Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn gobeithio y gall gêm y menywod dyfu ymhellach yn 2024, wrth i’r Can Pelen ddychwelyd am y pedwerydd tro.
Bydd gêm gynta’r Tân Cymreig, tîm dinesig Caerdydd, yn cael ei chynnal ar Orffennaf 23, wrth i’r gystadleuaeth redeg drwy gydol Gorffennaf ac Awst, gyda’r gemau cyntaf yng Nghaerdydd yn erbyn yr Oval Invincibles ar Orffennaf 28.
Byddan nhw wedyn yn herio Southern Brave yng Nghaerdydd ar Awst 5, cyn herio’r Northern Superchargers ar Awst 8 a Birmingham Phoenix ar Awst 10.
Bydd wyth tîm yn cystadlu, gyda Diwrnod y Ffeinals ar Awst 18 yn Lord’s yn benllanw ar y cyfan.
Bydd timau’r menywod yn cael eu dewis drwy gadw chwaraewyr o dymhorau blaenorol, Drafft y Can Pelen a dewis ychwanegol (wildcard).
Mae cyflogau’r menywod wedi cynyddu gan £100,000 y tîm, gyda’r chwaraewyr amlycaf yn ennill cyflog o £50,000.
Bydd yr holl gemau’n cael eu darlledu ar Sky Sports neu’r BBC, ac yn cael eu dangos ar lwyfannau digidol hefyd, a bydd merched y Tân Cymreig yn gobeithio mynd gam ymhellach na’r ‘Eliminator’, neu’r rownd gyn-derfynol, fel y gwnaethon nhw’r tymor diwethaf.
Adloniant i’r teulu cyfan
Bydd llwyfan BBC Introducing yn cynnig adloniant byw unwaith eto, gan gynnwys bandiau a setiau DJ.
Y llynedd, aeth 580,000 o gefnogwyr i wylio’r gystadleuaeth, gan gynnwys dros 300,000 yng ngemau’r menywod.
Aeth 41% o’r holl docynnau i deuluoedd, 23% i blant a 30% i fenywod, sef y grwpiau targed ar gyfer y twrnament, gyda mwy o fenywod nag erioed o’r blaen yn gwylio gemau’r menywod, gan gynnwys 21,636 yn y rownd derfynol.
Roedd cynnydd o 20% yn y gynulleidfa deledu ar gyfer gemau’r menywod, o gymharu â thwf o 8% ar gyfer gemau’r dynion, ac roedd gemau’r menywod ymhlith digwyddiadau byw mwyaf poblogaidd Sky Sports ar gyfer y flwyddyn gyfan.
Roedd cynnydd dyddiol o 30% mewn oriau gwylio, gyda 70m o bobol wedi gwylio sianeli fideo’r gystadleuaeth hefyd – sy’n gyfystyr â chynnydd o 50% o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Ymhlith y bandiau sydd wedi perfformio yn y Can Pelen yng Nghaerdydd mae Adwaith, fu ar y llwyfan yng Ngerddi Sophia yn 2022.
Bydd modd i gefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau yn y gorffennol fachu tocynnau ar gyfer 2024 rhwng Mawrth 13-27, tocynnau blaenoriaeth ar werth rhwng Ebrill 9-23, ac wedyn byddan nhw ar gael i’r cyhoedd o Ebrill 25.
Mae tocynnau oedolion yn £11+, a thocynnau plant tair i bymtheg oed yn £5.
Trefn y gemau
Gorffennaf 25: Manchester Originals v Tân Cymreig (menywod 3yp, dynion 6.30yh)
Gorffennaf 28: Tân Cymreig v Oval Invincibles (menywod 3yp, dynion 6.35yh)
Awst 1: London Spirit v Tân Cymreig (menywod 11.30yb, dynion 3yp)
Awst 3: Trent Rockets v Tân Cymreig (menywod 2.30yp, dynion 6yh)
Awst 5: Tân Cymreig v Southern Brave (menywod 3yp, dynion 6.30yh)
Awst 8: Tân Cymreig v Northern Superchargers (menywod 11.30yb, dynion 3yp)
Awst 10: Tân Cymreig v Birmingham Phoenix (menywod 2.30yp, dynion 6yh)
Awst 14: Southern Brave v Tân Cymreig (menywod 11.30yb, dynion 3yp)