Mae cwmni Nation Broadcasting wedi cyhoeddi y bydd yr orsaf radio Swansea Bay Radio yn adfer ei enw gwreiddiol ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Cafodd ei sefydlu o dan yr enw hwn yn wreiddiol, cyn iddo fe gael ei newid i 102.1 Bay Radio, wedyn Nation 80s, Nation Hits, Swansea Bay Radio drachefn, Breezy Radio ac yna Easy Radio.
Ond daw’r penderfyniad i adfer yr enw gwreiddiol ar ôl i’r Wave gael ei ailfrandio gan ddefnyddio’r enw newydd Hits, a cholli’r enw Swansea Sound ar ei chwaer-orsaf.
Kev Johns (boreau Sul), Phil Hoyles (amser te) a Steve ‘Wiggy’ Wiggins (yn ystod y dydd) fydd y prif gyflwynwyr.
‘Lleisiau a chynnwys lleol’
“Gyda’r Wave yn diflannu, a’r ddinas eisoes wedi colli Swansea Sound, rydyn ni’n camu i mewn er mwyn sicrhau y gall pobol leol barhau i glywed lleisiau a chynnwys lleol,” meddai Jason Bryant, Cadeirydd Gweithredol Nation Broadcasting.
“Wrth chwarae goreuon y 90au, y 00au a nawr, bydd Swansea Bay Radio yn cyd-fynd yn berffaith â’n gorsafoedd mwy o faint ledled Cymru gyfan, Nation Radio a Dragon Radio.”
Bydd yr orsaf ar gael o hyd ar 102.1FM, radio digidol DAB ac ar wefan ac ap Nation Player.