Mae Cyngor Sir Powys yn atgoffa ffermwyr i ofalu am eu hanifeiliaid, ar ôl i ffermwr gael ei erlyn yn ddiweddar.

Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys wedi anfon y nodyn atgoffa ar ôl iddyn nhw erlyn ffermwr o ogledd y sir yn llwyddiannus am achosi dioddefaint diangen a methu â darparu gofal digonol i ddefaid a gwartheg ar ei fferm.

Cafodd y diffynnydd, oedd wedi pledio’n euog i sawl trosedd dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ddedfryd o 24 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am flwyddyn, gan Lys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher (Medi 25).

Cafodd y ffermwr ei wahardd rhag ymwneud â da byw, gan gynnwys cadw a delio â da byw mewn unrhyw ffordd.

Daw’r gorchymyn gwahardd i rym ar Ionawr 1 y flwyddyn nesaf, i roi tri mis i’r diffynnydd gael gwared ar ei dda byw.

Roedd ynadon hefyd wedi gorchymyn i’r diffynnydd dalu £1,600 o gostau a gordal dioddefwr o £154.

Troseddau

Clywodd y llys am y troseddau difrifol gafodd eu cyflawni, gan gynnwys achosion eithafol o gynrhon, lle roedd anifeiliaid yn crynu am eu bod nhw’n cael eu bwyta’n fyw gan gynrhon oedd y bla ar groen y defaid.

Roedd 76 o ddefaid wedi eu gadael â syched oherwydd nad oedd digon o ddŵr ar gael, a chafodd unarddeg o ŵyn eu gadael i ddioddef o ddiffyg maeth a chyflyrau corff cronig oherwydd nad oedd digon o borthiant a dŵr ffres iddyn nhw.

Doedd dim darpariaeth ddigonol i fuwch a’i llo chwaith, a chafwyd hyd i ddwy ddafad orweddol wedi’u gadael i farw heb ddŵr, porthiant na gwellt gwely.

“Ni fyddwn yn caniatáu i achosion o ddioddefaint fel hyn ddigwydd heb fod yna gosb amdanyn nhw,” meddai’r Cynghorydd Richard Church, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys Fwy Diogel.

“Rydym yn croesawu’r dedfrydu gan y llys ac mae hyn yn rhybudd clir i’r gymuned ffermio y bydd arferion fel hyn yn golygu y byddwn yn gwneud cais am orchmynion gwahardd i atal troseddwyr rhag cadw da byw.

“Fe wnaeth ein Tîm Iechyd Anifeiliaid gymryd y troseddau o ddifrif a gweithredu, a hynny’n briodol, sydd wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn.

“Os byddwn yn dod ar draws achosion tebyg i hyn yn y dyfodol, byddwn yn erlyn.”