Wel, mae wedi bod yn gyfnod go brysur arnaf dros y misoedd diwethaf, a rhan o’r prysurdeb hwnnw oedd cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol i bobol ifanc ar draws Sir y Fflint, wedi’u trefnu a’u cynnal yn yr ysgolion lleol.
Pwrpas y gweithdai hyn oedd ysbrydoli’r bobol ifanc i ysgrifennu pwt o ffuglen ddamcaniaethol a’i mentro i’r gystadleuaeth gaiff ei chynnal gan Ŵyl Daniel Owen, fel rhan o’r ŵyl ehangach gaiff ei chynnal bob blwyddyn yn yr Wyddgrug.
I fentro i’r gystadleuaeth, rhaid bod rhwng 11 a 18 oed. Y dasg ar gyfer y gystadleuaeth yw ysgrifennu 500 o eiriau ar y mwyaf, a gall fod yn farddoniaeth, stori fer, cân, neu’n ddrama. Mae yna gategorȉau Cymraeg a Saesneg ar wahân, a’r dyddiad cau yw canol nos, Hydref 4.
Mae’r ŵyl a’r gystadleuaeth yn dathlu gwaith, bywyd a chyfraniad yr awdur adnabyddus lleol, Daniel Owen, ac mae’r gystadleuaeth ysgrifennu i bobol ifanc yn dewis thema briodol bob blwyddyn.
Thema
Y llynedd, thema’r gystadleuaeth oedd ‘Ffasiwn cyflym’, wedi’i hysbrydoli gan waith Daniel Owen fel teiliwr, tra hefyd yn tynnu sylw at ddillad rhad yn cael eu gwneud mewn siopau chwys, lle mae amodau gwaith erchyll i’r gweithwyr.
Eleni, y thema oedd ‘Rhybudd Cynnar’, wedi’i hysbrydoli gan yr arfer yn y pyllau glo o gadw caneri gyda nhw, gan fod caneris yn sensitif i nwyau tanddaearol, ac yn llewygu os oes ene nwyau yn yr aer, ac felly yn rhoi rhybudd cynnar i’r glowyr fod rhywbeth o’i le cyn i’r nwy achosi ffrwydriad.
Roedd hyn yn rywbeth oedd yn agos at galon Daniel Owen, oedd yn bridio caneris yn ei amser sbâr. Daeth y diddordeb hwn o’r ffaith iddo golli ei dad a’i frawd mewn damwain yn y pwll glo roedden nhw yn gweithio ynddo, ac roedd e’n byw yn yr Wyddgrug mewn cymuned lle’r roedd y pyllau’n un o’r cyflogwyr mwyaf ac roedd llawer iawn o ddamweiniau. Roedd hyn yn cynnwys trychineb glofaol Gresffordd, sydd wedi bod yn cael ei drafod yn ddiweddar, wrth i ni nodi 90 mlynedd ers iddo ddigwydd – a wnaethon ni drafod hyn yn ystod y gweithdai.
Ond wrth gwrs, yn y cyd-destun modern, mae rhybuddion cynnar yn bwysig iawn i ni wrth gynllunio yn y tymor hir yn erbyn materion megis newid hinsawdd, cynnydd yn lefelau’r môr, a lledaenu afiechydon megis feirysau – rhywbeth roeddwn i wedi sgwennu amdano trwy lens mosgitos.
Ac wrth gwrs, mae’r thema yma yn awgrymu gwyddonias / ffuglen wyddonol neu ffuglen ddamcaniaethol, sef fy hoff fath o lenyddiaeth a ffuglen, felly roeddwn i wrth fy modd.
Y gweithdai
Ges i hwyl wrth esbonio’r thema, gan dynnu ar fy ffefrynnau o’r maes, gan gynnwys y genre zombie a’r apocoliptaidd. Mi wnes i greu un sleid trwy dynnu llun o fy mathodyn Sgrech gwatwarllyd (Mocking Jay), sef un o’r nwyddau o The Hunger Games.
Ond mewn un gweithdy, daeth i’r amlwg nad yw’r gair ‘object’ (gwrthrych) yn glir, er gwaethaf enghreifftiau, ac felly doedd y dasg osodais iddyn nhw ddim yn glir heb esboniad pellach.
Wrth synfyfyrio adre’ dros baned, sbïais o amgylch fy llofft gan ystyried pa mor gymysg roedd y gwrthrychau yn ein tŷ ni. Sylweddolais y byddai’n hwyl rhannu rhai o’r pethau hyn hefo’r bobol ifanc, felly es ati i lenwi bag hefo gwrthrychau – sgwariau Nain, gwlân, plectrums, tun tiffin, a rhai o bethau fy ngŵr, gan gynnwys replica o benglog T-rex!
Esboniais y dasg iddyn nhw, a’u gwahodd wedyn i ddod at y bwrdd a dewis ‘MacGuffin’, ac mi weithiodd hyn yn wych! Mi wnes i fwynhau eu gwylio nhw’n ymateb i’r gwrthrychau mewn ffyrdd cwbl annisgwyl, ac roedd hyn yn ysgogi storïau difyr dros ben.
I gloi
A dyma lle ydw i, felly, yn edrych ymlaen at gael gweld beth fyddan nhw’n ei ysgrifennu ar sail y gweithdai hyn, gan deimlo’n freintiedig dros ben fy mod wedi cael y cyfle i weithio hefo’r awduron a’r beirdd ifanc yma.
Ac wrth i mi deipio’r geiriau hyn, mae sibrydion wedi fy nghyrraedd y bydd gwaith Daniel Owen, sydd wedi bod allan o brint yn y Gymraeg ers peth amser bellach, ar gael i ni ei ‘mofyn cyn bo hir… a finnau’n methu aros i gael gafael ar gopi!
Hoffwn feddwl y byddai Daniel Owen wedi’i blesio’n arw gyda hyn oll, sydd yn deimlad braf dros ben o ystyried faint wnaeth yntau ei gyfrannu at y gymuned leol, o ran llythrennedd ac addysg, a hefyd y celfyddydau drwy ei lenyddiaeth arloesol.
Codaf fy het i chwi, Daniel!