Mae rhannau o’r gogledd a’r gorllewin wedi dihuno i olygfeydd gaeafol ers dydd Iau (Ionawr 18), wrth i fwy na 50 o ysgolion orfod cau eu drysau.

Roedd deunaw ynghau yng Ngwynedd a phedair ym Môn.

Roedd deunaw o ysgolion ynghau a chwech wedi’u cau’n rhannol yn Sir Benfro, chwech ynghau yn Sir Gaerfyrddin, ac wyth yng Ngheredigion.

Fe fu rhybudd melyn mewn grym, gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am rew ac eirlaw ac oedi i deithwyr, gan gynnwys ar Bont Britannia ar hyd y Fenai.

Roedd y tymheredd ar ei hisaf (-9 gradd selsiws) ym Mhowys.

Dyma ddetholiad o luniau gan golwg360


Dyma sut roedd pethau’n edrych ar y Moelwynion…

Ac yn Stryd Dinorwig yng Nghaernarfon…

 

 

Y llawr yn wyn ond yr awyr yn oren ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin (Llun: Trefina Jones)…

Stryd a cheir dan eira ym Mangor (Llun: Mair Rhiannon Martin)…

Heulwen ond eira ar y Pier ym Mangor (Llun: Siân Morgan)…

Dyma gyfres o luniau gan Rhys Llwyd yng Nghaernarfon…

 

 


Sut mae’r eira’n edrych yn eich ardal chi? Rhowch wybod i ni, a danfonwch eich lluniau draw.