Mae disgwyl i ysgol gynradd Gymraeg ddechreuodd â deuddeg o ddisgyblion 30 mlynedd yn ôl symud i’w phedwerydd adeilad.

Mae gan Ysgol Gymraeg Y Fenni 254 o ddisgyblion wedi’u cofrestru ar hyn o bryd, ac er bod lle yno i 317 o ddisgyblion, mae cyfran fawr o’r gofod hwnnw’n ddosbarthiadau dros dro sydd wedi’u rhentu gan Gyngor Sir Fynwy, sy’n dweud nad yw’r ddarpariaeth yn diwallu eu “dyheadau o ddarparu amgylcheddau dysgu ac addysgu ardderchog”.

Ymgynghoriad

Bydd y Cyngor bellach yn ymgynghori ar eu cynllun sydd wedi’i gyhoeddi eisoes i symud yr ysgol i hen Ysgol Gynradd Deri View, sydd hefyd yn y Fenni ac a gaeodd er mwyn ffurfio ysgol 3-19 oed ar y cyd ag Ysgol Uwchradd King Henry ac sy’n disgwyl symud i adeilad pwrpasol yn yr hydref.

Bydd symud i Deri View yn galluogi’r ysgol Gymraeg i gynyddu ei chapasiti i 420 o lefydd, ynghyd â darparu 60 o lefydd meithrin.

Cafodd £1m o gyllid cyfalaf ei gytuno er mwyn cefnogi’r symudiad a gwaith atgyweirio, fel rhan o’r amlinelliad achos ar gyfer yr ysgol 3-19 oed.

Roedd yn rhaid i Gabinet Cyngor Sir Fynwy gytuno er mwyn dechrau’r ymgynghoriad, fydd yn rhedeg rhwng Ionawr 29 a Mawrth 11.

Gallai’r Cabinet wneud penderfyniad terfynol ym mis Gorffennaf, a gallai’r disgyblion ac athrawon symud i’r adeilad newydd o fis Ebrill 2025.

‘Adlewyrchu llwyddiant addysg Gymraeg’

“Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant addysg Gymraeg yn ardal y Fenni,” meddai Martyn Groucutt, yr Aelod Cabinet dros Addysg sy’n cynrychioli ward Lansdown.

“Yr hyn yr hoffen ni ei wneud yn y pen draw yw symud Ysgol Gymraeg Y Fenni i’w phedwerydd adeilad; adeilad sy’n fodern y gallwn ni ddal i wario rhywfaint o arian i wneud iddo edrych yn well nag y mae eisoes, fydd yn rhoi addysg Gymraeg mewn sefyllfa gref iawn yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy.

“O’m safbwynt i’n bersonol, dw i wrth fy modd y bydd yn symud i fy ward i, ynghyd â’r ysgol 3-19 oed.”

Er y gallai ymddangos yn “fwlch mawr” rhwng y 254 disgybl presennol a’r cynnig i gael ysgol ddeublyg â 420 o ddisgyblion, meddai’r cynghorydd Llafur, mae’r ysgol wedi gweld y galw’n cynyddu.

“O ddeuddeg i fwy na 400, mae angen i ni ymgynghori a dod â phobol gyda ni.”

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Nod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor, sy’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yw y bydd 115 o ddysgwyr ym mhob blwyddyn gynradd yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2031.

Ysgol Gymraeg Y Ffin yng Nghil-y-coed yw ysgol Gymraeg arall y Cyngor ar hyn o bryd, ac mae gan honno 210 o lefydd, ac mae disgwyl i’r Cyngor agor egin ysgol gynradd yn Nhrefynwy fis Medi.

Dywed y Cyngor fod safle presennol Ysgol Y Fenni wedi cyrraedd ei chapasiti, ac mai symud yw’r opsiwn mwyaf dichonadwy yn ariannol, fydd yn cyflwyno “cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol a datrysiad prydlon i leddfu’r pwysau presennol o ran adeilad” yn yr ysgol.

Agorodd Ysgol Gymraeg Y Fenni ei drysau yn 1994.