Fe fydd Syr Gareth Edwards yn cael ei ethol yn Llywydd Anrhydeddus Rygbi Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 24), wrth i berchnogion newydd brynu’r clwb.
Mae Helford Capital wedi sicrhau mwyafrif helaeth (99.99%) o gyfrannau’r clwb, ac mae hynny wedi’i gymeradwyo yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 23).
Phil Kempe a Neal Griffith o Helfod Capital fydd prif randdeiliaid y rhanbarth, yn dilyn misoedd o drafodaethau ynghylch dyfodol hirdymor y rhanbarth.
Mae Gareth Edwards yn olynu’r diweddar Peter Thomas, oedd yn fuddsoddwr sylweddol yn y rhanbarth, ac maen nhw wedi diolch iddo fe a’i deulu am bum degawd o wasanaeth.
Roedd Peter Thomas yn chwaraewr, yn noddwr, yn fuddsoddwr, yn gadeirydd ac yn Llywydd Oes, ac mae’r rhanbarth wedi ailenwi Eisteddle’r De er cof amdano fe ac mae portread wedi’i ddadorchuddio yn y clwb.
Dywed Alun Jones, cadeirydd Rygbi Caerdydd, fod y newyddion yn “foment enfawr yn hanes Rygbi Caerdydd”, gan sicrhau “dyfodol disglair, diogel a chyffrous”.
Mae’r buddsoddwyr wedi cael sêl bendith Undeb Rygbi Cymru a Chlwb Athletau Caerdydd, fydd â chyfran fach yn y rhanbarth o hyd.