Wrth ddathlu 25 mlynedd ers i Dŷ Hafan agor ei ddrysau am y tro cyntaf, mae teulu’r plentyn cyntaf i gael ei dderbyn i’r hosbis plant yn dweud ei fod yn “achubiaeth” i deuluoedd.
Ddydd Iau (Ionawr 25), bydd hi’n 25 mlynedd ers i’r hosbis dderbyn plant â chyflyrau sy’n cwtogi bywyd, a’u teuluoedd, am y tro cyntaf.
Emily Weaver o Ben-y-bont ar Ogwr oedd y cyntaf i gael ei derbyn yno yn 12 oed yn 1999.
Cafodd ei geni â pharlys yr ymennydd, a bu’r cymorth gan yr hosbis a’r staff yn “anhygoel”, yn ôl ei theulu.
Ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod cymorth o’r fath ar gael pan fo’r plentyn yn troi’n oedolyn hefyd, medden nhw.
Y staff yn ’wych’
Yn ôl Liz Weaver, mam Emily, roedd y cymorth oedd ar gael i’w merch a’i theulu cyn sefydlu Tŷ Hafan yn gallu bod yn amrywiol iawn.
Cafodd ei derbyn i’r hosbis plant am y tro cyntaf yn ddeuddeg oed, a bu’r elusen yn “achubiaeth” i Emily a’i theulu, meddai ei mam wrth golwg360.
“Roedden nhw’n hollol anhygoel.
“Wnaethon ni aros yno gydag Emily ychydig o weithiau yn y llety i rieni ond, wrth gwrs, roedd y staff yn cymryd cyfrifoldeb dros ei hanghenion i gyd trwy gydol y dydd a’r nos.
“Felly roedden ni’n gallu cael ychydig o amser rhydd a mynd i’r gwely yn gwybod fod Emily yn cael gofal da.
“Ar ôl ychydig, roedden ni hefyd yn gallu mynd ag Emily yno a dod adref, oherwydd roedd gennym ni gymaint â hynny o hyder ac yn ymddiried yn y staff.
“Roedden ni’n gallu gweld pa mor wych oedden nhw, ac roedd Emily wrth ei bodd efo nhw yno.
“Roedd hi’n cael andros o amser da yno efo nhw.
“Mae Tŷ Hafan yn achubiaeth i gymaint o bobol a theuluoedd, ac mae angen rhannu’r neges yma.”
Cefnogaeth i’r teulu cyfan
Bu’r elusen hefyd yn gymorth i frawd a chwaer Emily – Dale a Claire – meddai Liz Weaver, gan ychwanegu bod croeso mawr iddyn nhw yn yr hosbis.
“Er eu bod nhw ychydig yn hŷn nag Emily, roedd ei chael hi’n dod i mewn i’r tŷ am y tro cyntaf ychydig o sioc ddiwylliannol iddyn nhw hefyd, gan nad oedd yn bosib i ni jest gwneud planiau fel oedden ni ynghynt, ble roedden ni’n gallu dweud, ‘Ie, fedrwn ni wneud hyn fory, a gwneud hyn wythnos nesaf’.
“Oherwydd cyflwr Emily, roedd hynny, yn anffodus, yn gorfod dod yn gyntaf.
“Fe wnaethon nhw sylweddoli hynny, a wnaethon nhw erioed cwyno amdano.
“Roedd pob amser croeso i Dale a Claire yn Nhŷ Hafan, ac roedd hynny yn hyfryd yn ei hun.
“Fe gawson nhw gefnogaeth gan y staff, yn amlwg ddim i’r un lefel â gafodd Emily, ond roedd o’n neis eu bod nhw’n teimlo bod pobol eraill ar gael i siarad â nhw yn hytrach na dim ond eu rhieni.
“Roedd hynny’n bwysig, achos doedden nhw ddim wastad eisiau siarad gyda’u mam a dad a theimlo eu bod nhw’n rhoi ychydig o bwysau arnom ni.”
Edrych i’r dyfodol
Wrth weld rhieni iau yn magu plant â chyflyrau tebyg erbyn hyn, mae Liz Weaver yn poeni nad ydyn nhw’n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Ond mae hi’n gobeithio y bydd Tŷ Hafan yn parhau i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth yma am ddegawdau i ddod.
“Mewn 25 mlynedd, dw i’n gobeithio y bydd Tŷ Hafan yn parhau i fodoli,” meddai.
“Yn anffodus, gyda’r ffordd mae’r wlad yn mynd, dw i’n gweld rhieni ifanc sydd ddim bob tro’n cael yr help maen nhw eu hangen erbyn hyn, ac os gallan nhw ddefnyddio cyfleuster fel Tŷ Hafan, byddai’n newid eu bywydau.
“Felly dw i’n gobeithio y bydd Tŷ Hafan yno mewn mwy na 25 mlynedd.”
Dim digon o gefnogaeth dros 18 oed
Gan mai elusen i blant yw Tŷ Hafan, doedd hi ddim yn bosib i Emily Weaver dderbyn cymorth ganddyn nhw wedi iddi droi’n 19 oed.
Dros y cyfnod hwn, wrth iddi droi’n oedolyn, roedd ei theulu’n teimlo bod y cymorth oedd ar gael yn dirywio’n gyflym.
“Aeth o i lawr yr allt yn gyflym iawn,” meddai.
“Gan ei bod hi’n gadael yr ysgol hefyd, roedd hi yn yr ysgol ar y dydd Gwener a dyna fo… Erbyn dydd Sadwrn, roedd hi adref llawn amser.
“Felly roedd rhaid i ni frwydro eto i gael y cymorth roedd hi ei angen.
“Erbyn hyn, rydyn ni mewn lle ble mae gennym ni gynllun gofal da ar gyfer Emily, ond mae hynny wedi cymryd lot o waith a brwydro gennym ni i gael beth oedden ni’n meddwl roedd hi ei angen.
“Dw i’n siŵr nad ydy’r system wedi gwella llawer ar gyfer rhieni ieuengach sy’n dod trwy’r system erbyn hyn chwaith.”