa Sgiliau Creadigol.

“Rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw gyda’u gyrfaoedd creadigol.”