Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n dweud bod chwaraeon yn rhan o “hunaniaeth genedlaethol” Cymru, ac felly bod angen darlledu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am ddim ar y teledu.

Ar hyn o bryd, mae’r gystadleuaeth rygbi wedi’i chynnwys ar restr grŵp B, sy’n golygu bod modd darlledu gemau byw ar wasanaethau tanysgrifio ar yr amod fod uchafbwyntiau’n cael eu cynnig i sianeli am ddim.

Mae Jane Dodds bellach yn galw am gynnwys y Chwe Gwlad ar restr Grŵp A, gan ddiogelu ei statws ar sianeli daearol am ddim am y dyfodol rhagweladwy.

Daw hyn yn dilyn sylwadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n dweud nad oes cynlluniau i orfodi undebau’r Chwe Gwlad – Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal – i gynnig y gemau’n rhad ac am ddim i ddarlledwyr.

Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y rhestr bresennol “yn gweithio’n dda”.

‘Rôl arwyddocaol yn ein hunaniaeth genedlaethol’

Daw’r alwad gan Jane Dodds wrth i dîm rygbi dynion Cymru baratoi i ddechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad 2024 gartref yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn (Chwefror 3).

“Yma yng Nghymru, mae chwaraeon yn chwarae rôl arwyddocaol yn ein treftadaeth ddiwylliannol a’n hunaniaeth genedlaethol,” meddai.

“Ac fel conglfaen allweddol ar galendr rygbi’r undeb rhyngwladol, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dal cryn bwysigrwydd i bobol Cymru.

“Pwysigrwydd y twrnamaint a’r rygbi yma yn gyffredinol i Gymru yw’r rheswm pam ein bod ni fel plaid yn galw am ychwanegu’r Chwe Gwlad yn syth i grŵp A o’r digwyddiadau chwaraeon rhestredig, gan ddiogelu ei statws ar deledu daearol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.

“Bydd methu â diogelu twrnamaint mor fawreddog ar deledu daearol nid yn unig yn gwanhau’r elfen gyfranogol genedlaethol unigryw a deimlir mor amlwg yng Nghymru ond bydd hefyd yn achosi niwed hirdymor i gamp sy’n gobeithio dechrau ar gyfnod o adnewyddu.

“Er ei bod yn galonogol y bydd y twrnamaint yn parhau i fod yn rhydd i ddarlledu tan 2025 oherwydd contractau sy’n bodoli eisoes gyda darparwyr daearol, mae’n dal i fod yn bwysig iawn ein bod yn gweithredu nawr i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir.”

Josh Adams

“Rygbi’n rhan o bwy ydyn ni fel cenedl Gymreig”

Bydd Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, yn arwain dadl ar yr hawl i wylio gemau’n rhad ac am ddim