Mae awdur deiseb wedi cyhuddo Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru o fod yn ffuantus drwy awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno tâl i ddefnyddio’r ffyrdd.

Wrth ymateb i ddeiseb i’r Senedd â 10,183 o lofnodion arni, mynnodd Ken Skates nad oes gan Lywodraeth Cymru fwriad i gyflwyno cynlluniau i godi tâl ar fodurwyr.

Ond mae Dan Healey-Benson, awdur y ddeiseb, yn rhybuddio bod yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn “ffuantus” ac “yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gynghorau, yn syml iawn”.

Fe wnaeth e dynnu sylw at y cyfeiriad at godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng nghynllun trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, mewn adran o’r enw ‘Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni – blaenoriaethau allweddol’.

Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, llais 22 cyngor sir Cymru, wedi awgrymu y bydd mwy o graffu ar godi tâl ffyrdd yn y dyfodol.

‘Dim cynlluniau’

“Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i gyflwyno tâl defnyddwyr ar y ffyrdd mae’n gyfrifol amdanyn nhw, hynny yw y rhwydwaith ffyrdd strategol,” meddai Ken Skates wrth y Pwyllgor Deisebau.

“Caiff y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynlluniau codi tâl ffyrdd lleol yng Nghymru’n cael ei reoli gan Ddeddf Drafnidiaeth 2020.

“O dan y fframwaith hwn, all unrhyw gynllun codi tâl lleol ddim ond cael ei gyflwyno ar ffyrdd lle mae’r awdurdod sy’n codi’r tâl hefyd yn awdurdod traffig.

“Mae hyn yn golygu bod gan awdurdodau lleol y cyfrifoldeb cyfreithiol a rheolaeth dros y ffyrdd lle maen nhw’n dewis cyflwyno’r fath gynlluniau.”

Fe wnaeth Dan Healey-Benson ategu galwadau’r ddeiseb ar i ragor o gynllunio ddod i ben, wrth iddo geisio eglurder yn wyneb datganiadau sydd fel pe baen nhw’n gwrthddweud ei gilydd yn y strategaeth drafnidiaeth.

‘Cyfleoedd’

Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wrth y pwyllgor mai un o gynghorau Cymru yn unig sy’n ystyried codi tâl ffyrdd.

Cyfeiriodd at gynlluniau sydd ar y gweill yng Nghaerdydd, ac mae disgwyl penderfyniad gan y Cabinet erbyn diwedd 2024 ynghylch codi tâl ffyrdd.

“Er mai un cyngor yng Nghymru yn unig sydd wrthi’n ymchwilio i dâl ffyrdd ar gyfer defnyddwyr ar hyn o bryd, mae’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd yn cael ei ymchwilio’n fwy eang yn y dyfodol,” meddai.

“Bydd dichonolrwydd unrhyw gynllun(iau) yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, ac felly bydd cyfleoedd yn amrywio ledled Cymru.”

Yn 2023, fe wnaeth y Senedd gefnogi deddf aer glân sy’n rhoi’r grym i Lywodraeth Cymru godi ardoll mewn ardaloedd lle mae llygredd aer, megis yr M4 yng Nghasnewydd a’r A470 ym Mhontypridd.

Ar y pryd, pwysleisiodd gweinidogion Cymru y byddai’r pwerau’n cael eu defnyddio fel ateb terfynol.

‘Gwrthod’

Yn ystod cyfarfod ddoe (dydd Llun, Medi 30), penderfynodd y Pwyllgor Deisebau gau’r ddeiseb, er ei bod hi wedi cyrraedd y trothwy o 10,000 o enwau i’w hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Dywedodd y Ceidwadwr Peter Fox wrth y pwyllgor fod y ddeiseb wedi’i lansio yn sgil pryderon am bolisïau “gwrth-fodurwyr” yng Nghymru, megis y terfyn cyflymder 20m.y.a.

Wrth gyfeirio at y ffaith fod arweinydd Cyngor Casnewydd wedi gwrthod y posibilrwydd o gynllun tagfeydd yn y ddinas, dywedodd fod saith parth aer glân yn Lloegr a phedwar yn yr Alban.

Cyfeiriodd e at bryderon deisebwyr fod Llywodraeth Cymru’n cefnu ar eu cyfrifoldeb, fydd yn gadael penderfyniadau anodd yn nwylo cynghorau.

Dywedodd Vaughan Gething, sydd wedi ymuno â’r pwyllgor yn ddiweddar, mai llond dwrn yn unig o gynghorau Cymru fydd â’r raddfa a’r cyfanswm sydd ei angen er mwyn i godi tâl ffyrdd fod yn opsiwn gwirioneddol.

“Dw i ddim yn credu y dylai’r Llywodraeth fod yn gofyn bod pobol yn cyflwyno tâl ffyrdd, nac yn eu hatal nhw,” meddai’r cyn-Brif Weinidog.