Mae’r Urdd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eu Heisteddfod Genedlaethol yn fwy hygyrch i gystadleuwyr ac ymwelwyr yn y dyfodol.
Er mwyn gwneud hynny, maen nhw’n gobeithio denu unigolion 16 i 25 oed fyddai’n medru rhannu profiadau neu arbenigedd yn y maes anableddau a hygyrchedd i’r celfyddydau.
Yn sgil partneriaeth gyda Disability Arts Cymru a’r cwmni theatr Taking Flight, mae’r Urdd yn anelu at wella mynediad at ddigwyddiadau celfyddydol y mudiad.
Bydd yr unigolion fydd yn cynorthwyo hefyd yn cael profiad gwaith er mwyn trefnu digwyddiadau, ac yn sicrhau bod maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol ac yn adlewyrchu strategaeth ‘Urdd i Bawb’.
Fel man cychwyn i’r bartneriaeth, derbyniodd staff adran Eisteddfod yr Urdd hyfforddiant mynediad a chynhwysiant anabledd gyda Disability Arts Cymru, a byddan nhw’n derbyn hyfforddiant BSL a chynhwysiant gan Taking Flight.
Bydd yr Urdd hefyd yn creu adnoddau a phecynnau gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr dall a byddar.
Fe fydd yr ŵyl hefyd yn gweithio’n agos gydag Attitude is Everything, sefydliad sy’n helpu i wella’r mynediad sydd gan bobol ag anableddau at ddigwyddiadau cerddoriaeth byw.
‘Haeddu cael eu mwynhau gan bawb’
“Fel rhan o’n partneriaeth gyda Disability Art Cymru a Taking Flight, rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a mynediad at ein digwyddiadau celfyddydol, sy’n cynnwys maes Eisteddfod yr Urdd,” meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd.
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb.
“Yn ogystal â datblygu ac addasu maes yr Eisteddfod, rydym hefyd am sicrhau cyfleoedd i artistiaid anabl, B/byddar a niwroamrywiol i berfformio ac arwain yn ein darpariaeth gelfyddydol.
“Anogwn bawb sydd eisiau bod yn rhan o’r Fforwm Hygyrchedd i ymuno efo ni, ac edrychwn ymlaen at gydweithio er mwyn sicrhau fod cynnig celfyddydol yr Urdd yn parhau i esblygu a thyfu.”
‘Cyfle cyfartal’
Ychwanega Owain Gwilym, Cyfarwyddwr Gweithredol Disability Arts Cymru, eu bod nhw’n falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld un o sefydliadau a digwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru gweithio gyda lleisiau ifanc anabl a/neu Fyddar i ddatblygu hygyrchedd a chynhwysiant,” meddai.
Dywed Steph Bailey-Scott, Rheolwr Mynediad, Cynhwysiant a Chyfranogiad Taking Flight, eu bod nhw’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Urdd hefyd.
“Mae’n hanfodol i bobol ifanc, boed yn fyddar, yn anabl, yn niwroamrywiol neu’n anabl, ddechrau disgwyl mynediad fel y norm, cael blaenoriaeth, a chael y cyfle cyfartal hynny heb unrhyw rwystrau,” meddai.