Mae Mam yn ôl o siopa yn y dre’, ac mae ganddi lond ei dwylo o fagiau plastig. Mae golwg ddifrifol braidd ar ei hwyneb wrth iddi ofyn i mi fynd mewn i ‘swyddfa’ fy nhad hefo hi.
Mae’r stafell yn fach ac yn gyfyng, gyda dim ond lle i’r ddwy ohonom gyda’r bagiau niferus, ac rydan ni’n sefyll rhwng y filing cabinet a chadair y cyfrifiadur, sy’n medru troi ac mae handlen arni i addasu uchder y sêt.
Mae Mam dal yn edrych yn reit seriws, a dw i’n poeni efallai bo fi wedi gwneud rhywbeth o’i le heb yn wybod, a bo fi ar fin cael ffrae.
Ond mae Mam yn mynd ar ei cwrcwd ac yn estyn rhywbeth o un o’r bagiau – doli fach ddel, dal yn ei bocs plastig. Mae ganddi wallt hir, trwchus, tonnog, blonde, ac mae’n edrych yn smart yn ei ffrog halterneck felen, hefo patrwm ffasiynol o ddotiau amryliw arni.
Wel, mae hyn yn sypreis bach annisgwyl, a dwi’n ysu eisiau ei thynnu hi o’r bocs a chwarae hefo hi. OND… Mae yna benbleth i’w ystyried, yn ôl Mam.
Dyma’r fersiwn gyntaf o Barbie sydd wedi dod ar gael, ac mae yna fwy ohonyn nhw ar eu ffordd, ac mi fydd rheini hefo pob math o bethau gwahanol hefo nhw – dillad, clipiau gwallt fedraf i fy hun eu gwisgo…
Felly y dewis yw hyn: cadw’r Barbie yma, ond methu cael un o’r rhai newydd pan ddôn nhw allan, neu aros a gweld a fyddwn i’n hoffi un o’r lleill yn ei lle.
Sbïais ar y Barbie-ffrog-felen gan geisio dychmygu ym mha ffordd y byddai aros i gael un o rheini yn well na cael hon rŵan. Ffaelais, ac felly daeth Barbie allan o’r plastig ac i fyny i fy llofft i gwrdd â fy nheganau eraill.
OND… Daeth tro ar fyd, ac ymhen hir a hwyr, daeth y Barbies newydd i’r siopau. Roedd un ohonyn nhw’n dŵad hefo teclyn i greu ‘Twirly curls’ – yng ngwallt Barbie ac yn gwalltiau’r sawl oedd yn ddigon ffodus i fyw hefo nhw.
O! Fyswn wrth fy modd hefo un o rheini – a minnau â fy ngwallt ‘ffyn-pys’ o syth. Damia! Druan â Barbie-ffrog-felen – roedd hi dal yn ddel, ac nid ei bai hi oedd hi, ond roeddwn yn difaru fy mhenderfyniad byrbwyll.
Gwers Aesopaidd
Rydym fel oedolion wrthi’n pendilio’n barhaol yn ôl ac ymlaen rhwng ein hatgofion plentyndod a’r presennol, wrth i ni dynnu ar wersi’r gorffennol i wneud synnwyr o bob sefyllfa a phrofiad newydd – a dyma un o’r enghreifftiau gorau sydd gen i.
Ac, wrth gwrs, efallai fy mod yn cam-gofio ambell i fanylyn, neu efallai wir fod yr holl beth yn ‘atgof arosodedig’, ond y pwynt pwysig yw taw dyma’r atgof sydd gen i ac sy’n effeithio arnaf – ac mae wedi gadael argraff ddofn arnaf.
Mae fy ngŵr wedi clywed y stori yma sawl gwaith ac, yn wir, erbyn hyn mae hi wedi dod yn ddameg symbolaidd gaiff ei dyfynnu bob tro mae un ohonom yn ffeindio’n hunain mewn penbleth tebyg, megis lens newydd i’w gamera fe, neu bâr o teclynnau clyw (preifat, drud) i mi. Rydym wedi dysgu pori’n drylwyr drwy’r opsiynau, ac oedi cyn prynu.
Serch hynny, mi es i hefo’r opsiwn byrbwyll yn ddiweddar o brynu Barbie newydd i mi fy hun, a minnau’n 45 mlwydd oed, er gwaetha’r ffaith fod ein tŷ yn fy atgoffa weithiau o’r stafell fechan honno le cwrddais a Barbie am y tro cyntaf.
Mewn sawl ffordd, does dim sens i’r peth – ond mae gan y Barbie hon fwy yn gyffredin â mi na Barbie-ffrog-felen, a’r holl Barbies eraill. Mae hi’n wisgwr teclynnau clyw… a gwell fyth, mae ei theclynnau clyw yn binc!
Mae cynrychiolaeth yn bwysig
Daeth y Barbie arbennig hon ar y farchnad diolch i gydweithrediad rhwng Mattel a Rose Ayling-Ellis, y ddawnswraig f/Fyddar wnaeth ennill ar y rhaglen Strictly Come Dancing yn 2021.
Mae’r Barbie hon yn aelod o’r criw o ddoliau amrywiol sydd yn helpu plant ifanc i weld eu hunain yn y teganau, ac mae hi yn symbol a model rôl bwerus i blant b/Byddar felly.
A chan i mi gael dyfais ‘twirly curls’ andros o posh ar fy mhen-blwydd, mae Sara-fach nawr yn fodlon iawn hefo’i theganau newydd. OND… mae teclynnau pinc fy Barbie yn codi mater pwysig hefyd.
Pan ges i fy nheclynnau clyw cyntaf, llwyddais i gael rhai pinc ac roeddwn wrth fy modd hefo nhw; taerais eu bod nhw fel clustlysau hardd, ac roeddwn yn gwisgo fy ngwallt mewn bun llac er mwyn i bobol gael eu gweld a’u hedmygu (yn ogystal â sylwi a deall fy mod yn colli fy nghlyw).
Ond erbyn i mi fynd am rai newydd, roedd y dewisiadau i oedolion bellach wedi’u cyfyngu i rai ‘lliw gwallt’ – gan gynnwys rhai brown oedd yn fy atgoffa o gŵyr yn y clustiau! Y syniad oedd fod hyn yn eu gwneud nhw’n haws i’w cuddio, ond doeddwn i ddim mo’yn eu cuddio!
Yn y diwedd, a mawr ddiolch i fy awdiolegydd ffeind a fy nghlustiau hynod o fach, mi ges i rai plant oedd yn hanner pinc a hanner gwyn – cyfaddawd derbyniol – er, ddim cweit beth oeddwn i ei eisiau.
A nawr, mae fy nhrydydd pâr gan y Gwasanaeth Iechyd yn rhai arian, afloyw, a lot anoddach i mi eu fflachio; anoddach o lawer i bobol ddeall pam nad ydw i’n eu clywed.
Ac nid y rhai gorau ar y farchnad ydyn nhw chwaith. Mae yna rai bluetooth fyddai’n hwyluso’r broses o siarad ar y ffôn a’r radio – ac maen nhw’n dŵad mewn pinc a phob math o liwiau del… gan gynnwys têl, fysa’n mynd hefo fy wardrob o ddillad yn y sbectrwm o lesni a gwyrddni.
OND… Maen nhw’n ddrud ac felly, meddai Barbies ddoe a heddiw trwy’r tesseract tebyg i un Cooper a Murphy yn Interstellar, mae’n rhaid meddwl yn ofalus a gwneud fy ymchwil cyn penderfynu pa rai i’w ‘mofyn.