Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi arian i wella gofal llygaid, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Ar hyn o bryd, mae 80,000 o bobol sydd â’r risg mwyaf o golli eu golwg yn aros yn hirach na’u targed am apwyntiadau.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn codi’r mater yn y Senedd fory (dydd Mercher, Hydref 2), ac maen nhw’n annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynd i’r afael â’r rhestrau aros am driniaethau llygaid.

Fis Ebrill eleni, roedd dros 104,000 o lwybrau cleifion yng Nghymru’n aros am apwyntiad offthalmoleg.

Hyd at fis Gorffennaf, roedd 50.7% o’r cleifion sydd â’r risg uchaf o golli’u golwg yn aros yn hirach na’u targed am driniaeth.

Cynnydd yn y galw

Mae Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn amcangyfrif y bydd y galw am wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru’n cynyddu rhwng 30% a 40% dros yr ugain mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd, mae 112,000 o bobol ledled Cymru’n byw â cholled golwg, ond mae disgwyl cynnydd gan fod y boblogaeth yn heneiddio, bod gwell ymwybyddiaeth am bwysigrwydd iechyd y llygaid a bod triniaethau newydd ar gael ar gyfer cyflyrau nad oedd posib eu trin cynt.

Dros y degawd diwethaf, mae’r galw am wasanaethau llygaid wedi cynyddu dros 50% ond y gweithlu wedi gostwng 2%.

Yn 2021, fe wnaeth Adolygiad Allanol annibynnol i Wasanaethau Gofal Llygaid yng Nghymru, gafodd ei gomisiynu gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r llywodraeth, amlygu’r angen i ailsiapio’r gwasanaethau a gwneud argymhellion ar gyfer model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Hyd yn hyn, dydy Llywodraeth Cymru heb wneud ymrwymiad i weithredu’r strategaeth na buddsoddi mewn gofal, a does dim cynllun cenedlaethol ar gyfer gostwng nifer y cleifion sy’n colli’u golwg wrth aros am driniaeth.

Yn 2023, cafodd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr eu comisiynu i greu Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg.

Dylai’r strategaeth osod sylfaen hirdymor ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.

‘Llenwi Stadiwm Principality’

Mae’r sector gofal llygaid yn rhybuddio bod “peryg” y gall peidio gweithredu “arwain at gwymp gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru”.

Byddai nifer y bobol sydd mewn perygl o golli’u golwg yn “llenwi Stadiwm Principality” bellach, yn ôl Nathan Owen, Rheolwr Materion Allanol RNIB Cymru, sy’n gweithio ar ran pobol sy’n colli’u golwg.

“Mae dros 80,000 o gleifion gofal iechyd sydd â’r risg uchaf o golli’u golwg yn barhaol yn aros rhy hir am eu hapwyntiadau.

“Yn anffodus, i nifer sy’n colli peth o’u golwg, neu’r cwbl, gellid bod wedi osgoi hynny pe baen nhw wedi cael eu gweld ar amser.

“Dyma pam fod RNIB Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar arbenigwyr gofal iechyd ac ymrwymo i newid gwasanaethau gofal llygaid nawr.

“Gyda phob mis sy’n pasio heb ymrwymiad i wella gofal llygaid, mae cannoedd o bobol yn cael eu hychwanegu at restrau aros, ac mae’r gobaith o fynd i’r afael â’r argyfwng yn lleihau.”

‘Gosod targedau a buddsoddi arian’

Yn sgil eu pryderon, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • dderbyn argymhellion y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg, ac ymrwymo i fuddsoddi’r arian sydd ei angen i atal gwasanaethau gofal llygaid rhag chwalu ledled Cymru;
  • gosod targedau ac amserlenni i wella rhestrau aros, a sicrhau bod cleifion sy’n aros yn cael gwybod am eu risg clinigol;
  • cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu record cleifion a system gyfeirio electroneg.

Dywed Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylai stopio colled golwg mae modd ei atal fod yn nod cenedlaethol.

“Mae dros hanner cleifion gofal llygaid dal mewn perygl o niwed parhaol gan eu bod nhw’n aros rhy hir am driniaeth yma yng Nghymru dan y blaid Lafur,” meddai.

“Dyna pam fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno dadl i annog y llywodraeth Lafur i fuddsoddi’r arian angenrheidiol, mabwysiadau argymhellion y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg a blaenoriaethu gostwng rhestrau aros gofal llygaid.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.