I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobol Hŷn (dydd Mawrth, Hydref 1), mae Llywodraeth Cymru’n dathlu rôl gwirfoddolwyr hŷn.

Un o’r rheiny yw Corina Walker, sy’n arwain sesiynau Tai Chi wythnosol i bobol hŷn yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr arweinydd, mae’r dosbarthiadau’n gyfle i gysylltu ac adeiladu cyfeillgarwch, ynghyd â helpu’n gorfforol.

Thema Diwrnod Rhyngwladol Pobol Hŷn eleni yw ‘Y rhan rydyn ni’n ei chwarae: Dathlu rôl hanfodol pobol hŷn yn ein cymunedau’.

“Mae 75 o bobol yn dod i’r dosbarthiadau bob wythnos i fwynhau, cymdeithasu, gwneud ffrindiau, a theimlo’n rhan o rywbeth mwy,” meddai Corina Walker, sy’n 71 oed.

“Mae’r rhan fwyaf o’r bobol sy’n dod yn eu 70au a’u 80au. Mae fy aelod hynaf yn 94 oed ac wedi bod gyda mi ers i mi ddechrau’r dosbarth cyntaf saith mlynedd yn ôl.

“Yr ymdeimlad o berthyn a chyfeillgarwch yw’r hyn sy’n gwneud i bobol ddychwelyd o wythnos i wythnos, yn ogystal â’r ystod eang o fuddion i’w hiechyd, cydbwysedd a’u lles.”

‘Ysbrydoledig’

Mewn arolwg yn 2022, fe wnaeth bron i dri chwarter pobol dros 65 oed yng Nghymru ddweud eu bod nhw’n teimlo’n unig weithiau.

Yn yr un arolwg, dywedodd 10% o bobol hŷn Cymru – tua 91,000 o bobol – eu bod nhw’n teimlo’n unig “yn gyson”.

Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu cyfleoedd gwirfoddoli i bobol hŷn drwy raglenni HOPE a gweithgarwch Age Cymru.

Bu Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cyfarfod gwirfoddolwyr Age Cymru yn ddiweddar.

“Roedd yn ysbrydoledig gweld y gwahaniaeth gwirioneddol mae gwirfoddolwyr yn ei wneud,” meddai.

“Maen nhw nid yn unig yn helpu eraill ond hefyd yn cyfoethogi eu bywydau eu hunain trwy gysylltiadau ystyrlon a rhannu profiadau.

“Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau y gall pawb heneiddio’n dda a byw bywydau llawn, egnïol, a chreu Cymru lle nad yw oedraniaeth yn cyfyngu ar botensial a lle gall pobol edrych ymlaen at fynd yn hŷn gyda hyder ac urddas.

“Trwy ymdrech ar y cyd, mae Cymru wedi dod yn rhan o ymdrech fyd-eang i wella polisïau a gwasanaethau i bobol hŷn i’r graddau ein bod ni bellach yn cael ein hadnabod fel enghraifft ryngwladol o arfer da.”