Doedd hi ddim yn syndod fod Donald Trump wedi ennill brwydr gyntaf ras y Gweriniaethwyr ar gyfer enwebu’r Arlywydd nesaf yn nhalaith Iowa yr wythnos hon, yn ôl y newyddiadurwr Maxine Hughes.
Enillodd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau gyda mwyafrif anferth, gan ennill mwyafrif y pleidleisiau ym mhob un swydd namyn un – lle collodd o un bleidlais.
Tri sydd yn y ras i gael eu henwebu’n ymgeisydd y Gweriniaethwyr ar gyfer yr etholiad arlywyddol nesaf ym mis Tachwedd – Donald Trump, Ron DeSantis, cyn-lywodraethwr Florida, a Nikki Haley, fu’n llywodraethwr yn Ne Carolina.
Fe wnaeth y pedwerydd ymgeisydd, Vivek Ramaswamy, gamu o’r neilltu ddydd Mawrth (Ionawr 16) a rhoi ei gefnogaeth i Donald Trump.
Mae Iowa, wnaeth bleidleisio o blaid Ted Cruz yn y ras wyth mlynedd yn ôl, yn dalaith “weriniaethol, hollol goch”, yn ôl Maxine Hughes, sy’n gweithio yn Washington D.C.
“Yn mynd mewn i’r ras [yn Iowa], roedd hi’n amlwg fod Trump yn arwain gyda mwyafrif mawr iawn, ac felly’r cwestiwn mawr oedd pwy oedd yn mynd i ddod yn ail,” meddai wrth golwg360.
“Dw i ddim yn meddwl fod o’n syndod mawr fod Ron DeSantis wedi curo Nikki Haley; dw i’n meddwl fod gan Ron de Santis bolisïau sy’n debyg iawn i Donald Trump, felly mewn lle fel Iowa, sydd yn goch iawn, sydd yn disgyn mwy ar bolisiau Trump, yn amlwg maen nhw am fynd am rywun sy’n fwy tebyg i Trump os dydyn nhw ddim eisiau Trump.
“Dw i yn meddwl hefyd fod Nikki Haley wedi gwneud yn eithaf da.
“Dw i’n meddwl ei bod hi wedi rhoi popeth mewn i’r ras yn New Hampshire – dyna lle mae hi’n gallu gwneud yn dda.
“Mae Iowa yn dangos fod Trump rŵan yn wir bosibilrwydd ar gyfer y Tŷ Gwyn, ond mae e hefyd yn dangos fod yna ddau mewn ail safle sydd dal yn y ras.”
Troi’r golygon at New Hampshire
Bydd y bleidlais yn New Hampshire yn cael ei chynnal dydd Mawrth nesaf (Ionawr 23), ac ar ôl hynny bydd yna well syniad o sut mae pethau’n edrych, yn ôl Maxine Hughes.
“Os mae Nikki Haley yn llwyddo i ennill New Hampshire, mae yna ddau gwestiwn wedyn – oes yna ras rhwng Nikki Haley a Donald Trump?
“Ydy’r blaid yn mynd i ddechrau meddwl bod Nikki Haley yn opsiwn sydd ddim yn Donald Trump, sydd efallai’n rhywun sy’n gallu ennill yn erbyn Joe Biden?
“Yn amlwg, mae New Hampshire yn mynd i ddangos os ydy pobol sydd fel arfer yn pleidleisio i’r Democratiaid yn fodlon pleidleisio ar gyfer menyw sydd dal yn weriniaethwr ond fwy yn y canol.
“Os dydy Nikki Haley ddim yn gwneud cystal â mae pobol yn ei ddisgwyl, ydy hi wedyn yn mynd i ddisgyn allan o’r ras? Ydy hi’n ras un ceffyl efo dim ond Donald Trump?
“Os ydy pobol yn licio Ron DeSantis, yn y pendraw dw i ddim yn gweld bod pobol yn mynd i ddewis Ron DeSantis dros Donald Trump pan mae hi’n dod lawr i’r ras ym mis Tachwedd yn erbyn Joe Biden.
“Mae’n mynd i fod yn anodd iawn i rywun ennill yn erbyn Trump.
“Ym mhob un o’r ffigurau rydyn ni’n edrych arnyn nhw, mae Trump yn arwain.”
Problem y Democratiaid
Mae’r cyd-destun ehangach yn ddigynsail, wrth i Donald Trump wynebu 91 o gyhuddiadau’n ymwneud â phedwar achos troseddol.
Pe bai’r Unol Daleithiau yn ei gadw oddi ar y papur pleidleisio, byddai hynny’n newid y darlun yn llwyr.
“Ar hyn o bryd, os fysa’n rhaid i fi roi pres arno fo, fyswn i’n dweud ein bod ni’n mynd i weld ras rhwng Donald Trump a Joe Biden ym mis Tachwedd, ac fel rydyn ni wedi gweld o’r blaen, does yna ddim lot rhyngddyn nhw,” meddai Maxine Hughes.
“Mae’n bosib y bydd Donald Trump yn ennill yn erbyn Joe Biden – dw i ddim yn meddwl bod o’n done deal o gwbl.
“Mae’n mynd i fod yn ras agos iawn, a dw i’n meddwl fod gan y Democratiaid ofn.”
Bydd Joe Biden yn gobeithio am ail dymor yn y Tŷ Gwyn, wedi iddo gyhoeddi ei fwriad i sefyll eto ym mis Ebrill.
Mae dau arall, Dean Phillips a Marianne Williams, yn y ras yn ei erbyn ar gyfer enwebiad y Democratiaid, ond mae’n debyg mai Joe Biden ddaw i’r brig.
“O ran y Democratiaid, dw i’n meddwl mai’r broblem sydd gyda nhw ydy cysylltu gyda phobol yn America,” meddai Maxine Hughes.
“Mae pobol sy’n siarad â phobol yn Washington D.C. yn teimlo’n hyderus iawn am Joe Biden.
“Maen nhw’n teimlo fod e wedi gwneud yn dda iawn ar yr economi, a bod yr economi wedi gwella – ac mae hynny’n gywir. Mae o wedi gwella.
“Ond y broblem ydy fod y neges yna ddim yn cyrraedd y bobol sydd allan yn y fly over states – llefydd fel Iowa, New Hampshire, Pennsylvania, lle rydych chi’n gweld y blue-collar workers.
“Ond mae neges Donald Trump yn cyrraedd yno; mae gan ei ymgyrch a’i dîm ffordd o siarad efo Americanwyr sy’n gweithio, a dyna’r her fwyaf i’r Democratiaid, fyswn i’n ddweud.”
‘Stori am gymdeithas’
Ers anhrefn y Capitol yn Washington ar Ionawr 6, 2021, a’r ffaith fod dros 1,000 o bobol bellach wedi cael eu harestio am eu rhan yn y digwyddiad, mae cefnogwyr Donald Trump yn teimlo’n gryfach nag erioed dros ei achos, yn ôl Maxine Hughes.
“Roedd Donald Trump yn dweud nos Sul, pan oedd o dal i ymgyrchu yn Iowa, wrth ei gefnogwyr, ‘Dewch allan i bleidleisio, hyd yn oed os ydych chi’n marw wedyn achos ei bod hi mor oer’.
“Dyna pa mor bwysig yw e – ‘Mae’n rhaid i ni achub America’ – ac mae pobol yn coelio hynna.
“Roedd pobol yn fodlon dod allan mewn tymheredd o dan sero.
“Dyna beth rydyn ni’n ei weld efo Donald Trump; mae ei stori fo’n stori wleidyddol ond mae hi hefyd yn stori ddiwylliannol, stori am gymdeithas yn America,” meddai, gan ychwanegu bod cynnydd mewn agweddau a mudiadau ar yr asgell dde eithafol yn rywbeth sy’n cael ei weld mewn llefydd fel Ffrainc a’r Almaen hefyd.
“Sefyllfa ddiwylliannol ydy hi, a sut rydyn ni’n cau’r bwlch yna rhwng y chwith a’r dde, a sut mae pobol yn mynd i ddechrau trafod pethau mewn ffordd resymol yn lle gweld yr ymladd a’r trais.”
Mae grwpiau eithafol wedi dechrau mynd allan ar y strydoedd eto yn yr Unol Daleithiau, meddai, ac maen nhw fwy eithafol fyth y tro hyn.
“Y grwpiau oedd allan ar y strydoedd cyn yr etholiad diwethaf, roedden nhw’n grwpiau eithafol fel y Proud Boys, ond doedden ni ddim yn gweld llawer iawn o hiliaeth gref, dim goruchafiaeth gwyn ac ati. Roedd yna hiliaeth wrth gwrs, ond doedd o ddim mor amlwg.
“Rŵan, ar ôl Ionawr 6, oherwydd eu bod nhw wedi arestio gymaint o bobol, mae’r grwpiau yna wedi stopio mynd allan, mae hwnna wedi stopio’r grwpiau oedd yn fodlon siarad â’r cyfryngau a bod yn amlwg ar y strydoedd.
“Ond be’ rydyn ni’n ei weld rŵan ydy grwpiau hyd yn oed yn fwy eithafol sy’n datblygu, grwpiau sydd â dim ots os ydyn nhw’n cael eu harestio.
“Mae hwnna lot fwy peryglus; mae gennym ni grwpiau rŵan sydd yn llythrennol yn white supremacists, grwpiau sy’n gwisgo swastikas.
“Mae pobol yn siarad am America fel bod yna ryw fath o bosibilrwydd o ryfel sifil, a dw i ddim yn meddwl bod hynna’n anghywir rŵan.
“Os ydyn ni’n cario ymlaen i weld y grwpiau yma’n tyfu, dw i’n meddwl fod yna bosibilirwydd go iawn i rywbeth anffodus iawn ddigwydd yma.”