Bydd pob gêm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn cael eu dangos yn fyw ar S4C.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno, Lauren Jenkins yn gohebu, a Gareth Charles a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu.

Fe fydd y bencampwriaeth yn dechrau ddydd Sadwrn (Chwefror 3), ac ymgyrch Cymru yn dechrau gartref yn Stadiwm Principality yn erbyn yr Alban.

Cyhoeddodd Warren Gatland ei garfan bythefnos yn ôl, gan enwi Dafydd Jenkins yn gapten.

Bydd cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru Rhys Priestland, Jamie Roberts, Andrew Coombs, Jonathan Davies, Sioned Harries a Nicky Robinson yn ymuno â’r darlledu fel tîm dadansoddi.

“Mae pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn dilyn yn gyflym ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd ac mae yna dipyn o her yn wynebu tîm Warren Gatland,” meddai Sarra Elgan.

“Eleni mae llwyth o enwau mawr rygbi Cymru fydd ddim yn rhan o’r garfan, oherwydd anafiadau, ymddeoliad neu, fel yn achos Louis Rees-Zammit, oherwydd ei fod wedi symud at her mewn camp arall.

“Mae’r gêm gyntaf yn erbyn yr Alban am fod yn dipyn o her i Gymru. Y cwestiwn mawr yw a fydd chwaraewyr ifanc yn y garfan yn gallu profi eu hunain ar y lefel uchaf?”

‘Sialens anodd’ yn erbyn yr Alban

Ychwanega Rhys Priestland ei fod e wedi cyffroi o gael bod yn rhan o dîm S4C ar gyfer y Chwe Gwlad, yn enwedig ar ôl Cwpan y Byd.

“Mae’r Chwe Gwlad yn ddathliad o bob cenedl sy’n cymryd rhan. Mae’r gwledydd yn cwrdd bob blwyddyn, felly gartref neu bant, mae wastad yn amser da,” meddai.

“O ran gobeithion Cymru – mae’n anodd dweud. Mae sawl chwaraewr profiadol wedi gadael ond mae lot o’r bois ifanc hyn wedi bod yn chwarae’n dda.

“Mae’r gêm gyntaf yna yn erbyn Yr Alban am fod yn sialens anodd – maen nhw’n garfan sefydlog sydd heb golli lot ers Cwpan y Byd. Ac yn y Chwe Gwlad, mae’r gêm gyntaf yna mor bwysig.”

Bydd gemau Cymru dan 20 yn cael eu dangos yn fyw ar S4C hefyd, a bydd eu pencampwriaeth nhw yn dechrau nos Wener (Chwefror 2) ym Mae Colwyn.

‘Rhan o’n diwylliant’

Heddiw (dydd Mercher, Ionawr 31), bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn am gefnogaeth y Senedd i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys gemau Cymru yn y Chwe Gwlad yng nghategori’r gemau sydd i’w gweld am ddim ar y teledu.

“Mae rygbi yn rhan o bwy ydyn ni fel Cymry, mae’n rhan o’n diwylliant ac ein DNA,” meddai Tom Giffard ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dyna pam mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dod â chynnig gerbron y Senedd i’w drafod er mwyn sicrhau y gall pawb fwynhau’r Chwe Gwlad, a’i fod am ddim ar y teledu.”

Enwi Dafydd Jenkins yn gapten yn “dipyn o ddatganiad”

Cadi Dafydd

“I Warren Gatland roi’r cyfrifoldeb i rywun ifanc fel Dafydd Jenkins, mae’n dangos faint o edmygedd sydd gyda fe fel chwaraewr a rhywun sy’n arwain”

Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ddarlledu’r Chwe Gwlad am ddim ar y teledu

“Yma yng Nghymru, mae chwaraeon yn chwarae rôl arwyddocaol yn ein treftadaeth ddiwylliannol a’n hunaniaeth genedlaethol,” meddai arweinydd y blaid