Mae deiseb yn galw am well gwasanaethau menopos yn y gogledd orllewin yn “codi pwyntiau da”, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Ddoe (dydd Llun, Medi 30), fe wnaeth y Pwyllgor Deisebau drafod galwadau dynes o Ynys Môn am fwy o wasanaethau yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Delyth Owen, sydd yn ei 60au, wrth golwg360 y llynedd fod gan fenywod y gogledd-orllewin “hawl” i gael gofal menopos ar eu stepen drws.

Mae dau glinig arbenigol ar y menopos yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ar hyn o bryd, er bod arbenigwyr gynecolegol yn gweld menywod â symptomau’n ymwneud â’r menopos yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.

‘Annerbyniol’

Yn ei hymateb i’r ddeiseb pan oedd hi’n Ysgrifennydd Iechyd, dywedodd Eluned Morgan, y Prif Weinidog erbyn hyn, fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod fod angen gwelliannau i ofal, triniaeth a chefnogaeth menopos ledled Cymru.

Yn ei llythyr at Jack Sargeant, cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, fis Gorffennaf, dywedodd fod ei swyddogion wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am eu gwasanaethau menopos.

Dywed y bwrdd iechyd fod y rhan fwyaf o fenywod yn y gogledd yn cael mynediad at gyngor, gan gynnwys presgripsiynau HRT, gan eu meddyg teulu.

Eglura’r bwrdd iechyd fod clinigau arbenigol yng Nglannau Dyfrdwy ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam yn cael eu rhedeg gan dri arbenigwr menopos, ac yn delio â’r materion mwyaf cymhleth yn ymwneud â’r menopos ar-lein neu wyneb yn wyneb.

“Mae’r bwrdd iechyd yn adolygu eu cynlluniau swyddi i ganiatáu i arbenigwyr gynyddu eu capasiti i ymateb i’r galw,” meddai Eluned Morgan yn y llythyr.

“Maen nhw hefyd yn archwilio sesiynau rhithiol peilot gyda meddygon teulu er mwyn helpu i ddarparu cyngor i fenywod, yn nes at adref, a heb fod angen eu cyfeirio ymlaen at ofal eilradd.”

Yn ôl Delyth Owen, roedd ymateb Eluned Morgan “yn annerbyniol”.

Gofynna faint o amser y bydd hi’n ei gymryd i’r bwrdd iechyd adolygu eu cynllun swyddi, ac a fydd y swyddi hynny’n cael ei lleoli yn Ysbyty Gwynedd.

Mae hi hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â sut y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael yn Gymraeg, ynghyd â chwestiynu am ba adborth mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ei gasglu gan fenywod am y gwasanaethau.

‘Pwynt da iawn’

Wrth drafod y mater ddoe, dywedodd Carolyn Thomas, cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, y bydd hi’n codi’r ddeiseb yn y Senedd yn ystod dadl am iechyd menywod.

“Mae hi yn codi pwynt da iawn yn fan hyn, ein bod ni angen mwy o addysg, mwy o ymwybyddiaeth, a dw i yn credu bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at iechyd menywod fel un o’i blaenoriaethau yn ystod deunaw mis nesaf y Senedd,” meddai’r Aelod Llafur o’r Senedd dros Ogledd Cymru.

“O’m safbwynt i, a fy ffrindiau, dydy menywod ddim yn gwneud yr amser i gael checks iechyd yn aml yn sgil bywydau prysur – mae yna ddisgwyliad ei fod o’n rhywbeth arferol i beidio teimlo’n iawn achos mae pob menyw yn gorfod ei wynebu.

“Fyswn i’n hoffi pe bai menywod yn cael eu gwahodd i gael check iechyd unwaith y flwyddyn er mwyn deall beth sy’n cael ei gynnig fel rhan o raglen addysg hyd yn hyn.”

Awgryma y dylen nhw ysgrifennu at Mark Drakeford, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer adolygu gwasanaethau menopos yn y gogledd, ac am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth bresennol ac arfaethedig yn Ysbyty Gwynedd a Maelor, gan gynnwys faint ohoni sy’n Gymraeg.

‘Cwestiynau ymarferol i’r Bwrdd Iechyd’

Dywed Vaughan Gething y dylid mynd yn syth at y bwrdd iechyd gyda’r cwestiynau, a chytunwyd ar hynny.

“Beth sydd ddim yn glir i fi [yw] yr achosion arbenigol pan fo angen gofal eilradd ar rywun ar hyn o bryd yn y gogledd-ddwyrain, faint o alw sydd yna, beth yw’r galw arfaethedig, a sut maen nhw’n disgwyl ateb y galw,” meddai’r cyn-Brif yWeinidog.

Ychwanega fod cwestiynau i’w gofyn ynglŷn â faint o adborth mae’r bwrdd iechyd yn ei gasglu gan fenywod, a bod cwestiynau ymarferol am sut i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Dywed Peter Fox, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Fynwy, ei fod yn ymwybodol – yn sgil profiadau ei wraig – fod cael mynediad at y driniaeth gywir ar yr amser cywir yn “hollbwysig” i lesiant miloedd o fenywod yn y wlad.

“Er bod hwn yn benodol i un bwrdd iechyd, mae’n codi pwynt cyffredinol ynglŷn â sut rydyn ni’n darparu gwasanaethau ym mhob bwrdd iechyd i gwrdd ag anghenion y bobol sydd angen mynediad atyn nhw,” meddai.

‘Pawb â’r hawl i gael gofal menopos ar stepen drws’

Cadi Dafydd

Nid pawb yn y gogledd orllewin all fforddio teithio i glinig arbenigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Wrecsam, medd sylfaenydd deiseb ar y mater