Mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio gyrwyr yn y gogledd i gynllunio’u teithiau ymlaen llaw, yn sgil gwaith “hanfodol” ar yr A55.

Bydd lonydd yn cael eu cau yn eu tro ar y ffordd rhwng Cyffordd 36, Cyfnewidfa Warren a’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ddiwedd y mis yma.

Bydd y gwaith yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth.

Bydd y gwaith i atgyweirio’r baeau concrid gwaelodol a rhoi wyneb newydd ar y ffordd yn dechrau i gyfeiriad y dwyrain, ac wedyn i’r gorllewin yn ddiweddarach.

Bydd y ffordd yn arwain at gyffordd 36A Parc Manwerthu Brychdyn yn cael ei thrwsio ac yn cael wyneb newydd o Ionawr 26, er mwyn paratoi ar gyfer y prif waith fydd yn dod i ben ar Fawrth 25.

Dywed y Llywodraeth y bydd wyneb newydd y ffordd yn sicrhau teithiau mwy diogel a thawel i fodurwyr, ac y bydd yn golygu llai o achosion lle bydd angen cau’r ffordd ar gyfer gwneud atgyweiriadau brys ar y rhan hon o’r A55.