Mae trefnwyr Tafwyl wedi cyhoeddi dyddiad a lleoliad yr ŵyl fydd yn cael ei chynnal yn y brifddinas haf yma.

Bydd yr ŵyl sy’n cael ei threfnu gan Fenter Caerdydd ac sy’n dathlu’r Gymraeg yn dychwelyd i Barc Bute ar benwythnos Gorffennaf 13 a 14.

Mae mynediad i Tafwyl yn rhad ac am ddim, gan gynnig y gorau o gerddoriaeth, diwylliant a chelfyddydau Cymraeg.

Bydd yr arlwy’n cynnwys pedwar llwyfan, parc chwaraeon, pentref plant, stondinau amrywiol a bwyd stryd.

Ers ei sefydlu ym maes parcio un o dafarnau Caerdydd yn 2006 a thyfu’n rhy fawr i’w chartref gwreiddiol yng Nghastell Caerdydd, mae Tafwyl wedi mynd o nerth i nerth.

Yn ychwanegol at yr arlwy arferol eleni mae digwyddiad agoriadol newydd sbon ar y nos Wener, fydd yn rhoi llwyfan i rai o oreuon byd adloniant a chomedi Cymraeg Cymru.

Mae’r trefnwyr yn pwysleisio nad oes angen archebu tocyn ymlaen llaw, ac maen nhw’n disgwyl torf o fwy na 35,000 yno eleni.