Brexit ydy’r “peth gwaethaf sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd”, yn ôl gitarydd y band Pendulum.
Mewn cyfweliad ag S4C, dywed Peredur ap Gwynedd fod y band wedi colli degau o filoedd o bunnoedd oherwydd cyfyngiadau ar y diwydiant cerddoriaeth ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Peredur ap Gwynedd wedi teithio’r byd gyda’r band Pendulum, ac maen nhw ar fin mynd ar daith arall o gwmpas gwledydd Prydain ac Ewrop.
Cyn hynny, roedd yn chwarae gyda band Natalie Imbruglia pan gafodd hi lwyddiant ysgubol gyda’r sengl ‘Torn’, wnaeth werthu dros bedair miliwn o gopïau.
‘Alla i ddim maddau’
Ym mhennod ddiweddaraf Taith Bywyd ar S4C nos Sul (Chwefror 4), bydd y cerddor yn mynd ar daith i gwrdd â’r bobol wnaeth newid ei fywyd a dylanwadu ar ei yrfa.
“Pan oedden ni’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, roedden ni’n gallu symud nôl ac ymlaen i Ffrainc, i’r Eidal, i’r Almaen faint bynnag oedden ni eisiau,” meddai wrth Owain Williams, cyflwynydd y rhaglen.
“Brexit yw’r peth gwaethaf sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd.
“Alla i ddim maddau i unrhyw un sydd wedi pleidleisio drosto fe a fi’n beio nhw, beio pob blydi un ohonyn nhw.
“Mae e wedi effeithio arna i a bywydau pobol fi’n gweithio gyda.”
Ym mis Medi 2022, fe wnaeth e roi tystiolaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi am effaith rheolau Brexit ar fywoliaeth cerddorion a thechnegwyr o’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl Peredur ap Gwynedd, mae dinasyddion y Deyrnas Unedig sydd â phasbort Prydeinig ac sy’n gweithio yn y maes cerddoriaeth byw wedi colli incwm a chyfleoedd gwaith.
Roedd ymchwil y llynedd yn dangos fod chwarter gweithwyr y diwydiant cerddoriaeth heb gael gwaith yn yr Undeb Ewropeaidd ers Brexit.
Dywedodd bron eu hanner nhw eu bod nhw’n cael llai o waith yno ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth gyhoeddi eu hymchwil, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Annibynnol y Cerddorion (ISM) fod canlyniadau Brexit yn dinistrio’r wlad a thalent greadigol.
“Ddylai Brexit fyth fod wedi golygu na all cerddorion rannu eu talent â rhyddid gyda’n cymdogion agosaf,” meddai Deborah Annetts.