Mae teulu merch gafodd ei tharo gan gar ym Mhen Llŷn yn pwysleisio pwysigrwydd cadw canolfan yr ambiwlans awyr yng Nghaernarfon.

Cafodd merch Ffion Jones, Nanw sy’n bump oed, ei tharo gan gar ym mhentref Mynytho ganol mis Medi.

Y disgwyl yw y bydd canolfannau’r ambiwlans awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng yn cau, er bod ymgyrchwyr wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol i’r penderfyniad.

Mae teulu Nanw Jones hefyd yn galw am fesurau pellach i arafu traffig ar ffordd B4413 yn y pentref, ac mae deiseb wedi denu bron i 350 o lofnodion hyd yn hyn.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd gan yr ambiwlans awyr, gan fod yr ambiwlans cyffredin agosaf awr i ffwrdd, ar ôl torri ei phenglog a chael cyfergyd.

Treuliodd dridiau yn yr ysbyty ar ôl y ddamwain ar Fedi 18, ond mae hi bellach wedi dychwelyd i’r ysgol.

“Yn lwcus”, roedd y gyrrwr yn cadw at y cyfyngiad cyflymder o 20m.y.a. sy’n mynd drwy’r pentref.

“Efo Nain oedd Nanw ar y pryd yn cerdded i parc, a be’ wnaeth wneud iddi fynd i’r lôn dydyn ni ddim yn gwybod, ond mi aeth,” meddai Ffion Jones, ei mam, wrth golwg360.

“Roedden ni newydd gyrraedd adre o’n gwyliau’r diwrnod yna yn fuan yn bore, felly doedd Nanw ddim wedi bod yn yr ysgol y diwrnod hwnnw achos bod hi wedi cysgu ers dod nôl, a Nain wedi dod draw a chynnig mynd â hi i’r parc i weld ei ffrindiau ar ôl iddyn nhw ddod o’r ysgol, wedyn dyna ddigwyddodd.

“Lwcus, mewn ffordd, bod y gyrrwr yma’n cadw i’r 20m.y.a.; mae o wedi dangos i ni faint mor bwysig ydy o.

“Os fysa fo hyd yn oed yn gwneud 30m.y.a., fysa hyd yn oed y deg milltir o wahaniaeth yna… fysa’r impact lot gwaeth.

“Doedd Nanw ddim wedi brifo o gael ei tharo, mewn ffordd; doedd yna ddim marc ar y fan.

“Mae hi jyst wedi disgyn ac yn anffodus wedi glanio ar ei phen, wedyn roedd ganddi hi fractured skull o hynny.”

‘Angen yr ambiwlans awyr’

Y bwriad yw canoli gwasanaethau’r ambiwlans, a chyn dilyn adolygiad, cytunodd penaethiaid iechyd i ganoli’r gwasanaeth, wedi i adroddiad nodi y byddai newid lleoliad yr hofrenyddion a cherbydau ffordd yn galluogi’r gwasanaeth i ymateb i 139 o alwadau brys ychwanegol bob blwyddyn.

Roedd yr ambiwlans arferol awr i ffwrdd o Fynytho pan ddigwyddodd damwain Nanw Jones, a byddai wedi cymryd awr arall iddyn nhw gyrraedd Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Wedi iddi gyrraedd, tua ugain munud gymerodd hi i’r ambiwlans awyr fynd â hi i Fangor.

“Dw i’n meddwl bod o mor bwysig yma ym Mhen Llŷn; pan wnaeth yr Ambiwlans Awyr gyrraedd ni, doedd ganddyn nhw ddim pryderon mawr am Nanw o’u gwiriadau nhw.

“Roedd ei phen hi’n brifo, ond doedden nhw methu gweld dim byd mawr ar y pryd, y CT scan sydd wedi dangos y fracture wedyn.

“[Yn yr ambiwlans awyr] Wnaeth Nanw ddirywio ychydig bach, taflu fyny a ballu, ond dw i’n meddwl mai effaith ei bod hi wedi hitio’i phen oedd hynny.

“Ond roedd hi’n bwysig bod yr ambiwlans awyr wedi mynd â ni mor sydyn, a Nanw wedi cael y gofal ac wedi cael y sgans yma i gyd yn sydyn.

“Gafodd hi ofal ofnadwy o dda yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae hi’n bwysig pwysleisio hynny hefyd, ein bod ni angen [yr ambiwlans awyr] yma ym Mhen Llŷn.

“Mae Bangor yn bell i ni, yn enwedig os does yna ddim ambiwlans ar gael; rydyn ni’n dibynnu ar yr ambiwlans awyr, mewn ffordd.

“O ran amser, does gen i ddim cof, ond fe wnaeth hi gyrraedd ni’n sydyn.”

Nanw a’i theulu

‘Pryderon ers blynyddoedd’

Mae trigolion y pentref ger arfordir deheuol Llŷn wedi bod yn ceisio cael twmpathau cyflymder neu fesurau arafu traffig eraill yn y pentref, hyd yn oed cyn i’r cyfyngiadau cyflymder newid.

“Dw i wedi gweld pobol yn overtake-io ar yr un stretch lle ddigwyddodd y ddamwain,” meddai Ffion Jones.

“Mae hi’n lôn fawr, mae hi’n un o’r prif ffyrdd ym Mhen Llŷn, ac mae hi’n lôn eithaf syth, ac mae hi’n bendant yn eithaf anodd cadw at yr 20m.y.a., achos mae 20m.y.a. yn araf deg, ond ar stretch mae o’n teimlo lot arafach.

“Tasa fo’n yrrwr fysa’n mynd lot cynt, fysa’n sefyllfa ni lot gwaeth rŵan.

“Mae yna bryderon wedi bod ers blynyddoedd bod yna rywbeth yn mynd i ddigwydd – rydyn ni’n lwcus bod yna ddim byd i wedi digwydd tan rŵan – ond mae yna ddamwain wedi digwydd a ti ddim eisiau iddo fo ddigwydd eto.

“Dw i’n gwybod bod cyllid a ballu’n broblem, ond mae pobol yn annog plant i feicio a cherdded i’r ysgol, ac yn lle ddigwyddodd y ddamwain mae’r palmant yn stopio ac mae’n rhaid i chdi groesi i’r ochr arall i gerdded i’r ysgol ac i’r parc.”