Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn cael ei annog i dderbyn argymhellion Comisiwn y Cyfansoddiad ar annibyniaeth.
Daw hyn ar ôl i adroddiad y Comisiwn, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, ddweud bod annibyniaeth yn opsiwn “hyfyw” i Gymru.
Roedd Llafur eisoes wedi addo “ymgysylltu mewn modd adeiladol” ag argymhellion yr adroddiad.
Daw’r alwad gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ddwy flynedd ar ôl i’r Comisiwn gael ei sefydlu fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng ei phlaid a Llafur yn y Senedd.
Mae’r adroddiad yn cynnwys barn yr holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, sy’n cytuno’n unfrydol â’i argymhellion.
Yr adroddiad
Mae’r adroddiad yn galw am “newidiadau brys”, gan gynnwys:
- datganoli cyfiawnder, plismona ac isadeiledd rheilffyrdd, fyddai’n “gwella atebolrwydd a chyflwyno gwasanaethau”
- “newidiadau mawr yn y ffordd y caiff Cymru ei hariannu” er mwyn sicrhau bod datganoli’n cynnig y “gwerth mwyaf am arian i bobol Cymru”
- angen gwarchodaeth ddeddfwriaethol ar gyfer perthnasau rhynglywodraethol er mwyn “gweithredu’n effeithlon er budd y cyhoedd”.
Yr opsiynau gafodd eu hystyried gan y Comisiwn yw:
- rhagor o ddatganoli i Gymru
- ffederaliaeth yn y Deyrnas Unedig
- Cymru annibynnol
Daw’r adroddiad diweddaraf ar ôl i Lafur gyhoeddi adroddiad Comisiwn ar Ddyfodol y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 2022.
Wnaeth yr adroddiad hwnnw ddim cefnogi datganoli unrhyw bwerau’n llawn, ond roedd yn cynnwys adran oedd yn cyfeirio at sefydlu’r Comisiwn i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan nodi y byddai Llywodraeth Lafur yn “ymgysylltu mewn modd adeiladol â’i argymhellion”.
‘Trobwynt yn nhaith gyfansoddiadol Cymru’
Dywed Liz Saville Roberts y dylai Syr Keir Starmer “fabwysiadu argymhellion yr adroddiad heb oedi”.
“Mae’r adroddiad trawsbleidiol hwn sy’n torri tir newydd yn nodi trobwynt yn nhaith gyfansoddiadol Cymru,” meddai.
“Wedi’i gomisiynu fel rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru, fe wnaeth y Comisiwn ymgysylltu’n eang, a derbyniodd eu hargymhellion gefnogaeth drawsbleidiol unfrydol gan y comisiynwyr.
“Mae’n fater o fyrder bellach fod arweinwyr Llafur y Deyrnas Unedig yn mabwysiadu cynigion yr adroddiad yn gyflym.
“Roedd adroddiad Gordon Brown yn 2022 yn brin o fanylion am Gymru a hynny, mae’n debyg, am fod Llafur yn aros am adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
“Gyda’r adroddiad hwn bellach yn eu dwylo, does gan Lafur ddim esgus dros osgoi ei argymhellion sy’n nodi cam pwysig.
“Bellach, rhaid i Keir Starmer fabwysiadu argymhellion yr adroddiad heb oedi.
“Rhaid iddo fe ymrwymo ar frys, o leiaf i ddatganoli cyfiawnder, plismona, darlledu, Ystâd y Goron ac isadeiledd rheilffyrdd.
“Dylai amlinellu cynlluniau i weddnewid fformiwla cyllido gwallus Cymru ac i ddeddfwriaeth i warchod perthnasau rhynglywodraethol.
“Os yw’n parchu datganoli i Gymru a’r broses annibynnol arweiniodd at y casgliadau hyn, fydd e ddim yn oedi cyn cytuno ar y cynigion hyn.
‘Cyfeiriad y daith yn glir’
“Mae cyfeiriad y daith yn glir yng Nghymru,” meddai wedyn.
“Mae pobol yn cynhesu i’r syniad o annibyniaeth, a bydd y datganiad beiddgar yr adroddiad fod annibyniaeth yn opsiwn ‘hyfyw’ yn rhoi hyder i nifer o bobol i gofleidio ein dyfodol annibynnol heb oedi.
“Mae Plaid Cymru’n falch o fod wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno’r gwaith hanfodol hwn, a byddwn ni’n parhau i amlinellu’r achos dros annibyniaeth.”