Mae adroddiad newydd gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod annibyniaeth yn opsiwn posib i Gymru, ac mae wedi derbyn ymateb cadarnhaol.

Roedd adroddiad y Comisiwn, gafodd ei gadeirio ar y cyd gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, yn edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Wrth edrych ar yr opsiynau posib o ran llywodraethu Cymru yn y dyfodol, noda’r adroddiad nad oes yna’r un dewis perffaith, ond fod sawl opsiwn posib.

Yn ôl yr adroddiad, byddai Cymru annibynnol yn “her gyllidol sylweddol”, ac yn golygu “dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig.”

Fodd bynnag, noda hefyd y byddai’n rhoi mwy o bŵer i Gymru wneud y penderfyniadau sy’n blaenoriaethu’r boblogaeth.

Ymysg yr opsiynau eraill mae atgyfnerthu’r setliad datganoli presennol, neu droi at ffederaliaeth.

Cwestiynau i’r arweinydd nesaf

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ac mae’r grŵp Llafur dros Gymru Annibynnol yn gobeithio y bydd yr awgrymiadau’n cael eu hystyried gan arweinydd nesaf y blaid.

“Mae hwn yn adroddiad hanesyddol, a gomisiynwyd gan Mark Drakeford fel Prif Weinidog,” meddai.

“Dylai holl aelodau’r Comisiwn fod yn falch o’u gwaith.

“Fel y gall Llafur Cymru a’r aelodaeth a roddodd y pwysau ar eu hymrwymiad i 2021 i’r adroddiad hwn.

“Mae’n briodol i’r adroddiad gael ei ryddhau yn ystod misoedd olaf uwch gynghrair Mark ac yng nghanol Etholiad Arweinyddiaeth Llafur Cymru a fydd yn ethol y Prif Weinidog nesaf.

“Mae hwn yn gyfle perffaith i ofyn, ‘A fydd yr ymgeiswyr Arweinyddiaeth yn dilyn eu hargymhellion wrth gael eu hethol? A pha un yw eu dyfodol cyfansoddiadol hoffus?'”

Mae Mark Drakeford ymysg rhai sydd wedi ymateb i’r adroddiad.

“Rwy’n croesawu’r adroddiad, sy’n dilyn dwy flynedd o waith,” meddai.

“Rwyf am ddiolch i’r Comisiwn a phawb o bob rhan o Gymru a gyfrannodd at y broses.

“Mae’r adroddiad terfynol yn foment bwysig yn y ddadl ar daith gyfansoddiadol Cymru.

“Mae’n ddarn difrifol o waith sy’n haeddu ystyriaeth ofalus, a bydd Llywodraeth Cymru yn ei adolygu’n fanwl.”

‘Torri tir newydd’

Un arall sydd wedi croesawu’r adroddiad yw Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, sy’n dweud ei fod yn “torri tir newydd.”

“Mae hwn yn ddarn arwyddocaol iawn o waith ac yn gosod y naws ar gyfer y drafodaeth i ddod ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ac rwy’n gyffrous am y posibiliadau sy’n cael eu harchwilio yn yr adroddiad arloesol hwn,” meddai.

“Mae’n gwbl glir nad yw’r status quo a’r datganoli cyfyngedig sydd gennym yn gynaliadwy.

“Mae angen cymryd camau ar unwaith i adeiladu ar y setliad presennol ac fel plaid byddwn yn annog gweithredu’r gyfres o argymhellion ar gryfhau setliad democratiaeth Cymru ar unwaith.”

Er hynny, aeth yn ei flaen i ddweud na fyddai datganoli gwell na ffederaliaeth yn rhoi’r atebion hir dymor sydd eu hangen ar Gymru.

“Er bod ceisio’r llwybr hwnnw i annibyniaeth yn gynhenid â heriau, rydym yn cydbwyso hynny â’r hyn y mae’r adroddiad yn ei ddweud wrthym am y gwobrau,” meddai.

‘Angen ystyried opsiynau’

Fodd bynnag, dywed Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ei bod hi’n croesawu bod yr adroddiad yn ystyried gwahanol opsiynau yn hytrach nag annibyniaeth lwyr yn unig.

“Rydym yn falch o weld y comisiwn yn archwilio ffyrdd eraill, mwy pragmatig, o sut y gallwn ddiwygio perthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig sy’n cyd-fynd yn well â barn y cyhoedd,” meddai.

“Y gwir brawf i’r Comisiwn yn awr fydd i ba raddau y mae’n sefydlu dull realistig o ddiwygio, ac i ba raddau y mae wedi gosod cynllun i symud pŵer yng Nghymru o Fae Caerdydd, gan roi pŵer i gymunedau ledled Cymru lunio eu tynged a dyfodol eu hunain.”

Er hynny, dywed llefarydd ar ran YesCymru nad yw’r mudiad yn credu bod yr adroddiad yn mynd yn ddigon pell, er eu bod nhw’n ei groesawu.

“Fel mudiad rydym yn credu ei fod yn gam mawr yn y siwrne i fod yn wlad annibynnol,” meddai.

“Er nad yw’r adroddiad yn mynd mor bell â buasem yn hoffi ei weld, mae o yn gwneud yn glir bod y sefyllfa bresennol yn annioddefol a bod lleihau pwerau datganoledig y Senedd ddim er budd pobol Cymru.”

Datganoli’n “angenrheidiol”

Noda’r adroddiad y dylai Cymru gael mwy o bwerau ym meysydd cyfiawnder, plismona, ynni, darlledu a seilwaith rheilffyrdd.

Mae Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yn cytuno bod angen datganoli pellach, a dywed fod annibyniaeth yn “hanfodol er mwyn adeiladu dyfodol tecach a gwyrddach i Gymru”.

“Annibyniaeth yw’r cyfle i wir roi pŵer i bobol Cymru, gan ein galluogi i lunio ein dyfodol ein hunain wrth weithio’n agos gydag ein cymdogion a chenhedloedd bach eraill i wynebu ein heriau a chyfleoedd,” meddai.

‘Prosiect gwagedd’

Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies wedi beirniadu’r Comisiwn am fod yn “brosiect gwagedd”.

“Mae ‘comisiwn cyfansoddiadol’ Llafur a Phlaid yn union fel eu terfynau cyflymder 20m.y.a.,” meddai.

“Prosiect gwagedd.

“Ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ddylai fod yn flaenoriaeth.”

Yn y cyfamser, mae llefarydd Cyfansoddiad y blaid wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “dynnu sylw oddi ar y materion sy’n bwysig i bobol Cymru” ac o “gipio grym”.

“Tra bod rhai agweddau diddorol ar yr adroddiad hwn fydd yn gofyn am ystyriaeth bellach, fydd gwaith y Comisiwn ddim yn gwneud i ambiwlansys gyrraedd yn gynt, nac yn staffio ein hysgolion yn y modd priodol nac yn cefnogi busnesau Cymru.

“Yn hytrach na chipio grym yn barhaus gan weinidogion Llafur Cymru, dylai fod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio fel laser ar fynd i’r afael â rhestrau aros annerbyniol, gwella deilliannau addysg, a gwell cyflog i bobol sy’n gweithio’n galed yng Nghymru.”

Ond mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi “croesawu’r adroddiad yn gryf”.

“Am yn rhy hir o lawer, ni fu gennym ni gyfeiriad clir o ran democratiaeth Cymru,” meddai’r swyddog cenedlaethol Julie Cook.

“Hyd yn oed os ydy pobol yn anghytuno ar argymhellion penodol, does dim amheuaeth fod yr adroddiad hwn yn cynnig dadansoddiad trylwyr o’r heriau mae ein sefydliadau’n eu hwynebu ac, yn hanfodol, mae’n amlinellu argymhellion cryf o ran ble i fynd nesaf.

“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw arweinyddiaeth wleidyddol.

“Mae angen i ni weld gwleidyddion yng Nghaerdydd a Llundain yn ymgysylltu’n ddidwyll a bod yn barod i edrych y tu hwnt i hunan-les cul.

“Mae ein hymchwil yn dangos yn gyson fod mwyafrif clir o weithwyr yng Nghymru o blaid datganoli ac eisiau i’r rhan fwyaf o benderfyniadau polisi gael eu gwneud yng Nghymru.

“Byddwn ni’n parhau i frwydro er mwyn sicrhau bod ein sefydliadau gwleidyddol yn gweithio er mwyn sicrhau bargen deg i weithwyr ledled y wlad, tra byddwn ni hefyd yn parhau i ymrwymo i’r egwyddor y dylid ceisio datganoli rhagor o rym ac adnoddau dim ond pan fo achos clir y bydd hynny er lles pob un sy’n gweithio.”