Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio ar lansio taith llong ofod, gyda’r gobaith o allu craffu ar atmosffêr yr haul mewn mwy o fanylder nag erioed o’r blaen.
Bydd taith arfaethedig MESOM yn “caniatáu i dîm o ymchwilwyr rhyngwladol astudio’r amodau sy’n creu stormydd solar, gan arwain at welliannau o ran rhagolygon tywydd y gofod ar y Ddaear”, medden nhw.
Bydd llong ofod MESOM “yn dilyn trywydd anarferol gaiff ei alluogi gan atyniad disgyrchiant y Ddaear, yr haul a’r lleuad”.
Bydd hefyd yn defnyddio cysgod y lleuad er mwyn creu clip llwyr o’r haul yn y gofod unwaith bob mis lleuad.
Y gobaith yw y bydd y clip yn para hyd at 50 munud – dim ond rhwng 10 eiliad a saith munud a hanner mae modd i rywun weld clipiau llwyr yr haul o’r ddaear – gyda’r disgwyl i glip anwlar yr haul yn Hemisffêr y De bara tua saith munud ddydd Mercher (Hydref 2).
Cyfle i “ddatblygu ein dealltwriaeth”
Wrth greu clip hirach yn y gofod, bydd modd i dîm MESOM “gymryd delweddau o ansawdd uchel a mesuriadau o gorona’r haul, gan gau bylchau yn y ddealltwriaeth bresennol o’r prosesau ffisegol sy’n digwydd yn yr atmosffer solar ac sy’n creu tywydd y gofod”.
Bydd y prosiect hwn yn cynnig cymaint i Brifysgol Aberystwyth, wrth “adeiladu ymchwil o safon fyd-eang” yn Adran Ffiseg y Brifysgol, “sy’n cynnwys dylunio meddalwedd ar gyfer y Swyddfa Dywydd i wella eu rhagolygon o dywydd yn y gofod, mesur cyflymder echdoriadau màs coronaidd yn fwy cywir a datblygu offer gofod ar gyfer taith ExoMars”.
Dywed yr Athro Huw Morgan, Pennaeth Grŵp Ffiseg y Gofod Prifysgol Aberystwyth, fod MESOM yn “brosiect hynod gyffrous”, ac yn rhywbeth fydd yn “datblygu ein dealltwriaeth wyddonol o’r atmosffer solar a thywydd y gofod i lefelau newydd”.
“Yn Aberystwyth, fel aelodau o dîm craidd y Deyrnas Gyfunol, rydyn ni’n rhan o astudiaeth sy’n mapio dichonoldeb y daith sydd i’w lansio yn gynnar yn y 2030au,” meddai.
“Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol mewn ffiseg solar, atmosfferau solar a phrofiad mawr mewn teithiau gofod sy’n arsylwi ar yr Haul.”
Mae e hefyd yn aelod o dîm craidd y Deyrnas Gyfunol sy’n arwain y genhadaeth ochr yn ochr â Labordy Gwyddoniaeth Ofod Mullard Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Chanolfan Ofod Prifysgol Surrey.
Datgelu cyfrinachau’r lleuad
Dywed Dr Nicola Baresi o Ganolfan Ofod Surrey fod creu clipiau hyd at 48 munud yn cynnig cyfle gwell i ddatgelu cyfrinachau’r lleuad.
“Mae fflachiadau solar ac alldafliadau màs coronaidd fel ei gilydd yn tarddu o haenau mewnol atomosffer yr Haul, sy’n parhau’n anodd ei weld gydag offer gofod cyfredol ac sydd ond i’w weld mewn mwy o fanylder yn ystod clipiau llwyr,” meddai.
Yn ôl yr Athro Lucie Green o Labordy Gwyddoniaeth Ofod Mullard, bydd MESOM yn “cynnig cyfle heb ei ail” i wyddonwyr astudio a deall sut mae’r haul yn creu ac yn rheoli tywydd y gofod.
“Ond mae MESOM hefyd yn cynnig cyfle i’r cyhoedd yn gyffredinol ymwneud â harddwch rhyfeddol clip llwyr yr Haul gan y bydd ein holl ddelweddau’n ar gael i bawb,” meddai.
“Ein nod yw datgelu cyfrinachau’r Haul tra’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr a pheirianwyr y gofod.”
Prosiect blwyddyn yw astudiaeth ddichonoldeb MESOM, ac mae wedi’i ariannu gan Asantiaeth Ofod y Deyrnas Unedig.