Mae mynd i’r afael â thlodi plant “yn ganolog i bopeth” maen nhw’n ei wneud, yn ôl Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

Nod Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol byw mewn tlodi, a gwella cyfleoedd i blant sy’n byw mewn tlodi.

Wrth lansio’r strategaeth newydd, dywed Jane Hutt, Prif Chwip y Llywodraeth, y byddan nhw’n defnyddio pob pŵer sydd ganddyn nhw wrth gydweithio â sefydliadau eraill i wneud tlodi plant yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru dros y degawd nesaf.

Mae mwy na 3,000 o blant, pobol ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi helpu i greu’r Strategaeth Tlodi Plant, sy’n seiliedig ar ymrwymiad i hawliau plant wrth fynd i’r afael â phla tlodi plant.

Mae pum amcan hirdymor i’r strategaeth, sef:

  • Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd
  • Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobol ifanc a’u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial
  • Cefnogi llesiant plant a’u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi
  • Sicrhau bod plant, pobol ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobol a’r gwasanaethau sy’n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi
  • Sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Gweld y strategaeth ar waith

Mae Mark Drakeford a Jane Hutt wedi bod yn ymweld â dau brosiect unigryw sy’n dangos y Strategaeth Tlodi Plant ar waith.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon nhw ymweld â phrosiect ‘banc pob dim’ cyntaf Cymru – Cwtch Mawr – sydd wedi’i sefydlu yn Abertawe.

Mae busnesau yn darparu nwyddau sydd dros ben ganddyn nhw, gan gynnwys cynhyrchion glanhau, nwyddau cartref mae modd eu hailddefnyddio, nwyddau ymolchi, dodrefn, llenni ac ati i bobl nad ydyn nhw’n gallu eu fforddio, yn rhad ac am ddim.

Mae’r rhain yn cael eu dosbarthu i bobol mewn angen, diolch i rwydwaith o bartneriaid cyfeirio sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac elusennau.

Mae prosiect Cwtch Mawr yn arddangos egwyddor gwaith partneriaeth, ac mae’n ymateb uniongyrchol i amcanion hirdymor allweddol yn y Strategaeth Tlodi Plant i gydweithio â phartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Ymwelodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt hefyd â Chanolfan Adnoddau Blaenafon yn Nhorfaen ddoe (dydd Llun, Ionawr 22), gyda Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig y Cytundeb Cydweithio, i lansio Siarter Budd-daliadau Cymru.

Mae Canolfan Adnoddau Blaenafon yn cynnig cymorth uniongyrchol a gwasanaeth cyfeirio i bobol sy’n cael trafferth delio â’r argyfwng costau byw, gan roi cyngor a helpu’r bobol fwyaf anghenus i dalu am eu hynni, eu bwyd ac eitemau hanfodol ar gyfer y cartref.

Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn un o ymrwymiadau’r Strategaeth Tlodi Plant, ac mae wedi’i mabwysiadu gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn cadarnhau’r cyd-ymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobol ledled Cymru gael gafael ar gymorth ariannol.

Mae’n amlinellu’r egwyddorion sylfaenol i ddatblygu system fudd-daliadau dosturiol i Gymru, fydd yn sicrhau ei bod yn hawdd i bobol gael gafael ar y budd-daliadau mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, gan helpu i roi arian yn eu pocedi, cael cymaint o incwm â phosibl, a helpu i fynd i’r afael â thlodi plant.

‘Penderfynol’

Yn ôl y Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru’n “benderfynol” o fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol tlodi a gwella cyfleoedd i blant.

“Heddiw, rydyn ni’n amlinellu sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r heriau mwyaf dybryd, gan ddefnyddio’r holl bwerau sydd gyda ni, yn enwedig ein gallu i ddod â sefydliadau a phartneriaid ynghyd i harneisio eu huchelgais a’u hymroddiad cyfunol,” meddai.

“Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r prif bwerau o ran trethi a lles.

“Mae angen iddyn nhw weithio gyda ni i gyflawni’r uchelgais hwn, sef rhoi pob mantais i bob plentyn yng Nghymru.

“Nid plant yn unig sy’n elwa wrth inni fynd i’r afael â thlodi plant – mae o fudd i bob un ohonon ni.”

‘Blaenoriaeth’

“Mae mynd i’r afael â thlodi plant a gweithio gydag eraill i gyflawni hyn yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud fel llywodraeth ar bob lefel yng Nghymru,” meddai Jane Hutt.

“Drwy’r strategaeth hon, rydyn ni’n sicrhau bod tlodi plant yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar draws y llywodraeth.

“Mae Cwtch Mawr a Siarter Budd-daliadau Cymru yn enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth fydd yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.

“Dim ond drwy weithio trawslywodraethol cryf a chydweithio ar lefelau rhanbarthol a lleol, yn ogystal â helpu pobol i wneud y gorau o’u hincwm, a dod o hyd i lwybrau allan o dlodi, y gallwn ni gyda’n gilydd sicrhau hawliau holl blant a phobol ifanc Cymru.”

Mae’r Strategaeth Tlodi Plant yn cynnwys pum amcan allweddol, pum blaenoriaeth ar gyfer gweithredu penodol i gyflawni’r amcanion hyn, ac 19 ymrwymiad pellach, a’u nod yw llywio polisi’r llywodraeth nawr ac yn y dyfodol.