Mae’r penderfyniad i wrthod yr hawl i’r Alban dderbyn pwerau tros gynnal refferendwm annibyniaeth heb sêl bendith San Steffan yn “enghraifft arall o ddyfodol gwlad yn cael ei reoli gan wlad arall”, yn ôl Iestyn ap Rhobert.
Dydd Mawrth (Ionawr 16), cafodd y cynnig gan Neale Havey, arweinydd plaid Alba yn San Steffan, i ddiwygio Deddf yr Alban 1998 i drosglwyddo’r pŵer i gynnal pleidlais annibyniaeth i Senedd yr Alban ei wrthod.
Fe fu’n dadlau yn San Steffan dros sicrhau mai dim ond pan fydd y cyhoedd yn yr Alban wedi dangos eu cefnogaeth am refferendwm a bod saith mlynedd rhwng pleidleisiau y bydd modd defnyddio pŵer o’r fath.
Cafodd ei wrthwynebu gan Christine Jardine, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol ac ar ôl pleidlais, daeth cadarnhad gan Rosie Winterton, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, bod y cynnig wedi’i drechu – o 228 o bleidleisiau i 48.
Dangosodd y rhaniad fod 38 o Aelodau Seneddol yr SNP a’r Ceidwadwr Philip Hollobone ymhlith y cefnogwyr, a bod 57 o’r Ceidwadwyr, 147 o aelodau Llafur ac 13 Democrat Rhyddfrydol wedi gwrthod y cynnig.
Cyn y bleidiais, nododd Alba fod y Bil yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol yr SNP – Joanna Cherry, Douglas Chapman a Carol Monaghan – ynghyd â Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Mewn datganiad yn San Steffan, nododd Neale Havey fod addewidion wedi’u gwneud yn dilyn refferendwm annibynniaeth 2014.
“Cytunir nad oes dim yn yr adroddiad hwn yn atal yr Alban rhag dod yn wlad annibynnol yn y dyfodol pe bai pobol yr Alban yn dewis gwneud hynny,” meddai.
O dan Gytundeb Gwener y Groglith, mae gan Ogledd Iwerddon yr hawl i gynnal refferendwm ar Iwerddon Unedig bob saith mlynedd, sy’n sefyllfa dra wahanol i’r Alban a Chymru.
Beth fydd dyfodol yr Alban?
Wrth siarad â golwg360, dywed Iestyn ap Rhobert, sy’n gefnogwr annibyniaeth i’r Alban a Chymru, fod yma “enghraifft arall o ddyfodol gwlad yn cael ei reoli gan wlad arall”.
Dywed na fydd “gobeithion yr Alban yn pylu”.
“Oherwydd, pan mae pobol yn gweld bod eu dyfodol yn cael ei reoli gan eraill, maen nhw’n ymateb drwy geisio ennill pwerau i’w hunain,” meddai.
Ychwanega y bydd hyn yn eu “sbarduno i feddwl eto am sut maen nhw am daclo annibynniaeth”.
Er nad yw’r niferoedd o blaid annibyniaeth i’r Alban wedi gostwng, efallai bod y “spotlight yn troi o amgylch yr SNP, a bod angen i bobol ehangu’r frwydr”, meddai.
Beth am y sefyllfa yng Nghymru?
Mae sefyllfa’r Alban yn codi cwestiynau ynghylch beth fydd dyfodol Cymru ac ymgyrch YesCymru.
Mae’r sefyllfa yng Nghymru ychydig yn wahanol, gan fod gan y Senedd yng Nghaerdydd y grym i gynnal arolwg barn neu refferendwm ynghylch sut ddylai gweinidogion weithredu eu pwerau.
Felly, mae gan Gymru yr hawl i gynnal refferendwm ac er bod rhai materion cyfansoddiadol y tu allan i rymoedd y Senedd, mae modd iddyn nhw gynnal refferendwm er mwyn holi barn y bobl a ddylid cynnal refferendwm annibynniaeth – yn debyg i bleidlais Catalwnia yn 2017.
Atega Iestyn ab Rhobert nad yw’n rhagweld y bydd yr hyn ddigwyddodd yn San Steffan ddydd Mawrth yn atal Cymru yn ei hymdrechion am annibyniaeth, am mai “annibynniaeth yw’r allwedd”.
Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach, wedi i adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 18).
Mae Iestyn ap Rhobert yn rhagweld y bydd yr adroddiad fwy na thebyg yn dangos bod y “genhedlaeth ifanc o blaid annibynniaeth, ac mai hwy fydd yn arwain Cymru i annibynniaeth”.