“Creulonder pur ar ffurf mesur seneddol” yw Mesur Rwanda, gafodd ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Fercher, Ionawr 17), yn ôl Liz Saville Roberts.
Roedd adroddiadau bod Rishi Sunak, Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, yn wynebu cryn wrthdystiad ond dim ond unarddeg o’i aelodau seneddol bleidleisiodd yn erbyn y ddeddfwriaeth yn y pen draw.
Nod y Mesur yw atal heriau cyfreithiol yn erbyn y cynlluniau i ddanfon ceiswyr lloches i Rwanda.
Cafodd ei dderbyn o 320 o bleidleisiau i 276, ac roedd dwsinau o Geidwadwyr yn teimlo bod diffygion sylweddol yn y ddeddfwriaeth er ei bod nhw wedi ei chefnogi yn y pen draw.
Mae disgwyl i ddeddfwriaeth Rishi Sunak wynebu cryn feirniadaeth a gwrthwynebiad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Yn ôl Rishi Sunak, byddai anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn ddigon o rwystr fel y bydden nhw’n meddwl ddwywaith cyn ceisio cwblhau’r daith dros y Sianel o Ewrop, ac maen nhw’n gobeithio dechrau hediadau yn y gwanwyn.
‘Darn eithafol o ddeddfwriaeth’
“Creulonder pur ar ffurf mesur seneddol” yw disgrifiad arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan o’r Mesur.
“Mae Bil Rwanda’n ddarn eithafol o ddeddfwriaeth sy’n creu arf allan o ffoaduriaid ar gyfer dadleuon mewnol y Torïaid,” meddai.
“Mae pobol, yn gwbl gyfiawn, wedi diflasu ar ryfeloedd diwylliant Torïaidd parhaus.”
Un arall fu’n ymateb yn chwyrn yn ystod y ddadl yw Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, oedd yn amau na fyddai’r ddeddfwriaeth yn llwyddiannus.
“Fydd y Bil hwn ddim yn gweithio, a dw i wedi syrffedu ag addewidion gwag,” meddai.
“Os nad yw dyfroedd rhewllyd y sianeli all gipio bywyd mewn munud yn rhwystr, sut fydd siawns o 1% o gael eich anfon i Rwanda yn gweithredu fel rhwystr?” meddai.