Mae profiadau pobol ag anableddau o arferion cyflogaeth “erchyll” yn golygu eu bod nhw’n rhy bryderus i ddychwelyd i’r farchnad lafur, yn ôl adroddiad i un o bwyllgorau’r Senedd.

Cafodd tystiolaeth ei chyflwyno gan Debbie Foster, athro ym Mhrifysgol Caerdydd, wrth i Bwyllgor Cydraddoldeb y Senedd gychwyn ymchwiliad newydd i anableddau a chyflogaeth yng Nghymru.

Mae hi’n feirniadol o arferion cyflogaeth gwael, gan ddweud bod “rhai [arferion] yn erchyll iawn, iawn ddylen nhw ddim bod yn digwydd”.

“Maen nhw’n tanseilio hyder pobl sydd wedyn yn rhy bryderus i ail-ymuno â’r farchnad lafur.”

Soniodd yr Athro Debbie Foster am ofidion pobol ag anableddau am ba mor anodd ydy cael mynediad at addasiadau rhesymol yn y gweithle, gan rybuddio nad yw cyflogwyr yn deall deddfwriaeth gydraddoldeb.

Dywedodd wrth aelodau’r pwyllgor fod pobol sy’n datgan anabledd neu gyflwr iechyd yn cael eu “hidlo allan” o’r broses recriwtio.

‘Bwlch cyflogaeth’

Y bwlch cyflogaeth yw’r gwahaniaeth mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng pobol ag anableddau a phobol heb anableddau.

Yn ôl ffigyrau swyddogol 2022, roedd y bwlch yn 32.3% yng Nghymru.

Roedd hyn yn uwch na’r Alban (31.6%), a chymedr cyffredinol y Deyrnas Unedig (29.8%).

Roedd pobol ag anableddau ym Mlaenau Gwent (46.8%) a Chastell-nedd Port Talbot (44.5%) yn wynebu rhwystrau ychwanegol hefyd.

Fe wnaeth yr Athro Debbie Foster, cadeirydd tasglu hawliau anabledd Llywodraeth Cymru, ysgrifennu adroddiad o’r enw Drws ar glo am effaith y pandemig ar bobol ag anableddau.

Yn ei phapur tystiolaeth, dywedodd mai 40 o gyflogwyr yn unig yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd statws arweinyddol ‘Hyderus o ran Anabledd’; dim ond deuddeg ohonyn nhw sydd yn y sector preifat.

Rhybuddia’r academydd fod y cynllun ‘Hyderus o ran Anabledd’ wedi’i “heintio” drwy ei gysylltiad â’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Awgryma y dylai Cymru gyflwyno cynllun barcudnod, gan ddadlau o blaid penodi Comisiynydd Hawliau Anabledd dros Gymru.

‘Biwrocrataidd’

Fe wnaeth yr Athro Debbie Foster ddisgrifio cynllun Mynediad at Waith Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n ceisio helpu pobol ag anableddau i ennill neu i aros mewn gwaith, fel cyfrinach sy’n arwain at ganlyniadau da.

Ond rhybuddia fod y cynllun wedi profi’n “hynod fiwrocrataidd” ac “yn rhy araf o lawer”.

Pan holodd aelod o’r pwyllgor am hunan-gyflogaeth, cyflwynodd yr Athro Debbie Foster dystiolaeth fod rhai ag anableddau’n mynd yn hunangyflogedig am nad yw’r farchnad lafur yn fodlon eu cynnwys.

“Ddylen ni fyth weld hunangyflogaeth fel esgus pam nad yw’r farchnad lafur yn ddigon hygyrch,” meddai wrth y cyfarfod ddoe (dydd Llun, Medi 30).

Dywedodd yr Athro Debbie Foster, sy’n Athro ar Berthnasau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd, fod pobol ag anableddau’n cael eu “paratoi i fethu” heb y gefnogaeth angenrheidiol.

‘Wedi’u cythreulio’

Mae Jenny Rathbone, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, yn pryderu am gyfradd araf y cynnydd wrth ddatrys y bwlch cyflogaeth.

“Fel cenedl, rydym ni’n colli allan o ran y sgiliau mae pobl ag anableddau’n medru eu cynnig,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn medru parhau i wneud dim ond cael mwy a mwy o ymoliadau i’r bwlch cyflogaeth… Mae’n rhaid i ni ariannu’r newidiadau rydyn ni’n sôn am eu gweld,” meddai’r Athro Debbie Foster wrth gytuno a galw am fwy o fuddsoddiad.

Soniodd wrth y pwyllgor fod cynlluniau cyflogaeth, megis ‘Hyderus o ran Anabledd’ a ‘Mynediad at Waith’, wedi’u cynnal ag arian man iawn ar hyn o bryd.

Mae hi’n croesawu’r newid o ran llywodraeth yn San Steffan, gan rybuddio bod pobol ag anableddau “wedi’u cythreulio’n ofnadwy” dros y blynyddoedd diwethaf.

‘Cau allan’

“Ddylen ni ddim bod yn gweld bai ar y dioddefwyr sydd ddim yn medru cael mynediad at y farchnad lafur yn sgil gwahaniaethu ac allgáu,” meddai’r Athro Debbie Foster.

Cyfeririodd y cymdeithasegydd at amddifadedd, gweledigrwydd, cysylltiadau trafnidiaeth a diffyg cymharol o ran gwasanaethau proffesiynol fel rhesymu dros faint ehangach y bwlch cyflogaeth yng Nghymru.

Mae hi’n cydnabod fod gwaith y tasglu ar hawliau anabledd wedi “gwyro”, gan rybuddio bod gan gyrff yn y sector ddiffyg capasiti a’u bod nhw’n gorfod “diffodd tanau o hyd”.

“Yn blwmp ac yn blaen, dydy’r arian a’r gefnogaeth ddim ganddyn nhw,” meddai, gan fynegi pesimistiaeth na fydd argymhellion y tasglu’n cael eu cyflawni yng nghysgod etholiad 2026.

Yn ogystal, soniodd am ei phryder fod gwaith yn “llithro” ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgorffori Confesiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobol ag Anableddau yn neddfwriaeth Cymru.