Mae llai o bobol nag erioed o’r blaen yn gwrando ar BBC Radio Cymru erbyn hyn.

Mae’r ffigwr, ar gyfer ail hanner 2023, wedi gostwng o dan 100,000 am y tro cyntaf, gyda 95,000 o wrandawyr wedi’u cofnodi gan Rajar, y corff sy’n casglu ystadegau gwrando.

Mae’r ffigwr 7,000 yn is na’r tri mis blaenorol, a 40,000 yn is na’r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Serch hynny, mae nifer yr oriau gwrando ar gyfartaledd wedi codi dros 12 awr y pen – mwy na dwy awr yn fwy na’r chwe mis hyd at fis Medi y llynedd, ond awr yn llai na’r un cyfnod y flwyddyn gynt.

‘Dadansoddi’r ffigurau yn fanwl’

Er gwaetha’r ffigurau, dywed BBC Cymru fod Radio Cymru’n “parhau i fod yn ddewis poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg”.

Dywed llefarydd eu bod nhw’n “cydnabod” yr adroddiad, ac y byddan nhw’n “dadansoddi’r ffigurau yn fanwl… gan edrych ar y patrymau gwrando sydd wedi datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf”.

“Mae radio yn gyfrwng pwysig i’n cynulleidfaoedd ac mae Radio Cymru yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg, boed hynny wrth wrando’n fyw neu ar alw,” meddai.

“Mae’n werth nodi mai ffigyrau gwrando byw sydd yn cael eu cofnodi gan RAJAR.”

Maen nhw’n dweud bod y ffyrdd mae eu cynulleidfaoedd yn gwrando “yn newid”, a bod mwy na 2.1m o geisiadau i wrando ar gynnwys digidol drwy BBC Sounds.