Mae ansawdd yr addysg yng Ngharchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc wedi dirywio i’r fath raddau nes ei bod yn annigonol erbyn hyn, yn ôl arolygiad diweddar.

Yn dilyn arolygiad dirybudd fis Hydref y llynedd, mae Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi wedi canfod fod angen gwella safon yr addysg yn y carchar ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd bechgyn eu trin yn dda o’r eiliad y cyrhaeddon nhw’r carchar, ac roedd y perthnasau cefnogol roedd staff wedi’u meithrin gyda nhw’n golygu y gellid datrys y rhan fwyaf o broblemau neu faterion yn anffurfiol.

Fodd bynnag, roedd nifer y plant gafodd eu gwahanu oddi wrth eu cyfoedion wedi cynyddu, ac roedd ansawdd yr addysg wedi dirywio.

Canlyniadau’r arolygiad

Roedd canlyniadau’r bobol ifanc yn erbyn profion diogelwch, gofal ac adsefydlu iach yr arolygiaeth yn dal yn dda, ond roedd gweithgarwch pwrpasol wedi dirywio o fod yn dda yn 2022 i sefyllfa lle nad oedd yn ddigon da yn yr arolygiad diweddaraf hwn.

Doedd goruchwylio cynnydd plant ddim yn ddigon da chwaith, ac roedd trefniadau partneriaeth a rhanddeiliaid allweddol wedi bod yn araf wrth gefnogi pontio darparwyr addysg yn llwyddiannus.

Doedd gan y Parc ddim strategaeth ddarllen chwaith, a phlant oedd am ddarllen yn methu cael hyd i lyfr o’u dewis, oedd yn “siomedig” yn ôl yr adroddiad.

Roedd Estyn hefyd yn credu bod cwricwlwm mwy cyfyngedig a gwendidau yn ansawdd yr addysgu yn golygu bod darpariaeth addysg wedi gostwng, a bod hyn yn tanseilio’r asesiad cyffredinol ar gyfer gweithgarwch pwrpasol.

Roedd y pryderon yma wedi’u nodi, ac roedd trefniadau partneriaeth i gefnogi gwelliannau yn ansawdd y ddarpariaeth addysg yn cael eu datblygu.

‘Pryderus’

Yn ôl Charlie Taylor, Arolygydd Carchardai Ei Fawrhydi, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ganfod nad yw safon yr addysg yn ddigon da yn y Parc.

“Ar ôl cyfnod estynedig o arweinyddiaeth sefydlog a llwyddiannus, roedd yr YOI mewn cyflwr o drawsnewid,” meddai.

“Roedd cyfarwyddwr newydd wedi cael ei ddwyn i mewn i arwain y carchar yn ei gyfanrwydd, ac roedd pennaeth newydd yr uned blant wedi’i benodi’n ddiweddar.

“Roedd y newid hwn yn cael ei reoli’n dda, gyda’r diwylliant cefnogol a brofir gan staff a phlant yn cael ei gynnal, a rhaglen ardderchog ac arloesol o weithgarwch cyfoethogi.

“Fodd bynnag, roeddem yn bryderus o ganfod, am y tro cyntaf, nad oedd ansawdd yr addysg yn ddigon da.

“Ar y cyfan, mae Carchar y Parc yn parhau i osod esiampl gadarnhaol ar gyfer Sefydliadau Troseddwyr Ifainc eraill, yn enwedig am ei ddiwylliant cadarnhaol, ond gobeithiwn y bydd y cyfarwyddwr newydd yn sicrhau bod y dirywiad mewn gweithgarwch pwrpasol yn para am gyfnod byr yn hytrach na bod yn arwydd o freuder sy’n dod i’r amlwg mewn sefydliad cadarnhaol fel arall.”