Mae gorsaf radio leol newydd wedi’i lansio yn Abertawe i lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan Sain Abertawe a The Wave.

Daeth cwynion ar ôl i’r ddwy orsaf gael eu hamsugno gan rwydwaith Greatest Hits Radio.

Cafodd enw Sain Abertawe ei golli yn 2020, er gwaethaf deiseb gafodd ei llofnodi gan fwy na 4,000 o wrandawyr.

Cafodd The Wave ei hailfrandio’n gynharach eleni i ddod yn rhan o’r rhwydwaith.

Roedd yr enw Sain Abertawe wedi bodoli ers 46 o flynyddoedd, a The Wave ers 29 mlynedd.

Cafodd SA Radio Live ei lansio ddoe (dydd Llun, Medi 30) ar yr union ddyddiad y cafodd Sain Abertawe ei lansio yn 1974.

Hanner canrif o ddarlledu

Er mwyn dathlu’r hyn fyddai wedi bod yn hanner canrif di-dor o ddarlledu yn Abertawe, mae rhai o hen griw Sain Abertawe wedi dod yn ôl at ei gilydd i lansio menter newydd.

Dechreuodd SA Radio Live ddarlledu am 7 o’r gloch fore ddoe (dydd Llun, Medi 30), a’r bwriad yw darlledu rhaglenni byw lleol o stiwdios yn Nhircoed, fu’n gartref i Radio Tircoed ers 2007.

Shaun Tilley, darlledwr adnabyddus yn y ddinas, fydd Cyfarwyddwr Gorsaf a Rhaglenni’r orsaf newydd, ac fe fydd e hefyd yn cyflwyno sioe frecwast yn ystod yr wythnos, gan ddychwelyd i’r slot oedd ganddo fe pan gafodd The Wave ei lansio yn 1995.

“Os oedd yna ddinas oedd angen radio lleol, yna Abertawe yw’r ddinas honno,” meddai.

“Dw i wedi bod yn ffodus o gael gweithio ledled y Deyrnas Unedig yn ystod fy ngyrfa, ond hon yw fy nhref i.

“Ces i fy ngeni a fy magu yma, a dw i’n ei hadnabod fel cefn fy llaw.

“Mae’r lle hwn yn unigryw, mae’r bobol yn arbennig ac rydyn ni’n falch o’n treftadaeth anhygoel.

“Byddwn ni’n rhoi gorsaf wirioneddol leol yn ôl i’r ddinas, gyda rhaglenni byw a rhyngweithiol o stiwdios sydd wedi’u lleoli yn y gymuned.

“Yn syml, byddwn ni’n dod o Abertawe er lles Abertawe.”

Doniau lleol

Bydd SA Radio Live yn chwarae cerddoriaeth o bob oes, ac yn arddangos doniau cerddorol lleol Abertawe.

“Os yw hi’n swnio’n wych, byddwch chi’n ei chlywed hi  – mae hi mor syml â hynny,” meddai Shaun Tilley wedyn.

“Anthemau’r 60au, llwyth o’r 70au, tunnelli o’r 80au, ochr yn ochr â’r 90au hyd at nawr.

“A ni fydd yr unig orsaf sy’n chwarae cerddoriaeth newydd orau’r ddinas ar sioeau oriau brig ac yn ystod rhaglen tair awr wythnosol sy’n ymroi i artistiaid o’n hardal.”

Ymhlith y cyflwynwyr adnabyddus fydd Steve Dewitt, Siany, Leighton Jones, Plastic Sam, Phil Fothergill, Mark Powell, Chris ‘Smithy’ Smith, Griff Harries, Rob Pendry, James Lewis, Kevin King, Matthew Morrissey a Chris Harper, sef llais radio cynta’r ddinas hanner canrif yn ôl.

Bydd Mal Pope, canwr lleol sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan, yn cyd-gyflwyno’r sioe gyntaf, a bydd cyflwynwyr yr hen Radio Tircoed ymhlith y tîm o gyflwynwyr hefyd.

Bydd gan yr orsaf raglen Gymraeg, a rhaglenni’n chwarae cerddoriaeth arbenigol, gyda cherddoriaeth drwy’r nos hefyd.

Bydd yr orsaf hefyd yn darlledu manylion am ddigwyddiadau lleol ar draws y ddinas, ac yn cefnogi elusennau lleol.

Mae modd gwrando ar yr orsaf ar www.saradiolive.co.uk, ar ap yr orsaf, neu ar 106.5FM yng ngogledd a dwyrain y ddinas, gyda chynlluniau ar y gweill i sicrhau darpariaeth DAB yn 2025.

“Dw i’n teimlo fy mod i wedi cyffroi gymaint ag oeddwn i pan gyflwynais i’r sioe gyntaf ar The Wave 29 mlynedd yn ôl,” meddai Shaun Tilley.

Gorsaf radio’n adfer ei hunaniaeth Gymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi

Mae Swansea Bay Radio yn dychwelyd i’w henw gwreiddiol ar ôl newid sawl gwaith, gyda Sain Abertawe a The Wave bellach wedi mynd