Mae dau brifardd wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar X (Twitter gynt), wrth gynganeddu yn Saesneg am ymlusgiad.

Bu Emyr Lewis a Twm Morys yn cyhoeddi cywyddau bychain am fadfallod, nadroedd a llyffantod yn Saesneg, gan gadw at reolau’r gynghanedd.

Mae’r ymryson bellach wedi dod i ben, gydag Emyr Lewis yn datgan ei fod am ddychwelyd at y Gymraeg:

Boss, let’s get back to basics – yn Gymraeg

may we write our lyrics,

we’re cool, now we’ve had our kicks,

say farewell to these frolics.

Pa le sydd gan y gynghanedd tu hwnt i’r Gymraeg, felly?

“Dipyn bach o fyth” ydy’r gred nad ydy hi’n bosib cynganeddu mewn unrhyw iaith oni bai am y Gymraeg, yn ôl Twm Morys.

“Mi oedd yna fath o gynghanedd yn bod mewn ieithoedd eraill, yn enwedig yr ieithoedd sy’n perthyn i’r Gymraeg – Gwyddeleg a Llydaweg – ond heb ddatblygu gymaint ag yn Gymraeg,” meddai’r bardd wrth golwg360.

“Mi fedrwch chi gynghanedd yn unrhyw iaith, achos fel ryw fath o system sain ydy’r gynghanedd, a tasa yna iaith yn cael ei siarad ar y lleuad fysa rhywun yn gallu siarad yn honno hefyd – dw i wedi gwneud, â dweud y gwir, ambell waith. Dyfeisio iaith nad ydy hi’n bod, a chynganeddu ynddi.

“Be’ sydd ei angen ydy clust fain iawn, a be’ sy’n ddifyr wrth gynganeddu yn Saesneg ydy bod y Saesneg mor wahanol i’r Gymraeg; mae’r seiniau yn wahanol a dydyn nhw ddim yn debyg iawn i’r iaith ysgrifenedig.

“Ambell waith, os wyt ti’n dibynnu gormod ar dy lygaid, mi gei di dy dwyllo wrth gynganeddu yn Saesneg. Mae’n rhaid i ti glywed popeth.

“A dyna yn y bôn ydy cynghanedd beth bynnag – rhywbeth yn y glust.”

‘Creu darluniau newydd’

Tua’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ysgrifennodd myfyriwr Cymraeg o Brifysgol Rhydychen gywydd Saesneg am y Forwyn Fair, wedi i’w ffrindiau ddweud nad oedd gan y Cymry farddoniaeth.

Y gynghanedd lusg a’r gynghanedd sain sy’n gweithio orau yn y Saesneg, gan eu bod nhw’n dibynnu ar odlau sy’n amlwg iawn i’r glust Saesneg, eglura Twm Morys.

“Difyr iawn ydy cynganeddu yn Saesneg, achos mae o’n faes hollol newydd. Mae rhywun yn crwydro’r llwybrau yma am y tro cyntaf,” meddai.

“Fel sy’n digwydd yn y Gymraeg, mae’r gynghanedd ei hun yn creu darluniau newydd a difyr, dim ond am y ddamwain bod ambell i air yn cynganeddu efo ambell i air arall, a bod y gwrthgyferbyniad rhyngddyn nhw yn ddifyr ac yn creu ryw ddarlun swrrealaidd.

“Mae Emyr yn trio dengyd rŵan, mynd â’i ymlusgiaid efo fo, ond mae yna apêl wedi dod, rhywun yn ymbil arnom ni i barhau achos mae o’n creu ychydig bach o ddifyrrwch i bobol. Hwyl ydy o yn y bôn.

“Mae gen i awydd, yn lle bod Emyr a fi’n gorfod llusgo’r ymlusgiaid ein hunain, cynnig gwobr agored i bobol o unrhyw gefndir, unrhyw iaith i gyfansoddi darn cynganeddol yn Saesneg – efallai y gwna i.”

‘Perthyn i’r Gymraeg’

Un o ogoniannau’r grefft, meddai Emyr Lewis, Pennaeth y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, ydy ei bod hi’n gallu cael ei defnyddio i gyfleu’r llon a’r lleddf.

“Mae o bron â bod yn ystrydeb dweud bod y gynghanedd fel iaith o fewn iaith, mae ganddi hi ei rheolau ei hun ac mae modd mynegi unrhyw beth os ydych chi’n crafu’ch pen ddigon ar gynghanedd,” meddai wrth golwg360.

“Sut mae pethau’n swnio a sut mae geiriau’n gwrthdaro â’i gilydd, mae’r math yna o beth yn gallu gweithio mewn idiom wahanol i greu digrifwch.

“Mae’r englyn digrif a’r cywydd dychan yr un mor hen â’r englyn difrifol a’r cywydd marwnad, maen nhw’n gallu rhychwantu’r ddwy ffordd.”

O ran defnyddio’r gynghanedd tu hwnt i’r Gymraeg, mae Emyr Lewis “mewn dau feddwl”, er ei fod wedi cynganeddu yn Saesneg unwaith cyn hyn.

“Fe wnes i ysgrifennu cywydd Saesneg unwaith ar ôl cyfarfod y bardd Americanaidd Allen Ginsberg, ac enw’r cywydd ydy ‘A once in a lifetime never to be repeated Cywydd following a chance meeting with the late Mr Allen Ginsberg’.

“Ar y naill law, roeddwn i’n awyddus iawn i egluro i’r bardd mawr yma beth oedd ein crefft Gymreig ni, ac i ddefnyddio ei iaith yntau fel cyfrwng.

“Ond ar y llaw, roedd o’n ‘once in a lifetime never to be repeated’ – ond mae gen i ofn fy mod i wedi torri’r addewid yna efo’r pethau gwirion yma ar Trydar!

“Mae’n perthyn i’r Gymraeg mewn ffordd hanfodol, dw i’n credu. Mae’r gynghanedd ei hun yn cario hanes a thraddodiad a ffurf o siarad sy’n unigryw i’r Gymraeg.

“Dw i’n meddwl, felly, er mwyn ei gwerthfawrogi hi’n iawn, rydych chi angen medru’r Gymraeg.

“Ond wedi dweud hynny, os ydy pobol eisiau mynd ati i gynganeddu yn Saesneg, iawn iddyn nhw wneud.

“Ond yn bersonol, mae o’n fwy chwareus, mae o’n fwy o gêm [cynganeddu yn Saesneg].”