Mae llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod “rygbi’n rhan o bwy ydyn ni fel cenedl yng Nghymru”, ac felly bod rhaid cynnal yr hawl i wylio gemau’n rhad ac am ddim ar y teledu.

Daw sylwadau Tom Giffard ar drothwy dadl ei blaid ar yr hawl i wylio gemau rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar deledu rhad ac am ddim.

Mae’n dilyn sylwadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n dweud nad oes cynlluniau i orfodi undebau’r Chwe Gwlad i gynnig y gemau’n rhad ac am ddim i ddarlledwyr.

Mae gweinidogion yng Nghymru’n pwyso am gynnwys Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y rhestr o ddigwyddiadau sydd wedi’u gwarchod fel na fydd yn rhaid talu i’w gwylio nhw yn y dyfodol.

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod y rhestr bresennol “yn gweithio’n dda”, ac mae un Ceidwadwr yn rhybuddio am ymdrechion i roi’r hawliau ar gyfer y Chwe Gwlad i’r ymgeisydd sy’n talu’r swm mwyaf o arian am yr hawliau.

‘Mae’n bryd i’r Senedd ddod ynghyd’

“Mae rygbi’n rhan o bwy ydyn ni fel cenedl Gymreig,” meddai Tom Giffard.

“Dyna pam y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn Senedd Cymru i sicrhau y gall pawb fwynhau’r Chwe Gwlad.

“Mae’n bryd i’r Senedd ddod ynghyd i sicrhau bod cystadleuaeth wych yn ein camp genedlaethol yn parhau’n rhad ac am ddim i’w darlledu ym mhob cartref yng Nghymru.”

‘Diffyg dealltwriaeth’

Yn y cyfamser, mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn “fyr eu golwg” pan ddaw i bwysigrwydd rygbi i ddiwylliant Cymru.

“Penderfyniad siomedig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – [dydyn nhw] ddim hyd yn oed yn agored i’r syniad o ychwanegu rygbi’r Chwe Gwlad at y rhestr #rhadacamddim er gwaethaf lobïo trawsbleidiol,” meddai.

“Mae chwaraeon yn chwarae rhan ganolog yn niwylliant Cymru.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wneud yr achos fel y bydd Heledd Fychan yn ei ddangos yn y Senedd heddiw.

“Mae ymateb byr eu golwg i fy llythyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos diffyg dealltwriaeth clir o bwysigrwydd diwylliannol rygbi yng Nghymru.

“Bydd Plaid Cymru yn dal i wthio i sicrhau hawliau darlledu rhad ac am ddim.

“Fel cenedl chwaraeon falch – datganolwch ddarlledu rŵan!”