Mae gwleidyddion ac elusennau wedi beirniadu Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 23).
Does “fawr o obaith i deuluoedd ac ymarferwyr” yn y strategaeth, a dydy hi ddim chwaith yn egluro pryd y caiff y newidiadau eu rhoi ar waith, yn ôl elusen Achub y Plant.
Nod Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol byw mewn tlodi, a gwella cyfleoedd i blant sy’n byw mewn tlodi.
Wrth lansio’r strategaeth newydd, dywed Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip y Llywodraeth, y byddan nhw’n defnyddio pob pŵer sydd ganddyn nhw wrth gydweithio â sefydliadau eraill i wneud tlodi plant yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru dros y degawd nesaf.
Pum amcan
Mae mwy na 3,000 o blant, pobol ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi helpu i greu’r Strategaeth Tlodi Plant, sy’n seiliedig ar ymrwymiad i hawliau plant wrth fynd i’r afael â “phla” tlodi plant.
Mae pum amcan hirdymor i’r strategaeth, sef:
- lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd
- creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobol ifanc a’u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial
- cefnogi llesiant plant a’u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi
- sicrhau bod plant, pobol ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobol a’r gwasanaethau sy’n gweithio efo nhw ac yn eu cefnogi, a herio’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi
- sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.
Diffyg cynllun cyflawni yn ‘siomedig’
Fydd y strategaeth newydd ddim yn gwneud ryw lawer i godi plant allan o dlodi heb gynllun cyflawni, yn ôl pennaeth Achub y Plant.
“Pan rydyn ni’n siarad â phlant am eu profiadau o fyw mewn tlodi maen nhw’n sôn am obaith – gobaith y bydd eu dyfodol yn wahanol,” meddai Melanie Simmonds.
“Dylai mynd i’r afael â thlodi plant fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru os nad ydym am golli’r dyhead hwnnw.
“Er ein bod yn croesawu cyhoeddi’r Strategaeth Tlodi Plant newydd heddiw, yr ymdeimlad a gawn yw nad yw’n cynnig fawr o obaith i deuluoedd ac ymarferwyr ac nad yw’n gwneud fawr ddim i egluro sut a phryd y caiff newidiadau eu rhoi ar waith.
“Rydym yn hynod siomedig nad yw’r Gweinidogion wedi cytuno i gyflwyno Cynllun Cyflawni wedi’i ariannu gyda cherrig milltir fesuradwy.
“Hebddo, mae’r gwaith o fonitro cynnydd a rhoi cyfle i’r rhai sy’n byw mewn tlodi ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn dasg anodd iawn.
“Mae ein gwaith yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddod â chymunedau ynghyd i ddod o hyd i atebion. Wrth fwrw ymlaen, rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu fframwaith fonitro i sicrhau bod lleisiau’r rhai sy’n profi effeithiau tlodi yn cael eu clywed yn glir.
“Ni fydd geiriau yn unig yn rhoi gwell dyfodol i blant – maent yn haeddu gweld y geiriau hynny yn cael eu gweithredu.”
Galw am osod ’targedau statudol’
Un arall sydd wedi beirniadu’r strategaeth yw Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.
Mewn cynhadledd fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 23), adleisiodd Sioned Williams alwadau Achub y Plant Cymru am fodd o fonitro cynnydd y strategaeth, a hynny drwy osod targedau statudol.
“Mae’n anodd credu bod Llywodraeth Cymru wedi gadael i bedair blynedd fynd heibio ers diweddaru’r strategaeth ddiwethaf,” meddai.
“Dw i ddim yn meddwl y gall y llywodraeth chwaith gelu’r ffaith mai ei anallu i fynd i’r afael â thlodi plant yw efallai gwaddol mwyaf cywilyddus ei 25 mlynedd mewn grym.
“Roedd y penderfyniad yna i droi cefn ar y targed o waredu tlodi plant erbyn 2020 yn adrodd cyfrolau, dw i’n meddwl, am agwedd esgeulus, a diffyg atebolrwydd y llywodraeth tuag at fater sydd, wrth gwrs, yn ein pryderu ni oll ac yn niweidio dyfodol ein cenedl.
“Mae’n destun pryder, ac yn destun cywilydd, yn fy marn i, fel rydyn ni wedi clywed gan y Comisiynydd Plant bore yma yn rymus iawn, nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y dystiolaeth yn ystod y cyfnod o ymgynghori ar y strategaeth gan y llu yna o asiantaethau sydd wedi dadlau o blaid pwysigrwydd targedau statudol er mwyn sicrhau newid a gweithredu mwy strategol.”
‘Ffeithiau ddim yn dweud celwydd’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig o’r un farn hefyd, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru’n siarad heb weithredu.
“Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru ers 25 mlynedd, ond er gwaethaf faint maen nhw’n trio cuddio’r gwir, dydy’r ffeithiau ddim yn dweud celwydd,” meddai Mark Isherwood, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Yr wythnos hon, rydyn ni wedi gweld cynnydd sy’n peri pryder mewn tlodi ymysg plant ar aelwydydd lle mae gan y rheini waith, yn amlwg dyw gweithredoedd Llafur ddim yn ddigon da.”