Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhelliad Adroddiad Comisiwn y Cyfansoddiad y dylid datganoli darlledu i Gymru.
Dywed y mudiad y byddai’r argymhellion “yn creu cyfleoedd gwell i adeiladu dyfodol cynaliadwy i’r Gymraeg a chymunedau Cymru”.
Ond maen nhw’n dweud mai’r “hyn sydd ei angen yw annibyniaeth gwirioneddol fydd yn grymuso a chryfhau ein cymunedau”.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu’n arbennig yr argymhelliad ynghylch datganoli darlledu, gan ei fod yn “ychwanegu at y consensws cynyddol” y dylid cyflwyno pwerau o’r fath yn y maes.
“Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posib at ddatganoli.”
Adroddiad y Comisiwn
‘Llu o ganfyddiadau arwyddocaol i’r Gymraeg’
Yn ôl Mirain Owen, is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, mae “llu o ganfyddiadau arwyddocaol i’r Gymraeg” yn yr adroddiad, “gan gynnwys yr angen i adolygu trefniadau llywodraethiant a gwariant cyhoeddus yng Nghymru i’w gwneud yn fwy democrataidd”.
“Mae adroddiad Comisiwn y Cyfansoddiad yn adnabod diffygion system sydd wedi’i ganoli yn Llundain ac yn ychwanegu at y consensws cynyddol bod angen diwygio’r gyfundrefn ddarlledu yng Nghymru,” meddai.
“Croesawn ei argymhelliad i barhau i weithio tuag at ddatganoli grymoedd dros darlledu er budd ein hiaith, ein diwylliannau a’n democratiaeth ac rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb trwy sefydlu’r Awdurdod Darlledu Cysgodol fydd yn edrych ar bosibiliadau ar gyfer datganoli grymoedd darlledu.”