Mae bron i 600 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am sicrhau dyfodol llyfrgell Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor.
Gallai’r llyfrgell ym Maes y Ffynnon, sy’n gartref i adnoddau’n ymwneud ag amgylchedd Cymru, gau wrth i’r corff geisio arbed £13m.
Un opsiwn yn unig fyddai cau’r llyfrgell, ond does dim byd wedi’i gadarnhau eto.
Fodd bynnag, mae’r ddeiseb yn dweud bod angen stopio’r “brain drain”, yn enwedig yn ystod argyfwng hinsawdd ac ecolegol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn ystyried rhoi’r gorau i redeg caffis a siopau yng nghanolfannau ymwelwyr Coed y Brenin ger Dolgellau, a Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yng Ngheredigion.
Yn ôl y corff, mae chwyddiant wedi achosi pwysau ariannol, ac maen nhw’n cynnig newidiadau eang er mwyn blaenoriaethu mynd i’r afael â llygredd a’r argyfwng hinsawdd.
‘Pryder mawr’
Mae’r cynnig i gau llyfrgell Maes y Ffynnon, sy’n cynnwys testunau ar bynciau megis cadwraeth, polisi, bioamrywiaeth, bywyd gwyllt y tir a’r môr a daeareg, yn “bryder mwy na chau un llyfrgell”, medd un sydd wedi llofnodi’r ddeiseb.
Yn ôl Duncan Brown, ecolegydd sydd â diddordeb mawr mewn llên natur, mae’r diffyg gofod i gyhoeddi gwybodaeth wyddonol ar bapur yn bryder ehangach.
“Mae o’n bryder mawr achos, pan ydych chi’n meddwl, mae Bangor Dinas Dysg heb ddim un siop lyfrau o gwbl – mae hwnna’n arwydd o rywbeth mawr sy’n digwydd, ein bod ni’n cael ein gwybodaeth fwy yn ddigidol nag ar bapur printiedig,” meddai Duncan Brown wrth golwg360.
“Pa mor sicr at y dyfodol mae stwff ar y we? Dyna ydy’r cwestiwn.
“Mae yna rai pethau fedrwn ni ddim cyrchu ar y we o gwbl, ac sydd ond yn ddeng mlwydd oed.
“Mae’r duedd fawr yma i symud i’r byd digidol yn bryder mawr.”
‘Argyfwng’
Ar hyn o bryd, mae Duncan Brown, sy’n dod o Waunfawr ger Caernarfon, yn casglu gwybodaeth am lên natur o ddyddiadur gŵr o’r enw Owen Edwards o fferm Fronolau ym Mhrenteg ger Porthmadog, o 1820-27.
“Beth rydyn ni’n trio’i wneud ydy dadansoddi’r dyddiadur a rhoi amlygrwydd iddo fo, a dyna lle mae rhywun yn meddwl, ‘Sut a lle ydyn ni’n mynd i roi amlygrwydd iddo fo’?
“Mae yna opsiwn i’w roi o’n ddigidol, a gogoniant rhoi pethau’n ddigidol ydy fod yna ddim cyfyngiad hyd, mae o’n werthfawr yn y ffordd yna i roi lot fawr o wybodaeth ar gof a chadw.
“Ond wrth gwrs, i fyny at ddechrau’r mileniwm, doedd yna ddim cyfle i roi pethau’n ddigidol a dim ond cylchgronau gwyddonol papur oedd ar gael.
“I gyhoeddi gwybodaeth fanwl ar gof a chadw ar bapur, mae o’n mynd yn anoddach ac yn anoddach.
“Dyna’r math o wybodaeth sydd ym Maes y Ffynnon – gwybodaeth wyddonol, fanwl o’r degawdau i fyny at ryw ganrif yn ôl.
“Os ydyn nhw’n dechrau gwerthu llyfrau o’r math yna, sydd ddim efo ryw ddarlleniad mawr, ond sydd yn werthfawr fel llyfrau cyfeirio, wedyn mae honna’n ffynhonnell sy’n mynd i gael ei dibrisio [ym mhellach].
“Yn y diwedd, be sy’n mynd i ddigwydd ydy eu bod nhw’n mynd i sgip – sy’n drychinebus ac yn bryder.
“Ond mae o’n bryder mwy na dim ond cau un llyfrgell.”
Ychwanega eu bod nhw’n ystyried crynhoi’r wybodaeth o’r dyddiadur yn fersiwn bapur i’w chyhoeddi i’r farchnad boblogaidd, ond fod ansicrwydd ynglŷn â gwerthiant posib.
“Mae o’n argyfwng, achos dydy’r wybodaeth ddigidol ddim yn mynd i gael ei chyfeirio ati lawer, dydy’r wybodaeth ar bapur ddim yn mynd i werthu, a lle mae’r wybodaeth yn mynd i gael ei gosod ar gof a chadw am y tymor hir? Dyna ydy’r pryder.”