Mae Plaid Cymru’n dweud nad oes gan y Blaid Lafur “uchelgais i Gymru”.
Daw sylwadau’r blaid ar ôl i Jo Stevens, yr aelod seneddol uchaf ei statws yn y Blaid Lafur yng Nghymru, ddweud nad ydyn nhw’n awyddus i sicrhau pwerau datganoledig i’r Senedd dros blismona a’r system gyfiawnder troseddol.
Roedd hi’n ymateb i adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy’n dweud y dylid datganoli’r pwerau o San Steffan i’r Senedd.
Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn awyddus ers tro i sicrhau’r pwerau, ond mae sylwadau Jo Stevens yn awgrymu gwahaniaeth barn rhwng y bliad yn y ddwy brifddinas.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gallen nhw ostwng nifer y carcharorion yng Nghymru pe bai ganddyn nhw’r pwerau, gan gyflwyno rhaglenni iechyd meddwl a chefnogaeth i ddefnyddwyr cyffuriau yn hytrach na chyfnodau o garchar.
Roedd datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder troseddol ymhlith argymhellion y Comisiwn gafodd ei sefydlu i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru, oedd wedi cyhoeddi eu hadroddiad yr wythnos ddiwethaf.
Annog Syr Keir Starmer i dderbyn argymhellion y Comisiwn ar annibyniaeth
Laura McAllister: “Dydy pethau cyfansoddiadol ddim yn newid dros nos”