Mae Papur Gwyn gan Angus Robertson yn dweud y dylai’r Alban gael darlledwr cyhoeddus newydd pe bai’r wlad yn mynd yn annibynnol, yn ôl The National.

Byddai awdurdod newydd o’r fath yn cynrychioli’r wlad yn well, meddai’r Aelod Seneddol Albanaidd a chyn-newyddiadurwr sydd bellach yn Ysgrifennydd Diwylliant yr Alban.

Dywed fod annibyniaeth yn golygu y byddai’r penderfyniadau ynghylch darlledu yn nwylo cyhoedd yr Alban.

Cafodd ei ddogfen ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Chwefror 2).

“Mae annibyniaeth yn golygu y byddai penderfyniadau darlledu sy’n cael effaith ar gynulleidfaoedd Albanaidd a’n diwydiannau creadigol yn cael eu gwneud gan gyhoedd yr Alban drwy Senedd yr Alban,” meddai.

“Er enghraifft, penderfyniadau ynghylch pa ddigwyddiadau chwaraeon mawr ddylai fod ar gael i’w darlledu’n rhad ac am ddim, megis gemau rhagbrofol pêl-droed rhyngwladol.

“Byddai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn blaenoriaethu cynnwys a gwasanaethau sy’n cynrychioli cynulleidfaoedd amrywiol yn well yn yr Alban, gan gryfhau lleisiau lleol a sylw i faterion cymunedol.”

Papur Gwyn

Mae’r Papur Gwyn yn nodi bod penderfyniadau ynghylch darlledu’n cael eu gwneud yn San Steffan ar hyn o bryd.

Ond ar ôl annibyniaeth, meddai, byddai darlledwyr yn atebol i Senedd yr Alban.

“Gydag annibyniaeth, gallai Llywodraeth yr Alban adeiladu ar gryfderau’r model darlledu presennol a defnyddio pwerau newydd i ddatblygu strategaeth ddarlledu sy’n adlewyrchu’n well ac yn blaenoriaethu anghenion a buddiannau penodol cynulleidfaoedd Albanaidd a’n heconomi greadigol.

“Fel blaenoriaeth, byddai’r llywodraeth hon hefyd yn dechrau gweithio er mwyn sefydlu darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Albanaidd newydd, gyda gwasanaethau ar deledu, radio ac ar-lein i adlewyrchu diddordebau eang a bydolwg pobol yr Alban.

“Gallai hyn sicrhau mynediad at y rhaglenni sydd o bwys i gynulleidfaoedd Albanaidd, megis argaeledd ehangach digwyddiadau chwaraeon Albanaidd allweddol, a byddai’n cael ei reoleiddio gan reoleiddiwr newydd yn yr Alban sydd â buddiannau cynulleidfaoedd a’r diwydiant Albanaidd wrth ei galon.”

Ymgynghoriad

Byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ymhlith y cyhoedd a’r diwydiannau creadigol cyn sefydlu darlledwr cyhoeddus newydd, meddai’r papur, gan ychwanegu y byddai’n seiliedig ar fodel ffi drwydded neu ddull amgen o ariannu.

Yn ôl y papur, byddai disgwyl i’r darlledwr newydd gynnig newyddion diduedd a rhaglenni penodol ar radio a theledu ac ar-lein er mwyn adlewyrchu’r gymdeithas Albanaidd.

Byddai gofyn am strwythur llywodraethu a rheoleiddio cryf sy’n annibynnol o’r llywodraeth, meddai’r papur.

Byddai angen model ariannu sy’n golygu na fyddai’n rhaid dibynnu ar hysbysebion na thanysgrifiadau.

Ar ddechrau annibyniaeth, meddai, byddai’n rhaid parchu Siarter y BBC heb newid ffi’r drwydded bresennol.