Mae Goruchaf Lys Sbaen wedi penderfynu nad oes modd i’r Bil Amnest warchod pobol gafwyyd yn euog o gamddefnyddio arian cyhoeddus wrth ymgyrchu dros annibyniaeth.

Fe wnaeth y llys wrthod apêl erlynydd cyffredinol Sbaen, y Twrnai Cyffredinol ac arweinwyr annibyniaeth gafwyd yn euog o embeslo arian.

Ymhlith y rhai apeliodd mae Oriol Junqueras, cyn-ddirprwy arlywydd Catalwnial; y cyn-Weinidog Tramor Raül Romeva; y cyn-weinidog Llafur a Theuluoedd, Dolors Bassa; a chyn-Weinidog yr Arlywyddiaeth, Jordi Turull.

Yn sgil y dyfarniad, bydd gwaharddiad y pedwar rhag bod mewn swydd gyhoeddus yn parhau, wrth i farnwyr ategu’r farn eu bod nhw wedi ceisio elwa’n bersonol wrth dorri’r gyfraith.

Ond doedd penderfyniad y barnwyr ddim yn unfrydol, serch hynny, gydag un ohonyn nhw’n anghydweld â’r gweddill.

Ond mae’r Goruchaf Lys wedi rhybuddio rhag cyflwyno dyfarniadau cyffredinol ar gyfer pob achos, a bod rhaid ystyried pob achos yn unigol.