Bron i 54 mlynedd ers ei sefydlu, mae rhifyn ola’r cylchgrawn Planet wedi’i gyhoeddi “am y tro”, ar ôl colli eu grant gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Cafodd y cylchgrawn, gafodd ei sefydlu gan Ned Thomas ym mis Awst 1970, wybod fis Rhagfyr y llynedd y byddai’r Cyngor Llyfrau yn dod â grant y cylchgrawn i ben o Ebrill 1.
Yn dilyn trafodaethau ynghylch yr holl opsiynau, mae rhifyn ola’r cylchgrawn wedi’i gyhoeddi fis yma.
Yn ôl Emily Trahair, golygydd y cylchgrawn, mae’r tîm yn “ofnadwy o obeithiol” y gall Planet “un diwrnod lanio ar eich matiau drws eto”.
Cefndir
Cafodd Planet ei sefydlu fel cylchgrawn deufisol gan Ned Thomas, fu hefyd yn olygydd cynta’r cylchgrawn.
Cafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi ym mis Awst 1970.
Y Cyngor Llyfrau, yn hytrach na Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi ariannu’r cylchgrawn ers cyn 2006.
Bob ychydig flynyddoedd, mae’n rhaid i gylchgronau gyflwyno cais am grant gan y Cyngor Llyfrau, ac mae cylchgronau fel Planet yn ddibynnol ar y grant hwn.
Mae’r Cyngor Llyfrau’n derbyn cyllid gan Gymru Greadigol, a thra bod gan y Cyngor Llyfrau ryddid i rannu’r grant fel maen nhw’n dymuno, maen nhw’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn unol â chynllun gweithredu sydd wedi’i gytuno.
Ers 2009, mae Planet wedi gweld gostyngiadau olynol yn eu cyllid craidd gan y Cyngor Llyfrau, ac mae eu cyllid craidd presennol yn llai na hanner yr hyn dderbynion nhw cyn datganoli.
Mae’r cylchgrawn wedi bod yn llwyddiannus wrth gystadlu am grantiau atodol bach gan y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar, ond dydy hyn ddim yn ddigon i barhau â’r cylchgrawn.
Planet wedi newid y ffordd mae darllenwyr “yn gweld eu hunain a’r byd am byth”
Wrth ysgrifennu ei darn golygyddol olaf am y tro, bu Emily Trahair, sydd wedi bod yn golygu’r cylchgrawn ers 2012, yn adlewyrchu ar yr hyn mae Planet wedi’i gyflawni.
“Roedd yn anodd gweithio allan sut ar y ddaear i ysgrifennu’r golygyddol hwn, felly cymerais daith hwyrnos i fyny Craig-glais, i gael rhywfaint o bersbectif,” meddai.
“Mewn adegau o argyfwng, gall eich awydd i fod yn unrhyw le arall na lle rydych chi’n ffeindio eich hun arwain y meddwl at dwyll.
“Ond rydym yn lle’r ydym ni; yn yr achos hwn jyglo tâp pacio a thaenlenni yng nghanolbarth Cymru aeafol, yng nghanol yr hunllef weinyddol o ddirwyn i ben cylchgrawn annwyl; ac oddi yno i’r ciw dôl.
Mae [Planet] wedi chwarae rhan sylweddol wrth helpu cenedl sydd wedi’i rhannu’n drasig yn aml i ddeall ei hun yn well, gan drechu rhyfeloedd diwylliant diflas dros y degawdau.
“Mae wedi bod yn geiliog gwynt ac yn arwyddbost, ynghlwm wrth yr is-gerhyntau, y tensiynau a’r posibiliadau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru a’r byd, tra hefyd yn siapio ymwybyddiaeth darllenwyr am bopeth o’r iaith Gymraeg a hunaniaeth genedlaethol i newid yn yr hinsawdd, neo-imperialaeth a hiliaeth.
“Mae darllenwyr di-ri wedi dweud wrtha i fod Planet wedi newid y ffordd maen nhw’n gweld eu hunain a’r byd am byth, o’r adeg pan gafodd ei sefydlu gan Ned Thomas ymlaen.
“Wedi’i becynnu â llaw gennym ni, mae’r cylchgrawn yn glanio ar fatiau drws ym mron pob cornel o Gymru, ac yn cyrraedd bagiau post ym mhobman o garchardai i Lyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Guyana i Rwsia, Stormont i Batagonia, prifysgolion Cynghrair Ivy i’r Bibliothèque Nationale de France, a’r rhan fwyaf o genhedloedd di-wladwriaeth Ewrop, cyrhaeddiad byd-eang i ddiwylliant Cymru sydd wedi cymryd degawdau i’w adeiladu.
“Bu arllwysiad o anghrediniaeth a dicter, gan gynnwys mynegiadau o’r hyn y gellir ond ei ddisgrifio fel galar, gan y cyhoedd sy’n darllen, awduron, sefydliadau, cyhoeddwyr a gwleidyddion wrth i Planet a New Welsh Review golli cyllid.
“Fodd bynnag, mae gwaddol y toriadau cyllid, wedi’i gyfuno gyda salwch a’r weinyddiaeth sydd ei hangen i ddirwyn y cylchgrawn i ben yn ein gadael heb fawr o gapasiti i ymgyrchu, herio na sylwebu ymhellach ar hyn o bryd, heb beryglu llosgi allan difrifol.
“Hyd nes y gallwn fynd yn ôl i’r dyfodol, mae Planet yn mynd yn segur.
“Rydym wedi bod yma o’r blaen: cau i lawr yn 1979 ac ail-lansio yn 1985, ac rydym yn gobeithio y gallwn un diwrnod lanio ar eich matiau drws eto.”
Cymorth
Mae’r cylchgrawn bellach yn galw am gymorth y cyhoedd i’w helpu i gasglu’r arian sydd ei angen ar gyfer “costau hanfodol”, gan gynnwys taliadau statudol i gefnogi staff drwy’r broses diswyddo.
Yn ôl Planet, byddai hyn yn atal y cwmni sy’n berchen ar y cylchgrawn, Berw Cyf, rhag mynd i ddyled neu ddiddymiad a cholli ei hawliau eiddo deallusol.
Mae’n bosib cyfrannu yma.