Mae Taith Abertawe 2024, fydd yn dod i ben ar Ddydd Miwsig Cymru, yn “cynnig cyfleoedd i gannoedd o bobol o bob oedran fwynhau cerddoriaeth Gymraeg”, yn ôl Pennaeth Menter Iaith Abertawe.

Fe fu Tomos Jones yn siarad â golwg360 ar ddiwrnod cynta’r daith (dydd Llun, Chwefror 5), wrth i Mr Phormula (Ed Holden) berfformio i fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Gŵyr, tra bod Iestyn Gwyn Jones wedi bod yn perfformio ar gyfer ysgolion Penclawdd ac Ystumllwynarth.

Mae amryw o weithgareddau’n cael eu cynnal weddill yr wythnos hon, gyda’r perfformwyr yn cynnwys Candelas, Huw Chiswell, Mei Gwynedd, Angel Hotel, Pwdin Reis, Parisa Fouladi, Dafydd Hedd, Bwca, a Rhiannon O’Connor.

Dydd Mawrth (Chwefror 6): Mei Gwynedd (ysgolion Bryniago a Gellionnen); Mari Mathias (ysgolion Pennard a Gŵyr)

Dydd Mercher (Chwefror 7): Dafydd Hedd (ysgolion Talycopa a Llandeilo Ferwallt); Angel Hotel (ysgolion Cefn Hengoed a Thre-gŵyr)

Dydd Iau (Chwefror 8): Bwca (Ysgol Dyfnant a Choleg Gŵyr Gorseinon); Pwdin Reis (ysgolion Hendrefoelan a Phontarddulais)

Dydd Gwener (Chwefror 9): Bwca (ysgolion yr Hafod a’r Gors); Candelas; Parisa Fouladi a Rhiannon O’Connor yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Taliesin, Prifysgol Abertawe.

“Rydym wedi cyffroi’n fawr i allu ymweld â 21 o leoliadau gwahanol fel rhan o’n taith Dydd Miwsig Cymru o gwmpas Abertawe eleni,” meddai Tomos Jones.

“Byddwn yn ymweld â chymysgedd o ysgolion, colegau, a lleoliadau celfyddydol gwahanol, ac yn cynnig cyfleoedd i gannoedd o bobol o bob oedran i fwynhau cerddoriaeth iaith Gymraeg.

“Mae gennym ni gyfres o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru yn chwarae setiau o amrywiaeth eang o genres gwahanol, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno pobol newydd i’r holl gerddoriaeth anhygoel sy’n cael ei chreu gan ddefnyddio’r iaith.”