Mae Beti George wedi bod yn holi pobol ddifyrraf Cymru ers deugain mlynedd, ac ym mis Hydref, bydd rhaglen radio Beti a’i Phobol yn dathlu’r 40 gyda phennod arbennig rhwng Beti George a’i mab, Iestyn.

Mae Iestyn George yn newyddiadurwr fu’n gweithio fel golygydd i gylchgronau NME a GQ, ac mae bellach yn ddarthlithydd ym Mhrifysgol Brighton.

Bydd y sgwrs rhwng y ddau’n cael ei darlledu ddydd Sul, Hydref 6.

“Yr un maen nhw wedi’i dewis i ddathlu’r dyddiad yw fy mab a fi’n siarad efo’n gilydd,” meddai Beti George wrth golwg360.

“Roedd hwnnw’n ryw deimlad od iawn, iawn. Ond dw i’n credu fy mod i’n falch yn y diwedd fy mod i wedi cael y cyfle i drafod pethau gydag e, oherwydd ddes i i wybod lot mwy amdano fe nag oeddwn i’n wybod!

“Mae e wedi gwneud lot mwy o bethau diddorol na fi!”

‘Anodd credu’

Dechreuodd y cwbl yn 1984 gyda’r diweddar gynghorydd o Bort Talbot, Steffan ap Dafydd, oedd hefyd yn ymgyrchydd dros fudiad yr undebau llafur, yn westai cynta’r rhaglen.

Eglura Beti George nad oedd hi’n “rhy awyddus” i wneud y rhaglen yn wreiddiol, gan ei bod hi’n gweithio ar raglen gylchgrawn Cil y Drws bob bore Llun ar y pryd.

“Mae e fel ddoe pan ddechreuodd e; mae’r blynyddoedd wedi hedfan,” meddai’r gyflwynwraig wrth golwg360.

“Pan ddechreuon ni, doeddwn i byth yn meddwl y bydde fe’n para am ddeugain mlynedd. Mae’n anodd credu.

“Fe awgrymwyd i fi gan y diweddar Lowri Gwilym a phennaeth Radio Cymru ar y pryd, Meirion Edwards, eu bod nhw eisiau i fi wneud y rhaglen yma – sef ryw fath o Desert Island Discs yn Gymraeg.

“Nhw oedd yn iawn, dw i ddim yn meddwl y byse Cil y Drws wedi para deugain mlynedd.”

Y gwestai arbennig y Nadolig cyntaf hwnnw oedd Dewi ‘Pws’ Morris.

“Pan ddechreuais i ddarlledu, ‘chi’ oedd pawb, a dw i dal i gredu bod hynny’n bwysig achos os ydy dyn yn defnyddio ‘ti’, dw i’n meddwl ein bod ni’n cau pobol eraill,” meddai Beti George.

“Ond y peth cyntaf wedodd Dewi wrtha i: ‘Os nad wyt ti’n galw fi’n ‘ti’, dw i ddim yn gwneud y rhaglen’. Felly roedd rhaid i fi alw fe’n ‘ti’.”

‘Braint’

Dros y blynyddoedd, mae Beti George wedi holi cannoedd, os nad miloedd o westeion, ac mae dewis uchafbwyntiau o’u plith bron â bod yn amhosib, meddai, gan bwysleisio bod gan bob un eu stori.

“Dw i wedi holi pobol nad oes neb yn gwybod dim amdanyn nhw – arbenigwyr yn eu maes, academyddion, ac mae dyn yn meddwl, ‘pobol sych’.

“Ond dydyn nhw byth yn bobol sych, ac maen nhw’n gallu mynegi eu hunain mewn ffordd syml a dealladwy.”

Ymysg rhai enghreifftiau diweddar mae’r Athro Geraint Jones, gwyddonydd sy’n arbenigo ar y planedau, a Fiona Flockhart, sydd ymhlith yr hanner cant o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes troseddau seibr.

“Dydyn ni byth yn clywed oddi wrth y bobol yma, ac mae hi’n gymaint o fraint i gael siarad â nhw,” meddai.

Wrth edrych ar y rhestr o westeion yn ddiweddar, mae’n ddifyr gweld sut mae’r pynciau dan sylw wedi newid gydag amser.

Yn y 1980au, fydden nhw ddim wedi trafod materion megis alcoholiaeth, canser, iechyd meddwl na materion rhywiol.

Steffan Lewis yn areithio
Steffan Lewis

Un sgwrs sydd yn sefyll allan yw ei chyfweliad gyda’r diweddar Steffan Lewis, Aelod Plaid Cymru o’r Cynulliad.

Bu farw Steffan Lewis o ganser y coluddyn yn 2019, lai na mis wedi iddo fod ar Beti a’i Phobol.

“Fe wnes i wrando ar y cyfweliad eto, roedd e mor ysbrydoledig a dyw hi ddim yn rhaglen morbid. Rydyn ni’n chwerthin, ond eto fe’n trafod ei ganser.

“Weithiau, mae pobol yn meddwl, ‘pam ddylen ni drafod ryw bwnc fel hyn?’, gan wybod beth yw terfyn y peth, ac weithiau dw i yn meddwl fy hunan, ‘pam ddylen ni?’

“Roedd e’n benderfynol o siarad am y peth pan gafodd e’r diagnosis, ac yn dweud gymaint o gysur oedd e iddo fe achos bod e mor agored, bod pobol wedi cysylltu gydag e’n mynd drwy’r un math o brofiad a’u bod nhw’n gallu helpu ei gilydd.”

R. S. Thomas yn synnu

Mae Beti George, gyda’i thîm o un ymchwilydd a chynhyrchydd, yn treulio cryn amser yn ymchwilio a dod i wybod mwy am ei gwestai cyn y rhaglen.

Sgwrs arall sy’n sefyll allan iddi yw mynd i holi R. S. Thomas yn stiwdio’r BBC ym Mangor, a chael ei synnu ar yr ochr orau gan gymeriad cynnes y bardd o Lŷn.

“Mae yna lun ohono fe’n pwyso ar ddrws y stabl, ac mae golwg llym arno,” meddai.

“Roeddwn i wedi darllen rhywfaint o’i waith, ond doeddwn i ddim yn gwybod ryw lawer, a dw i ddim yn un sy’n feirniad llenyddol na dim byd fel yna.

“Roeddwn i’n meddwl bod e’n mynd i feddwl ’mod i ddim yn gwybod dim am ei waith, a threuliais i lot o amser yn mynd drwy ei farddoniaeth.

“Pan gyrhaeddon ni Fangor, daeth e mewn i’r stiwdio, ac roedd e mor gynnes.

“Fe gawson ni ddwy raglen arbennig, ac roedd e’n fodlon trafod popeth.

“Gefais i syndod.”

RS Thomas ac Elsi Eldridge ar ddiwrnod eu priodas yn y Bala yn 1940

Thatcher, Starmer a Putin

Pe bai’n cael holi unrhyw un, ambell wleidydd mae Beti George yn eu henwi, a hynny er mwyn cael deall y ffordd maen nhw’n meddwl.

“Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n holi perfedd pobol, mae’n debyg, a dw i eisiau dod i wybod am bobol – nid yn gronolegol, ond dw i eisiau gwybod ffordd maen nhw’n meddwl,” meddai.

“Dw i’n cofio ar y pryd pan oedd Margaret Thatcher wrth y llyw – ac mae’n rhaid i fi ddweud bod hi ddim yn un o’m ffefrynnau i – ond roeddwn i eisiau ei holi hi.

“Ryw bobol fel yna – pam bod hi’n meddwl yn y termau hynny?

“Gallwn i wneud hynny heddi efallai gyda Keir Starmer; fyswn i wrth fy modd yn ei holi e.

“Putin fyswn i eisiau holi! Pam bod nhw’n gwneud y pethau yma?!”

Doedd rhai pobol ddim yn hapus bod Guto Harri wedi ymddangos ar Beti a’i Phobol

Holodd hi David TC Davies, y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, yn ddiweddar, ac er ei fod yn “ffigwr dadleuol”, mwynheuodd ei gwmni, meddai.

“Dw i’n ei barchu fe am ei fod e wedi trafferthu dysgu Cymraeg fel gwleidydd.

“Faint ohonyn nhw sy’n gwneud i’r graddau mae e wedi’i wneud?

“Dw i’n cofio gwneud Guto Harri’n ddiweddar, a’i hoffter e o Boris Johnson. Ar y gwefannau cymdeithasol, roedd rhai pobol yn dweud: ‘Pam ddyle hwn gael sylw ar Radio Cymru?’.

“Wel, pam ddim? Er mwyn iddo fe gael egluro beth a pham, yn ei lygaid e, roedd Boris Johnson yn ddyn oedd yn haeddu bod yn brif weinidog.

“Mae’n rhaid i bobol gael dweud eu dweud ar y cyfryngau, pa bynnag safbwynt yw e.”