120 mlynedd ers ei eni, mae’r bardd Waldo Williams yn cael ei gofio fel “un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru” a “bardd o statws rhyngwladol”.
Cafodd Cymdeithas Waldo ei sefydlu yn 2010 er mwyn “diogelu’r cof am waith a bywyd Waldo Williams”.
Mae’r gymdeithas hefyd yn ceisio “hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams at lên a diwylliant” a chydnabod ei gyfraniad i heddychiaeth.
Darlith Waldo Williams
Cafodd Darlith Waldo Williams ei thraddodi gan Menna Elfyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener (Medi 27).
Roedd ei darlith yn canolbwyntio ar ddawn y bardd i holi cwestiynau yn ei waith, gan bwysleisio cynifer o gwestiynau penagored sydd wrth wraidd cerddi Waldo Williams.
Roedd yn gyfle hefyd i’r gynulleidfa glywed am gysylltiadau uniongyrchol Menna Elfyn â’r bardd.
Dywed Hefin Wyn o Gymdeithas Waldo eu bod nhw wedi derbyn ymateb da i’r digwyddiad.
“Mi oedd yr ystafell ar y campws ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyfforddus lawn, a gallaf amcanu fod o gwmpas cant o bobl yno,” meddai wrth golwg360.
“Roedd trawstoriad o bobol o gylch Aberystwyth, pobl lenyddol, yn feirdd ac yn academwyr, a phobol gyffredin sydd â diddordeb yn Waldo’r dyn.”
Caiff Darlith Waldo Williams ei thraddodi’n flynyddol ar y nos Wener agosaf at ei ben-blwydd.
Cyfrol Darlithiau Waldo yn “harddu unrhyw fwrdd coffi”
Yn y gorffennol, fe fu’r ddarlith yn nwylo’r Parchedig John Gwilym Jones, yr Archdderwydd Mererid Hopwood a Robert Rhys.
Mae’r gyfrol Darlithiau Cymdeithas Waldo 2010-2024 bellach ar gael ac yn amlygu’r holl ddarlithiau gafodd eu cynnal dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf.
Mae’n gyfle i ddarllen geiriau’r rhai sydd wedi ymddiddori ym mywyd a gwaith y bardd dros y blynyddoedd.
Yn ôl Hefin Wyn, bydd y gyfrol yn siŵr o “harddu unrhyw fwrdd coffi”.
“Mae’n cynnwys amrywiaeth o bobol, academwyr a phobol oedd yn adnabod Waldo,” meddai.
“Efallai ei bod hi’n rhy fawr i’w gosod ar silff lyfrau cyffredin, mae e’n glawr caled, lluniau lliw, ac yn fath o lyfr i’w droi ato bob hyn a hyn.
“Mae yna ddarlith gan Rowan Williams, dwy ddarlith gan Emyr Llywelyn, a gan Gareth Miles, oedd yn sôn am Waldo fel y dyn digri.”
Teithiau Waldo
I nodi 120 mlynedd ers geni’r bardd, mae Cymdeithas Waldo wedi trefnu mwy o weithgareddau nag arfer eleni.
Dros fisoedd yr haf, cafodd tair taith gerdded ‘Dilyn Llwybrau Waldo’ eu cynnal, a’r rheiny’n dilyn llwybrau sy’n gysylltiedig â bywyd a gwaith y bardd.
Ddydd Sadwrn (Medi 28), trefnwyd ‘Wâc Waldo’ gan Fenter Iaith Sir Benfro o Festri Capel Bethel ym Mynachlog-ddu at Garreg Waldo ac yn ôl.
Heddiw, ar ddiwrnod pen-blwydd y bardd, cafodd disgyblion Ysgol Caer Elen, Hwlffordd gyfle i ymweld â Charreg Waldo.
Mae’r Gymdeithas yn cynnig digwyddiadau achlysurol yn ogystal, ac maen nhw eisoes wedi comisiynu’r cyfansoddwr Eric Jones i osod un o gerddi mwyaf adnabyddus Waldo Williams, ‘Preseli’, ar gân.
Bydd digwyddiad yn y flwyddyn newydd hefyd yn gyfle i wrando ar lais Waldo Williams ar dâp.